Neidio i'r prif gynnwy

1. Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a'r Hysbysiad Preifatrwydd

1.1 Pa mor aml y mae angen i'r Hysbysiad Preifatrwydd gael ei ddosbarthu o ran Gweithlu'r Ysgol?

Ar ôl i Hysbysiad Preifatrwydd gael ei roi i aelod o staff, dim ond os bydd newidiadau i'r data a gesglir, y ffyrdd y defnyddir y data a/neu'r sefydliadau y rhennir y data â nhw y bydd angen cyflwyno un arall. Mae Hysbysiadau Preifatrwydd wedi cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru a dylid defnyddio'r rhain ar gyfer unrhyw staff newydd sy'n cael eu cynnwys yn y Cyfrifiad. Cofiwch mai testunau awgrymedig yw'r rhain. Rydym yn argymell y dylai eich cynghorwyr cyfreithiol eu hadolygu fel y gellir eu diwygio i gydweddu ag anghenion lleol.

1.2 A all ysgolion neu staff unigol wrthod cymryd rhan yn y Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion (CBGY)?

Nid yw CBGY yn ei gwneud yn ofynnol i unigolion roi cydsyniad er mwyn i'r wybodaeth gael ei rhannu â Llywodraeth Cymru. Cesglir gwybodaeth am aelodau o'r gweithlu ysgolion yn unol â Rheoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth am y Gweithlu Ysgolion) (Cymru) 2017, a wnaed o dan adran 113(2) a (3) o Ddeddf Addysg 2005, sy'n gosod rhwymedigaeth gyfreithiol ar ysgolion ac awdurdodau lleol i ddarparu'r wybodaeth.

O dan y sail gyfreithlon a nodwyd ar gyfer casglu'r wybodaeth, mae gan unigolion yr hawl i'r canlynol:

  • cael copi o'ch data eich hun
  • gofyn i ni gywiro unrhyw anghywirdebau yn y data hynny
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar y gwaith o brosesu eich data (o dan amgylchiadau penodol)
  • gofyn am i'ch data gael eu ‘dileu’ (o dan amgylchiadau penodol).

Yn achos unigolyn sy'n arfer ei hawliau fel y nodwyd uchod, byddai'n ofynnol i'r unigolyn gyflwyno ei gais i'r ysgol neu awdurdod lleol, a dylid ystyried y cais yn unol â goblygiadau cyfreithiol ar yr ysgol ac awdurdod lleol fel a nodir yn y hysbysiad preifatrwydd. Os nad yw’r awdurdod lleol yn glir o’r ymateb i’w rhoi dylent gysylltu â Llywodraeth Cymru. Dylai gwrthwynebiadau a godir gan unigolion i'r gwaith o brosesu neu dileu gwybodaeth bersonol gan Lywodraeth Cymru gael eu hanfon atom yn CBGY.SWAC@llyw.cymru. Cânt eu hystyried yn ôl eu teilyngdod eu hunain yn unol â'r sail gyfreithlon ar gyfer casglu'r wybodaeth.

2. Mathau o ysgol

2.1 A yw'n ofynnol i Ysgolion Arbennig nas cynhelir gwblhau'r Cyfrifiad hwn?

Nid yw'n ofynnol i Ysgolion Arbennig nas cynhelir gwblhau'r CBGY. Dim ond lleoliadau ysgol a gynhelir (gan gynnwys meithrinfeydd, ysgolion cynradd, canol, uwchradd ac arbennig, ac unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru sy'n gorfod cyflwyno datganiad CBGY.

2.2 Mae gennym ysgol a fydd o 1 Medi wedi dewis peidio â bod yn rhan o Gytundebau Lefel Gwasanaeth y gyflogres a/neu adnoddau dynol. Beth yw cyfrifoldeb yr ALl o ran cyflwyno'r datganiad?

Nid oes unrhyw gyfrifoldeb ar yr ALl i ddychwelyd y datganiad data cyflog, adnoddau dynol ac absenoldeb ar gyfer ysgolion sydd wedi dewis peidio â chael eu rheoli gan lywodraeth leol. Bydd yr ysgolion hyn yn gyfrifol am gyflwyno a chymeradwyo eu datganiadau eu hunain. Os bydd ysgol sydd wedi dewis peidio â bod yn rhan o gytundebau lefel gwasanaeth am wneud trefniadau rhannu data â'r ALl, bydd yn rhydd i wneud hynny, ond byddai angen iddi gysylltu â mewnflwch IMS Llywodraeth Cymru.

3. Manylion staff

3.1 A yw 'NOBT, ni chafwyd yr wybodaeth' yn golygu y gofynnwyd am wybodaeth ond na ddaeth i law neu nad ymatebwyd i'r cais, neu a yw'n golygu na ofynnwyd am yr wybodaeth?

Dylid gofyn i bob aelod o staff am ddata ar ethnigrwydd ac anableddau. Os bydd aelod o staff yn gwrthod cadarnhau ei ethnigrwydd yna dylid nodi REFU, gwrthodwyd rhoi'r wybodaeth. Fodd bynnag, os na ofynnwyd am y data, na ddaeth y data i law neu na chofnodwyd y data ar y system gwybodaeth reoli, dylid nodi NOBT, ni chafwyd yr wybodaeth.

3.2 Ar hyn o bryd, mae gennym ffederasiwn lle mae dwy ysgol yn dod o dan un strwythur llywodraethu ond mae ganddynt dau rif sefydliad. Maent yn rhannu athrawon, mae ganddynt yr un pennaeth ac maent yn defnyddio'r un bwrsariaid, llyfrgellwyr ac ati. Sut y dylid cofnodi'r rhain?

