Gwybodaeth am nodweddion a phriodoleddau plant sy’n derbyn gofal a chymorth ar 31 Mawrth 2019.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Cyfrifiad Plant sy'n Derbyn Gofal a Chymorth Cymru
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
- Roedd 16,421 o blant sy’n derbyn gofal a chymorth wedi’u cynnwys yn y Cyfrifiad Plant sy’n Derbyn Gofal a Chymorth ar 31 Mawrth 2019. Roedd hyn yn gyfradd o 261 fesul 10,000 o blant o dan 18 oed. O’r rhain roedd 6,677 (41%) yn blant sy’n derbyn gofal a 2,214 (13%) ar y Gofrestr Diogelu Plant.
- Roedd 9,091 (55%) yn fechgyn a 7,330 (45%) yn ferched.
- Roedd dros bumed (22%) o blant sy’n derbyn gofal a chymorth yn anabl.
- Cafodd ffactor gallu rhieni yn wyneb salwch meddwl ei gofnodi yn bresennol ar gyfer ychydig dros draean (35%) o’r plant sy’n derbyn gofal a chymorth.
- Roedd cyrhaeddiad plant sy’n derbyn gofal a chymorth yn llawer is na chyfartaledd cyrhaeddiad yr holl ddisgyblion yng Nghymru mewn asesiadau’r Cyfnod Sylfaen a’r Cyfnodau Allweddol i gyd.
Adroddiadau
Cyfrifiad Plant sy'n Derbyn Gofal a Chymorth Cymru, ar 31 Mawrth 2019 (ystadegau arbrofol) , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Gwefan StatsCymru
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.