Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ken Skates wedi galw ar Lywodraeth y DU i ddefnyddio ei Strategaeth Ddiwydiannol newydd i gywiro tan-gyllido hanesyddol yng Nghymru ac i fuddsoddi mewn diwydiant o safon fyd-eang yng Nghymru.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth ryddhau ymateb Llywodraeth Cymru i Strategaeth Ddiwydiannol y DU, dywedodd Gweinidog yr Economi bod nifer o brosiectau o safon byd-eang i Lywodraeth y DU eu cefnogi, gan wneud cais i Lywodraeth Cymru dderbyn ei chyfran haeddiannol o gyllid Llywodraeth y DU ar gyfer diwydiant.  

Cyflwynodd Gweinidog yr Economi nifer o feysydd hefyd ble y gallai Llywodraeth y DU gydweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau datblygiadau cychwynnol, ond mynegwyd siomant parhaus dros benderfyniad diweddar Llywodraeth y DU i newid eu meddyliau ynghylch eu haddewid i drydaneiddio’r brif reilffordd i Abertawe.  Pwysleisiodd bod cyfran deg o’r cyllid yn hollbwysig os oedd diwydiant yng Nghymru i fanteisio i’r eithaf ar y posibiliadau.  

Meddai Ken Skates:

“Rwyf wedi ymgyrchu dros y sector diwydiant yng Nghymru erioed, a’r posibiliadau gwych sydd yma i sbarduno twf economaidd yng Nghymru.  

“O weithgynhyrchu awyrofod o safon fyd-eang ar Lannau Dyfrdwy, i’r arbenigedd niwclear ar Ynys Môn, a phosibiliadau gwych y clwstwr lled-ddargludyddion newydd yn y De-ddwyrain, mae diwydiant, technoleg a sgiliau blaenllaw iawn yng Nghymru a allai fod yn bwerdy ar gyfer twf y DU yn y dyfodol.  

“Ond er mwyn gwneud y gorau o’r cyfle hwnnw, mae angen buddsoddiad a chefnogaeth – ac er bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud ei rhan drwy helpu i gefnogi 150,000 o swyddi yn nhymor diwethaf y Cynulliad, mae Cymru’n aml wedi cael ei diystyru a’i hanghofio gan Lywodraeth y DU.  Mae canslo y gwaith o drydaneiddio’r rheilffordd i Abertawe yn ddiweddar yn un o’r penderfyniadau mwyaf di-ddychymyg a niweidiol i’w gwneud yn ddiweddar.  

“Fel yr ydym wedi ei wneud yn amlwg ym manylion ein hymateb, mae Strategaeth Ddiwydiannol y DU, gyda chyfran deg o’r cyllid sy’n gysylltiedig ag ef, yn rhoi cyfle i Lywodraeth y DU ddechrau dad-wneud y difrod hwnnw, a chyd-weithio â ni i gefnogi rhai o’n prosiectau a’n pobl sydd o safon wirioneddol uchel.  

“O’r penderfyniad ar Forlyn Llanw Abertawe i ddatganoli y Toll Teithwyr Awyr, mae amrywiol fesurau y gallai Llywodraeth y DU eu rhoi ar waith ar unwaith i gefnogi twf yng Nghymru.  

“Mae mesurau eraill hefyd y gallai Llywodraeth y DU eu rhoi ar waith i helpu ein diwydiannau strategol pwysig i foderneiddio a ffynnu.  Gyda’r diwydiant dur, er enghraifft, mae swyddi wedi eu diogelu trwy weithredu ar fyrder gan Lywodraeth Cymru, ond mae angen i Lywodraeth y DU wneud ei rhan hefyd.  Gallai ei chefnogaeth i brisiau ynni is a Chanolfan Arloesi Dur Genedlaethol yng Nghymru roi’r diwydiant mewn sefyllfa gryfach at y dyfodol.  

“Ac o ran y diwydiant moduro, gallai cefnogaeth Llywodraeth y DU i gerbydau allyriadau isel a cherbydau sydd â chysylltiad â’r we y genhedlaeth nesaf, neu fuddsoddiad mewn ymchwil a datblygu ar gyfer technoleg bateri newydd yng Nghymru agor cyfleoedd mawr ar gyfer twf newydd, cynhyrchiol.”  

“Mae ein hymateb yn dangos yn glir ein bod yn awyddus i weithio’n gynhyrchiol gyda Llywodraeth y DU ar y Strategaeth Ddiwydiannol hon, ond rydym am i’r DU roi rhywbeth yn ôl, tra’n parchu’r setliad a gafwyd wrth ddatganoli, a rhoi cyfran deg o’r cyllid yr ydym ei angen.”