Mae angen datganiad arnom ar gyfer y ddwy ysgol. Dylid cyflwyno data ar y staff a rennir gan yr ysgolion ar wahân ar gyfer y ddwy ysgol a dangos, yn ôl yr angen a'r cyfradd cyfwerth ag amser llawn y maent yn eu treulio'n gweithio yn yr ysgol honno bob wythnos. Mae hyn yn gyson â'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) sy'n rhoi data ar y disgyblion ym mhob ysgol.

3.3 Mae un o'm hysgolion yn ei chael hi'n anodd darbwyllo aelod o staff i gyflwyno ei Rif Yswiriant Gwladol. A oes gwir angen ei gyflwyno?

Mae Rhif Yswiriant Gwladol yn rhan o'r set ddata sylfaenol sydd ei hangen ar gyfer y broses cymharu a chysoni. Mae’n galluogi data i gael eu gysylltu, fel y gellir datblygu cronfa ddata dros amser, gan olygu bod modd llunio ystadegau er mwyn llywio materion recriwtio a chadw staff. Felly, dylid gwneud pob ymdrech i gyflwyno ei Rif Yswiriant Gwladol.

3.4 Mae gennym aelod o staff sydd ddim yn siwr o’r union ddyddiad iddynt dderbyn ei Statws Athro Cymwysedig (SAC). Oes posib iddynt nodi’r 1af o’r mis priodol yn lle?

Yndi, gall unigolyn nodi’r 1af o’r mis derbyniwyd SAC.

3.5 Mae aelod o staff yn dal SAC ond ddim yn gweithio ar gontract athro. Oes angen cofnodi bod ganddynt SAC?

Mae’n ofynnol i ddychwelyd statws SAC ar gyfer pob aelod staff mewn gwasanaeth cyson, dim gwahaniaeth os ydynt wedi eu cyflogi fel athro ai peidio. Mae angen gofnodi dyddiad a llwybr SAC am bob aelod staff sydd â SAC. Dylai’r rôl a gofnodir adlewyrchu’r rôl mae’r unigolyn wedi’u gontractio i wneud. Mae’r maes ‘SAC’ i ddynodi os oes gan yr unigolyn Statws Athro Cychwynol (SAC), dim gwahaniaeth beth yw eu rôl yn yr ysgol.

Enghraifft:

a) Mae unigolyn A â chontract fel Athro ac hefyd â SAC.

b) Mae unigolyn B â chontract fel Athro ond heb SAC.

c) Mae unigolyn C â chontract fel Cynorthwyydd Addysgu ac yn meddiannu SAC.

Ateb:

a) Ar gyfer unigolyn A dylid gofnodi rôl ‘QT, athrawon cymwysedig eraill’ a ticio’r blwch ‘SAC’.

b) Ar gyfer unigolyn B dylid gofnodi’r rôl ‘OT, athrawon eraill (heb statws SAC ond heb fod yn 'anghymwysedig'’ neu ‘UQ, athrawon heb gymhwyso’ a gadael y blwch ‘SAC’ yn wag.

c) Dylid gofnodi rôl ‘TA, cynorthwywyr addysgu eraill sy'n gweithio yn y dosbarth’ yn erbyn unigolyn C a ticio’r blwch ‘SAC’.

3.6 Mae aelod o staff yn gweithio fel Cynorthwyydd Addysgu ond hefyd â statws Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch (CALU). Sut ddylwn ei gofnodi yn y CBGY?

Dylai’r rôl a gofnodir adlewyrchu’r rôl mae’r unigolyn wedi’u gontractio i wneud. Mae’r blwch statws CALU i ddynodi eu bod yn gymwys i weithio mewn rôl CALU, dim gwahaniaeth beth yw eu rôl yn yr ysgol.

Enghraifft:

a) Mae unigolyn A yn gweithio ar gontract CALU ac yn gymwys â statws CALU.

b) Mae unigolyn B yn gweithio fel Cynorthwyydd Addysgu ond hefyd yn gymwys â statws CALU.

c) Mae unigolyn C ar gontract fel Staff cymorth anghenion dysgu ychwanegol ond ddim yn gymwys â statws CALU.

Ateb:

a) Dylid gofnodi rôl ‘HL, cynorthwyydd addysgu lefel uwch’ yn erbyn unigolyn A a ticio’r blwch statws CALU.

b) Ar gyfer unigolyn B dylid gofnodi rôl ‘TA, Cynorthwywyr addysgu eraill sy'n gweithio yn y dosbarth’ a ticio’r blwch statws CALU.

c) Dylid gofnodi rôl ‘SN, staff cymorth anghenion dysgu ychwanegol’ yn erbyn unigolyn C a gadael y blwch statws CALU yn wag.

3.7 Mae aelod o staff yn gymwys â Chymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP) ond ddim yn rhan o’r tîm arweinyddiaeth. Oes angen cofnodi’r ffaith bod ganddynt statws CPCP?

Dylai’r rôl a gofnodir adlewyrchu’r rôl mae’r unigolyn wedi’u gontractio i wneud. Mae’r blwch statws CPCP i ddynodi bod ganddynt statws CPCP, dim gwahaniaeth beth yw eu rôl yn yr ysgol.

Enghraifft:

a) Mae unigolyn A yn gweithio fel Prifathro ac yn gywmwys â CPCP.

b) Mae unigolyn B â chontract Pennaeth cynorthwyol ond nid yw’n gymwys â CPCP.

c) Mae unigolyn C yn gweithio fel Athro dosbarth ac hefyd yn gymwys â CPCP.

Ateb:

a) Dylid cofnodi unigolyn A â rôl ‘HT, Penaethiaid ysgolion’ a ticio’r blwch statws CPCP.

b) Ar gyfer unigolyn B dylid cofnodi’r rôl ‘AH, Pennaeth Cynorthwyol’ a gadael y blwch statws CPCP yn wag.

c) Dylid gofnodi’r rôl ‘QT, Athrawon cymwysedig’ yn erbyn unigolyn C a ticio’r blwch statws CPCP

4. Rolau

4.1 Telir llawer o'n Cynghorwyr o dan Delerau ac Amodau Soulbury ac nid ydynt yn ymweld ag ysgolion yn rheolaidd. A oes angen iddynt gael eu cynnwys?

