Neidio i'r prif gynnwy

Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau annibynnol, cyfrinachol am ddim er mwyn gwirio beth allech fod â hawl iddo.

Bydd y gyfrifiannell budd-daliadau yn rhoi amcangyfrif ichi:

  • o’r budd-daliadau y gallech eu cael
  • cyfanswm posibl eich taliadau
  • sut y byddai cychwyn gweithio neu gynyddu oriau yn effeithio ar eich budd-daliadau
  • sut y byddai newid yn eich amgylchiadau yn effeithio ar eich budd-daliadau– er enghraifft, os byddwch yn cael plentyn neu yn symud i mewn â’ch partner

Dim ond canllaw yw’r gyfrifiannell budd-daliadau. Gallai ffigwr amcangyfrifedig y gyfrifiannell gynnwys manylion budd-daliadau yr ydych eisoes yn eu hawlio.

Defnyddio’r gyfrifiannell budd-daliadau ar Helpwr Arian.

Nid yw’r gyfrifiannell budd-daliadau yn cynnwys yr holl gymorth y gallech fod yn gymwys ar ei gyfer. Mae cyngor manylach, gan gynnwys cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, ar gael gan Advicelink Cymru.