Adolygiad o’r dystiolaeth bresennol ynghylch gweithgareddau cyfranogiad gan denantiaid, gan gynnwys enghreifftiau rhyngwladol, enghreifftiau ar draws y DU ac enghreifftiau penodol i Gymru.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Roedd y dystiolaeth a drafodwyd yn yr adolygiad hwn yn ymwneud â’r gweithgareddau cyfranogiad sy’n cael eu cynnal, y manteision sydd ynghlwm wrthynt ac unrhyw rwystrau sy’n bodoli.
Y prif weithgareddau cyfranogiad tenantiaid a drafodwyd yn y dystiolaeth hon oedd gwahanol fathau o grwpiau tenantiaid. Roeddent yn cynnwys grwpiau craffu yn cynnwys tenantiaid, paneli llywio a grwpiau cynghori. Cafodd gweithgareddau llai ffurfiol fel fforymau tenantiaid, sesiynau galw i mewn ac arolygon tenantiaid hefyd eu defnyddio er mwyn annog cyfranogiad gan denantiaid.
Y prif rwystrau o ran ymgysylltu â thenantiaid a bennwyd oedd diffyg adnoddau (ar gyfer tenantiaid a hefyd landlordiaid/sefydliadau) a chyfathrebu.