Dylid cynnwys Athrawon Ymgynghorol, athrawon cymwys yn aml sy'n cyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau, gan gynnwys hyfforddi staff, helpu i ddatblygu polisïau ysgol a chymorth yn yr ystafell ddosbarth a'u rhoi ar waith, yn y datganiad canolog. Fodd bynnag, dim ond os ydynt yn treulio'r mwyafrif o'u hamser mewn ysgolion y dylid cynnwys mathau eraill o gynghorwyr.

4.2 Mae gennym rai prentisiaid yn gweithio yn ein hysgolion. A ddylid eu cynnwys yn y CBGY?

Dylid gynnwys prentisiaid os ydynt dan gontract am fis neu fwy ac os ydynt yn cyflawni un o'r rolau a restrir yn set godau'r rôl. Os cânt eu cyflogi ar sail fwy achlysurol neu at ddibenion hyfforddiant, yna ni fyddent yn cael eu cynnwys.

4.3 A ddylid gynnwys staff Clybiau Brecwast a Chlybiau ar ôl Ysgol yn y datganiad CBGY? Beth am staff mewn Canolfannau Plant neu lleoliaday Blynyddoedd Cynnar?

Gwasanaethau estynedig yw Clybiau Brecwast a Chlybiau ar ôl Ysgol, felly nid yw'r Cyfrifiad yn berthnasol iddynt. Nid yw'n berthnasol i Ganolfannau Plant a Lleoliadau Blynyddoedd Cynnar ychwaith.

4.4 A ddylid cynnwys goruchwylwyr canol dydd?

Mae rôl staff (‘MS’) ar gael ar gyfer goruchwylwyr canol dydd. Dylid eu cynnwys os oes ganddynt gontract o 1 mis neu fwy gyda’r ysgol. Ni ddylid eu cynnwys os eu cyflogir ar gontract o llai nag 1 mis neu ar sail ad hoc heb gontract.

Os yw unigolyn wedi’i gyflogi fel Cynorthwyydd Addysgu yn llawn amser gyda contract arall ar gyfer rôl ‘Goruchwyliwr Canol Dydd’, dylir cofnodi ei cyfwerth ag amser llawn (‘FTE’) fel 1.0 yn erbyn ‘TA’, Cynorthwyydd Addysgu a’r ‘FTE’ ychwanegol priodol ynn erbyn y rôl ‘Goruchwyliwr Canol Dydd’ hefyd.

4.5 A ddylid cynnwys staff glanhau a gofalwyr yn y CBGY?

Na ddylid, nid yw'n ofynnol i staff glanhau a gofalwyr gael eu cofnodi yn y CBGY.

4.6 A ddylid cynnwys staff gwirfoddol yn y cyfrifiad?

Na ddylid, nid yw'n ofynnol i staff glanhau a gofalwyr gael eu cofnodi yn y CBGY.

4.7 Sut rydym yn ymdrin â'r gwahaniaeth rhwng athrawon peripatetig ac athrawon ymgynghorol? Defnyddir amrywiaeth o deitlau swyddi yn ein hysgolion ac nid ydynt bob amser yn cyfateb i'r rolau yn set godau'r CBGY.

Rhaid gwahaniaethu sail y swyddogaeth yn hytrach nag union deitl y swydd a ddefnyddir mewn unrhyw achos penodol, sef, a yw'r rôl yn canolbwyntio ar gymorth uniongyrchol i ddisgyblion (athro peripatetig) neu ar roi cyngor i'r ysgol neu'r ALl (athro ymgynghorol). Defnyddiwch god y rôl sy'n adlewyrchu orau'r hyn y mae'r person yn ei wneud gan amlaf.

4.8 Os oedd athro yn cael ei gyflogi'n athro cerdd amser llawn yn ysgol A cyn cael ei gyflogi'n rhan amser yn ysgol A, ac yn rhan amser fel athro Peripatetig (gyda'r ALl yn ysgol B), sut y dylid cofnodi hyn?

Dylai ysgol A gyflwyno datganiad ar gyfer y contract rhan amser a dylai'r ALl gyflwyno datganiad ar gyfer y dyletswyddau peripatetig." Dylai'r datganiad data 'Cyflog, Adnoddau Dynol ac Absenoldeb' gynnwys cofnod o gau'r contract amser llawn ag ysgol A ar yr adeg briodol.

4.9 Pa rôl y dylid ei defnyddio ar gyfer Swyddogion Gweinyddol? Caiff gweinyddwr ei gynnwys yn yr un categori â chlerc a gan fod gwahaniaeth o 3 neu 4 gradd rhwng y rhain, ni fyddai hyn yn adlewyrchu gweithlu gwirioneddol ysgol. A ddylem ddefnyddio’r categori 'Arall'?

Mae hyn yn ymwneud â natur y gwaith a wneir gan yr aelod o staff, nid hierarchaeth y swyddfa. Dylai ysgolion ddewis y rôl sy'n rhoi'r disgrifiad gorau o waith yr unigolyn. Mae posibiliadau eraill yn cynnwys bwrsar, ysgrifennydd ysgol, swyddog cyllid a rheolwr swyddfa.

4.10 A oes angen i ni gynnwys clerc i lywodraethwyr yn y datganiad?

Nac oes, nid oes angen i'r rhain gael eu cynnwys.

4.11 Mae ein Pennaeth wedi cael ei secondio i ysgol arall. Ar hyn o bryd, mae gennym 'Brif Swyddog Ysgol' yn hytrach na phennaeth arall yn ei le. Sut y dylid cofnodi hyn yn y CBGY?

