Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am y gweithgareddau dysgu a statws y farchnad lafur ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed ar gyfer 2017 a 2018 (dros dro).

Data dros dro ar gyfer 2018

Pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed

  • Gostyngodd cyfranogiad bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed mewn rhyw fath o addysg neu hyfforddiant i 78.3% yn 2018 o’i gymharu â 79.8% yn 2017.
  • Mae’r gyfran mewn cyflogaeth wedi cynyddu flwyddyn ar flwyddyn ers 2011, yn dilyn tueddiad i lawr o 2004.
  • Mae’r gyfran sydd heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET) wedi amrywio o gwmpas 10-13%. Bu cynnydd i 10.3% yn 2018 o 9.4% yn 2017.

Pobl ifanc rhwng 19 a 24 oed

  • Mae’r gyfran o bobl ifanc rhwng 19 a 24 oed mewn rhyw fath o addysg neu hyfforddiant wedi amrywio o gwmpas 37% a 39% ers 2004.
  • Bu gostyngiad yn y gyfran mewn cyflogaeth rhwng 2004 a 2012, ond mae wedi cynyddu yn y blynyddoedd dilynol.
  • Yn 2018 roedd y gyfran sydd heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET) yn 16.1%, dim newid o’r flwyddyn flaenorol. Cyn 2018 bu gostyngiad yn y ffigwr hwn ym mhob un o’r pum mlynedd cyn hynny.
     

Adroddiadau

Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur, 2017 ac 2018 (dros dro) , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 993 KB

PDF
Saesneg yn unig
993 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.