Mae'r ffordd y dylid cofnodi'r unigolyn yn ddibynnol ar ei gyfrifoldebau. Os yw'r unigolyn yn cyflawni cyfrifoldebau'r Pennaeth, dylid ei gofnodi fel Pennaeth Dros Dro. Os nad yw'n cyflawni'r cyfrifoldebau hynny, dylid ei gofnodi fel Dirprwy, e.e. i Bennaeth Gweithredol â chyfrifoldeb am nifer o ysgolion. Dylai contract cyflogaeth yr unigolyn egluro ei rôl.

4.12 Os bydd athro yn newid rôl i fod yn aelod o'r tîm gweinyddol yn yr un ysgol, a fyddai angen cofnodi ei swydd flaenorol?

Os bydd athro wedi symud i rôl staff cymorth neu weinyddol, bydd angen cyflwyno cofnod cadw staff gan nodi 'Cyflogaeth mewn swydd yn y system addysg nad yw’n swydd addysgu'. Bydd angen i gofnod data ‘Ysgol’ llawn gael ei ddychwelyd i adlewyrchu rôl newydd yr unigolyn.

4.13 A ddylid cynnwys myfyrwyr sydd ar leoliadau hyfforddiant athrawon yn y CBGY?

Dylid, dylid eu cofnodi o dan y rôl staff 'TT, athrawon dan hyfforddiant ar gyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon'.

4.14 Sut ddylwn gofnodi goruchwylwyr llanw?

Mae goruchwyliwr llanw wedi’i rhestri fel rôl ychwanegol, gan ein bod yn ei ddisgwyl i fod yn rhan o swydd arall mewn nifer o enghreifftiau. Os mae goruchwiliwr llanw yw swydd cytundebol yr unigolyn dylid gofnodi ‘OS, staff cymorth arall’ fel prif rôl a cofnodi’r cyfradd cyfwerth ag amser llawn yn ei herbyn, a chofnodi ‘CS, goruchwyliwr llanw’ fel rôl ychwanegol.

4.15 Mae gennym ysgol arbennig â rhai disgyblion preswyl ac felly staff preswyl. Mae'r ysgol yn talu am y staff hyn, a ddylid eu cynnwys yn natganiad y CBGY.

Dylid, dylid cynnwys staff preswyl yn y datganiad ar yr amod eu bod yn cyflawni un o'r rolau a restrir yn set godau'r Rolau Staff. Os yw aelod o staff preswyl yn athro yn yr ysgol, dylid ei gofnodi fel athro, gan nodi cynorthwyydd neu swyddog Lles fel rôl eilaidd o bosibl os yw'n cyflawni'r dyletswyddau hyn ar ôl oriau ysgol arferol. Gellir cofnodi aelodau eraill o staff preswyl fel staff cymorth Bugeiliol os mai dyma yw eu prif rôl. Byddwn yn cynghori'r ysgol i edrych ar set godau'r Rolau Staff er mwyn cadarnhau a ddylid cynnwys yr aelod o staff.

4.16 A ddylid cynnwys athrawon ar gyrsiau sabothol yn y CBGY?

Dylid trin staff ar gyrsiau sabothol yn yr un modd ag unigolion sy'n absennol a dylid ddewis ‘Cyfnod sabathol’ yn y maes ‘Statws’ ar gyfer yr unigolyn. Byddai cofnod absenoldeb cyfatebol o'r datganiad 'Cyflog, Adnoddau Dynol ac absenoldeb' yn nodi bod yr unigolyn ar absenoldeb â thâl neu heb dâl.

4.17 A ddylid cynnwys staff ar gyfnod mamolaeth yn CBGY?

Dylid gynnwys staff ar gyfnod mamolaeth neu tadolaeth a chofnodi ‘0.00 fel yn erbyn ‘cyfwerth ag amser llawn’ yn y datganiad ‘Ysgol’. Hefyd, dylid ddewis ‘Cyfnod Mamolaeth/Tadolaeth/Mabwysiadu’ yn erbyn yr eitem data ‘Statws’.

4.18 A ddylid cynnwys y person sy’n llenwi’r swydd wag dros y cyfnod mamolaeth?

Mae’n dibynnu sut mae’r swydd yn cael ei lenwi dros y cyfnod mamolaeth. Dylid gynnwys yr unigolyn os ydynt ar gontract neu gytundeb ffurfiol am gyfnod di-dor o 1 mis neu fwy. Ni ddylid gynnwys unigolion sy’n llenwi swydd wag ar sail ad hoc ney tymor byr o lai nag 1 mis.

4.19 Beth am unigolion ar secondiad, a ddylid eu cynnwys?

Fel ar gyfer unigolion ar mamolaeth, dylid gofnodi unigolion sydd allan o’r ysgol ar secondiad gan ei hysgol gwreiddiol â 0.00 wedi’i gofnodi yn erbyn y cyfradd cyfwerth ag amser llawn a ‘Secondiad allan’ wedi’i ddewis yn erbyn yr eitem ddata ‘Statws’. Dylai’r ysgol mae’r unigolyn ar secondiad i ddychwelyd cofnod ar gyfer yr unigolyn hefyd gan nodi’r cyfradd cyfwerth ag amser llawn priodol yn eu herbyn.

4.20 Sut ddylwn gofnodi Swyddogion gofal plant yn y CBGY gan nad oes rôl ar gael iddynt?

Dylid eu cofnodi fel ‘PS, staff cymorth bugeiliol’ neu ‘OS, staff cymorth arall’ (yn dibynnu ar pa rôl sy’n disgrifio gwaith yr unigolyn orau) gyda’r cyfradd cyfwerth ag amser llawn yn eu herbyn. Hefyd, dylid ddewis y rôl ychwanegol ‘WE, swyddog/cynorthwyydd lles’ (nid oes angen cofnodi’r cyfradd cyfwerth ag amser llawn yn erbyn y rôl ‘ychwanegol’ hon).

4.21 Sut ddylwn gofnodi Hyfforddwyr Fframwaith Llythrennedd a Rhifyddeg yn y CBGY gan nad oes ‘prif’ rôl ar gael iddynt?

Dylai’r ysgol ddewis y ‘prif’ rôl sy’n disgrifio’r gwaith mae’r unigolyn yn ei wneud orau (e.e. athro dosbarth, staff cymorth, staff gweinyddol). Dylid ddewis y rôl ‘ychwanegol’ ‘Cyd-lynydd llythrennedd’ a/neu ‘Cyd-lynydd rhifyddeg’ fel yn briodol.

4.22 Ein pennaeth yw’r cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ar gyfer ein ysgol hefyd. Sut ddylwn gofnodi ei rôl cydlynydd ADY?

Mae’r rhestr codau rôl yn cynnwys 2 cod gwahanol ar gyfer cofnodi cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol – un fel ‘Prif’ rôl ac un fel rôl ‘Ychwanegol’. Dylid ddefnyddio’r cod ‘SP’ (Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ar gyfer unigolion sy’n gwneud y gwaith fel ei prif rôl)) os mae cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yw prif rôl yr unigolyn o fewn yr ysgol a rhaid nodi amser ‘cyfwerth ag amser llawn’ ar gyfer y rôl.

Dylid ddewis y cod ‘SC’ (Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (fel rôl ychwanegol i brif rôl yr unigolyn) lle mae’r rôl cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael ei ymgymryd gan unigolyn yn ychwanegol i’w pif swydd arferol. Er enghraifft, lle’r pennaeth yw’r cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol hefyd. Yn yr enghraifft yma, dylid ddewis y cod ‘HT’ fel ‘Prif’ rôl yr unigolyn ynghyd a’r gwerth cyfwerth ag amser llawn, â’r rôl ychwanegol ‘SC’ wedi’i ddewis hefyd.

Nodyn:

Os nid oes rôl penodol ar gael yn y rhestr ‘Rolau’ dylid ddewis y rôl sy’n disgrifio gwaith yr unigloyn orau. Gall ysgolion wirio gyda’u awdurdod lleol os oes angen cynnwys yr unigolyn yn y CBGY.

5. Cwricwlwm

5.1 A ellir casglu data cwricwlwm ar gyfer staff cymorth? Er enghraifft, bydd technegwyr yn cyfrannu at addysgu pynciau gwahanol (er enghraifft, celf a dylunio, TGCh, technoleg, gwyddoniaeth, ac ati) i'r grwpiau blwyddyn gwahanol ac ar gyfer y pynciau gwahanol.

Mae rhaid dychwelyd data cwricwlwm ar gyfer athrawon sydd â chyfrifoldebau dysgu yn y dosbarth. Gall ysgolion gyflwyno gwybodaeth cwricwlwm ar gyfer cynorthwywyr addysgu hefyd os yw eu systemau amserlenni a'u gwybodaeth reoli yn caniatáu iddynt gofnodi'r wybodaeth berthnasol. Gall ysgolion gynnwys staff cymorth arall yn eu meddalwedd amserlennu ond ni fydd yn cael eu echdynnu ar gyfer y CBGY gan nad oes eu hangen.

5.2 A yw'n ofynnol i ysgolion arbennig gyflwyno data ar y cwricwlwm?

Nac ydy. Nid yw'n ofynnol i ysgolion arbennig, nac ysgolion meithrin nac unedau cyfeirio disgyblion ychwaith, gyflwyno gwybodaeth cwricwlwm.

5.3 Ma rhai o’n hysgolion yn gweithio i amserlen 10 diwrnod, ond yn darparu pynciau Bagloriaeth Cymru, Addysg Bersonol a Chymdeithasol a phynciau eraill unwaith y tymor. Ni fydd y pynciau yma yn ymddangos yn y datganiad CBGY. Er hynny, maent yn ffurffio rhan sylweddol o cwricwlwm yr ysgol. Gall yr ysgol ychwanegu cofnodion ychwanegol i’r modiwl cwricwlwm?

Mae meddalwedd yr ysgol yn caniatáu defnyddwyr i ychwanegu rhesi i’r modiwl cwricwlwm. Dylid ychwanegu pynciau ychwanegol os ydynt yn cyfrannu nifer sylweddol o oriau dosbarth dros y flwyddyn yn unig.

5.4 Mae gan ein ysgol Adnodd Dysgu Sylfaen gyda un athro sy’n dysgu 1 dosbarth sy’n cynnwys grwpiau blwyddyn gwahanol. Sut ddylwn gofnodi rhain?

Yn yr achos yma, lle mae athro neu cynorthwyydd addysgu yn dysgu/cynorthwyo mewn gwers gyda chyfuniad o ddigyblion meithrin, derbyn a grwpiau blwyddyn 1 i 6, dylid gofnodi’r grŵp blwyddyn fel ‘M’ (cymysg).

6. Recriwtio a chadw staff

6.1 A oes angen i mi gyflwyno data ar recriwtio a chadw staff?

Oes, mae data ar recriwtio a chadw staff wedi cael eu casglu ers casgliad Tachwedd 2021. Mae’r wybodaeth a gesglir yn cynnwys pob swydd wag a phob aelod o staff a adawodd yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol (er enghraifft, rhwng 1 Medi 2022 a 31 Awst 2023).

6.2 Beth y dylai ysgolion ei fewnbynnu os nad ydynt yn cael gwybod i ble'r aeth yr aelod staff a adawodd?

Os nad yw ysgol yn gwybod i ble'r aeth yr aelod staff a adawodd, dylai gofnodi ‘UNK, anhysbys’.

6.3 Hysbyswyd swydd cyn dechrau’r flwyddyn academaidd diwethaf yn flaenorol ond fe’i llenwyd yn ystod y flwyddyn academaidd. Oes angen cynnwys y swydd yma yn y data recriwtio?

Oes, mae angen cynnwys unrhyw swyddi cafodd ei hysbysu neu eu cau yn ystod y cyfnod 1 Medi 2022 i 31 Awst 2023 o’r flwyddyn academaidd cyn y dyddiad cyfrifiad, yn cynnwys swyddi heb eu llenwi.

7. Cyflenwi

7.1 Mae gennym staff cyflenwi sy’n llenwi naill ai ar sail ad hoc neu cytundeb mwy hirdymor Sut ddylwn gofnodi’r y trefniadau gwahanol?

Dim ond gan y staff sy'n gweithio'n rheolaidd y mae angen data ar lefel yr unigolyn, er enghraifft, y staff a gyflogir ar gontract neu gytundeb gwasanaeth am gyfnod di-dor o fis neu fwy.

Ni ddylid cyflwyno unrhyw wybodaeth unigol am athro cyflenwi a gyflogir ar sail ad hoc neu tymor byr o llai na mis. Mae'n rhaid i wybodaeth gyfanredol am nifer y diwrnodau a chyfanswm cost athrawon cyflenwi gael ei chynnwys yn y modiwl cyflenwi.

7.2 Pa wybodaeth y mae angen ei chynnwys am yr athrawon cyflenwi y mae'r Awdurdod Lleol yn eu darparu i ysgol?

Yn y sefyllfa hon, mae'r ALl yn gweithredu fel asiantaeth gyflenwi. Os yw'r athro cyflenwi'n gweithio'n rheolaidd yn yr ysgol, er enghraifft, mae ganddo gontract am fis neu fwy, dylai'r ysgol gyflwyno cofnod data ysgol ar gyfer yr unigolyn o dan y rôl staff 'LS, Athro Cyflenwi dan Gontract (Nid Drwy Asiantaeth)'. (At ddibenion y CBGY, diffinnir mis fel cyfnod o 28 diwrnod.) Os nad yw dan gontract am fis neu fwy, dylid ei gynnwys yn y modiwl cyflenwi cyfanredol.

Mae'n rhaid i'r ALl hefyd ddarparu cofnod o gontract pob athro cyflenwi pan fydd yr ALl yn gweithredu fel asiantaeth gyflenwi a'i gofnodi fel 'SPL, athro cyflenwi a gyflogir yn ganolog gan awdurdod lleol'.

7.3 Mae ysgolion yn cyflogi rhai goruchwylwyr llanw ar gontractau ac maent yn cyflenwi yn ystod absenoldeb a hyfforddiant, cyfarfodydd ac ati. Wrth gasglu costau staff cyflenwi ar gyfer y datganiad, sut y dylwn gofnodi hyn?

Dylid cynnwys goruchwylwyr llanw ar y datganiad ysgol ar lefel unigol os ydynt dan gontract am 28 diwrnod neu fwy.

Dylid cynnwys goruchwylwyr llanw a gyflogir drwy asiantaethau, yn y costau cyflenwi yn y datganiad ysgol, ni waeth am faint y byddant yn gweithio yn yr ysgol. Dylid eu cofnodi o dan god Cynorthwyydd Addysgu (TA) yn y modiwl cyflenwi.

7.4 A allwch gadarnhau mai dim ond ar gyfer staff addysgu y mae'r data cyflenwi cyfanredol a gyflwynir, neu a ydynt yn cynnwys cyflenwi ar gyfer staff cymorth hefyd (gan gynnwys cynorthwywyr addysgu, staff gweinyddol, technegwyr ac ati)?

Mae'r modiwl cyflenwi ar gyfer cam 2 y CBGY yn cynnwys 3 chategori o staff i gofnodi gwybodaeth yn eu herbyn: TCHR, Athro; HLTA, Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch; LSWK, Gweithiwr Cymorth Dysgu.

Dylid cofnodi Cynorthwywyr Addysgu a thechnegwyr (yn ogystal â staff cyflenwi arall sy'n rhoi cymorth yn yr ystafell ddosbarth) o dan LSWK (Gweithiwr Cymorth Dysgu). Dylid cofnodi Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch a gyflogir drwy asiantaethau cyflenwi yn unol â hynny.

7.5 Sut ddylai ysgolion gofnodi costau staff cyflenwi ar gyfer y CBGY? Ar sail Gros neu Net? A ddylid cynnwys TAW?

Dylai’r ysgolion gofnodi costau cyflenwi ar sail Net heb gynnwys TAW.

7.6 Ble dylid gofnodi data cyflenwi ar gyfer cynorthwywyr addysgu yn y modiwl data cyflenwi?

Dylir gofnodi gwybodaeth cyflenwi ar gyfer cynorthwywyr addysgu yn erbyn y catgori staff ‘LSWK’, Gweithiwr Cymorth Dysgu. Byddwn yn adolygu’r terminoleg a ddefnyddir ar gyfer y categorïau staff a ddefnyddir a’u diweddaru fel bod angen.

7.7 Beth sy’n cael ei gyfri fel ‘tymor hir’ ar gyfer cwblhau’r modiwl data cyflenwi?

Ar gyfer y modiwl data cyflenwi mae “tymor hir” wedi’i ddiffinio yn unol â rheoliadau Gweithwyr Asiantaeth 2010, ble mae “rhaid i weithiwr asiantaeth wedi gweithio yn yr un swydd gyda’r un cyflogwr am 12 wythnos calendr parhaus, yn ystod un aseiniad neu fwy”.

7.8 Pam bod cyflenwi wedi’i ddarparu trwy awdurdodau lleol wedi’u heithrio o fodiwl cyflenwi CBGY?

Nid yw cyflenwi wedi’u ddarparu i ysgolion trwy awdurdodau lleol i’w gynnwys yn y data agregedig ar gyflenwi yng nghasgliad CBGY 2023.

Er hynny, ar gyfer casgliadau CBGY o 2024 ymlaen bydd gofyn i ysgolion gynnwys cyflenwi wedi’u ddarparu trwy awdurdodau lleol yn y flwyddyn academaidd flaenorol (er enghraifft, 1 Medi 2023 i 31 Awst 2024 ayyb). Bydd hyn yn sicrhau bod darlun cyflawn yn cael ei gasglu a’i gyflwyno ar ddefnydd cyflenwi new ysgolion wedi’u cynnal yng Nghymru.

Felly, argymellir ysgolion i ddechrau cadw a chofnodi’r wybodaeth briodol ar gyflenwi o ddechrau’r flwyddyn academaidd 2023 i 2024 yn barod ar gyfer casgliad CBGY 2024.

8. Cyflogau a chontractau

8.1 A oes angen i mi gyflwyno data ar dâl sylfaenol pob aelod o staff neu athrawon yn unig?

Mae'n rhaid cyflwyno data am dâl sylfaenol pob athro ac aelod o staff cymorth sy'n gweithio'n rheolaidd na chânt eu talu ar gyfradd ddyddiol. Mae'n rhaid i dâl sylfaenol adlewyrchu cyflog blynyddol aelod o staff ar ddiwrnod y Cyfrifiad. Ni ddylai cynnwys unrhyw daliadau ychwanegol na lwfansau. Ni ddylai tâl staff rhan amser na staff sy'n gweithio yn ystod y tymor yn unig gael ei addasu i fyny i dâl aelod o staff cyfwerth ag amser llawn. Mae'n rhaid iddo hefyd beidio â chael ei addasu i lawr ar gyfer aelod o staff a ddechreuodd weithio ran o'r ffordd drwy'r flwyddyn. Os oes unrhyw elfennau o'r cyflog sydd wedi'u diogelu, mae'n rhaid i'r rhain hefyd gael eu hadlewyrchu yn y tâl sylfaenol.

Rhoddir rhai enghreifftiau o'r ffordd y dylid cofnodi tâl sylfaenol isod:

Enghraifft 1: mae aelod o staff yn gweithio'n llawn amser drwy gydol y flwyddyn ac yn ennill cyflog o £30,000 yn ogystal â thaliadau sylfaenol o £2,000. Tâl sylfaenol = £30,000.

Enghraifft 2: mae dau aelod o staff yn rhannu'r swydd a ddisgrifir yn Enghraifft 1 ac mae'r ddau ohonynt yn gweithio 0.5 cyfwerth ag amser llawn drwy gydol y flwyddyn ac yn rhannu'r taliadau ychwanegol o £2,000 rhyngddynt. Tâl sylfaenol y ddau berson sy'n rhannu'r swydd = £15,000.

Enghraifft 3: mae aelod o staff yn dechrau yn y swydd a ddisgrifir yn Enghraifft 1 ym mis Mehefin yn llawn amser. Tâl sylfaenol = £30,000.

8.2 Ai'r wythnosau y mae rhywun yn gweithio mewn gwirionedd yw 'Wythnosau y flwyddyn' yn hytrach nag wythnosau llawn amser? (ar gyfer staff rhan amser)

'Wythnosau y flwyddyn' yw nifer yr wythnosau y telir rhywun amdanynt, gan gynnwys unrhyw wyliau â thâl. Er enghraifft, byddai athro amser llawn yn cael ei dalu am 52 wythnos y flwyddyn ond byddai athro llawn amser yn ystod y tymor yn unig yn cael ei dalu am 39 wythnos y flwyddyn.

8.3 Beth sy'n gyfystyr â chontract? A oes yn rhaid iddo fod yn gontract ffurfiol ysgrifenedig neu a ddylid cynnwys y staff ar gontractau llafar hefyd?

Ystyrir aelodau o staff sydd ar gontractau llafar i fod yn staff achlysurol, felly nid ydynt mewn cyflogaeth reolaidd. Felly, ni ddisgwylir cofnodion unigol iddynt. Mae cytundebau ysgrifenedig o unrhyw fath, gan gynnwys contractau achlysurol, yn cael eu hystyried yn gontact ar gyfer CBGY.

8.4 Sut y dylid cyfrifo swm y Taliad Ychwanegol?

Dylai symiau taliadau ychwanegol adlewyrchu pob taliad a enillwyd rhwng dyddiad cyfeirio'r Cyfrifiad blaenorol a dyddiad cyfeirio'r Cyfrifiad presennol. Ar gyfer datganiad cyntaf y CBGY, bydd y cyfnod cyfeirio rhwng 1 Tachwedd 2022 a 7 Tachwedd 2023.

8.5 Sut y dylid cyflwyno taliadau Ychwanegol? A allwn gyfuno'r taliadau yn gyfanswm ar gyfer y flwyddyn?

Dylid cofnodi Taliadau Ychwanegol yn erbyn y contract perthnasol. Os bydd y sefyllfa o ran taliadau yn newid yn dilyn hynny, bydd y Cyfrifiad nesaf yn dangos y newid hwnnw. Gellir cofnodi mwy nag un math o daliad ychwanegol yn erbyn contract, felly ni ddylid eu cyfuno.

8.6 A ddylid gynnwys contractau achlysurol?

Dylid gynnwys aelodau staff ar gontract achlysurol os yw’r contract am 1 mis neu fwy. Ni ddylid gynnwys staff achlysurol heb gontract.

8.7 A oes angen ciplun o'r gyfradd cyflog blynyddol ar ddyddiad y Cyfrifiad ei hun, neu hanes cyfradd cyflog fel sy'n cael ei gofnodi yn y Datganiad Gwasanaeth Blynyddol?

Dylai'r tâl sylfaenol adlewyrchu cyflog blynyddol aelod o staff ar ddiwrnod y Cyfrifiad. Dylid cofnodi unrhyw daliadau ychwanegol neu lwfansau ar wahân yn erbyn y contract perthnasol.

8.8 Beth yw'r dyddiad dechrau cyflogaeth pan fydd ysgolion wedi cael eu cyfuno a bod staff wedi gweithio yn yr ysgolion blaenorol?

Dylai Dyddiad Dechrau'r Contract adlewyrchu pryd y dechreuodd contract yr unigolyn â'r ysgol dan sylw. Os yw’r unigolyn yn derbyn contract newydd pan mae’r ysgolion wedi cael eu cyfuno, dyddiad y contract yma dylid ei ddefnyddio fel dyddiad dechrau’r contract newydd.

9. Absenoldebau

9.1 A gesglir data ar absenoldebau yn y CBGY?

Mae data ar absenoldebau yn cael ei gasglu fel rhan o gasgliad CBGY Cyflogau, AD ac Absenoldebau. Mae hyn yn cynnwys absenoldebau dros y cyfnod 1 Medi 2022 a 31 Awst 2023. Mae’n bosib cynnwys absenoldebau sydd dal ar agor ar ddyddiad y cyfrifiad.

9.2 A yw absenoldebau ond yn cynnwys athrawon?

Dim ond ar gyfer pob athro sy'n gweithio'n rheolaidd y mae angen data ar absenoldebau. Nid oes unrhyw ofyniad i ddata ar absenoldebau gael eu cyflwyno ar gyfer gweithwyr cymorth dysgu a staff cymorth arall.

9.3 A ddylid cofnodi absenoldeb mabwysiadu fel MAT (absenoldeb mamolaeth neu tadolaeth) neu OTH (absenoldeb awdurdodedig arall â thâl)?

Dylid cofnodi absenoldeb mabwysiadu fel OTH (os yw'n absenoldeb â thâl) neu fel UNP (os yw'n absenoldeb heb dâl).

9.4 A ddylai fod gwerth cod ar wahân ar gyfer seibiant gyrfa?

Dylid cofnodi seibiant gyrfa fel 'UNP, absenoldeb awdurdodedig di-dâl.'

9.5 Os yw rhywun ond yn gweithio ar ddydd Mawrth a dydd Iau ac mae'n sâl ar y ddau ddiwrnod hynny, mae ein system gyflogres yn cofnodi'r absenoldeb fel wythnos. Sut y bydd hyn yn effeithio ar y datganiad?

Hyd yr absenoldeb fydd nifer y diwrnodau gwaith a gollwyd, sef dau. Gellir mewnbynnu hyn â llaw ac mae'n annibynnol ar feysydd absenoldeb y diwrnod cyntaf a'r diwrnod olaf.

9.6 Os yw aelod o staff ond yn gweithio yn y bore, a ddylid cofnodi'r absenoldeb yn ôl nifer yr oriau a gollwyd neu fel diwrnod cyfan?

Yn achos aelod o staff sydd ond yn gweithio yn y bore ac sy'n absennol oherwydd salwch yn y bore, dylid cofnodi ei fod wedi colli 0.5 diwrnod gwaith. Dylid ond cofnodi absenoldebau o hanner diwrnod neu fwy a dim ond ar gyfer absenoldeb salwch y mae'n rhaid cofnodi nifer y diwrnodau a gollwyd. Os oes unrhyw enghreifftiau lle nad yw sesiynau bore a phrynhawn yn gyfartal, dylid cyfrif pob sesiwn fel hanner diwrnod.

9.7 A ddylem gofnodi 'salwch' o dan y cod absenoldeb yn hytrach nag unrhyw reswm penodol dros y salwch?

Dylech. Ni chesglir y rheswm dros salwch ar gyfer y CBGY.

9.8 Os oedd athro yn absennol oherwydd salwch yn ystod Tymor yr Haf ac nad yw wedi dychwelyd i'r gwaith erbyn adeg y Cyfrifiad yn ystod Tymor yr Hydref, a oes angen i fi gofnodi 31 Awst 2023 fel diwrnod olaf yr absenoldeb?

Na ddylech, dylech adael maes y diwrnod olaf yn wag. Dylid cofnodi'r dyddiad pan fydd y cyfnod o absenoldeb oherwydd salwch wedi dod i ben ac y bydd yr athro wedi dychwelyd i'r gwaith. Bydd y ffaith bod maes y diwrnod olaf yn wag yn dangos bod yr absenoldeb yn parhau a chofnodir y diwrnod olaf mewn Cyfrifiad yn y dyfodol.

9.9 A oes angen cofnodi nifer y diwrnodau gwaith a gollwyd ar gyfer pob math o absenoldeb?

Nac oes, mae angen cofnodi nifer y diwrnodau gwaith a gollwyd ar gyfer absenoldebau trwy salwch yn unig.

9.10 Os yw rhywun yn absennol oherwydd salwch yn ystod gwyliau'r haf, a fyddai'r diwrnodau hynny yn ystod cyfnod y gwyliau'n cyfrif fel diwrnodau gwaith a gollwyd?

Na fyddent. Dim ond y diwrnodau pan fyddai'r athro wedi bod yn gweithio ond ei fod yn absennol y dylid eu cynnwys fel diwrnodau gwaith a gollwyd.

9.11 A oes angen i ni gofnodi absenoldebau sy'n dal i fod yn gyfredol, neu rai sydd wedi dechrau ers 1 Medi 2023?

Dylid cofnodi absenoldebau yn barhaus. Cesglir y data bob hydref ar gyfer y flwyddyn academaidd flaenorol (o 1 Medi i 31 Awst), felly bydd yn bwysig sicrhau bod y data'n gyfredol cyn cyflwyno datganiad y Cyfrifiad. Cofnodir unrhyw absenoldeb rhwng diwedd mis Awst a Dyddiad y Cyfrifiad yn CBGY y flwyddyn ganlynol.

10. Cyflwyno datganiadau'r CBGY

10.1 Ai menter Cyfnewid Data Cymru (DEWi) yw'r unig ffordd i gyflwyno datganiadau i Lywodraeth Cymru?

Ydy.