Canllawiau ac offer i gyfrifo cyllideb maetholion ar gyfer datblygiadau o fewn dalgylchoedd afonydd Ardaloedd Arbennig ar gyfer Cadwraeth (ACA).
Dogfennau

Cyfrifiannell cyllideb maethynnau: canllawiau , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

Cyfrifiannell cyllideb maetholion , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 9 MB
Manylion
Defnyddir Cyfrifiannell Cyllideb Maetholion Cymru i gyfrifo gofynion lliniaru ffosfforws a nitrogen ar gyfer datblygu o fewn y dalgylch ar gyfer afonydd sy'n ACA.
Mae naw afon ACA yng Nghymru. Mae angen cyfrifo niwtraliaeth maetholion mewn saith o'r dalgylchoedd afonydd hyn sy'n methu targedau ansawdd dŵr maetholion.
Mae angen niwtraliaeth maetholion yn y dalgylchoedd hyn:
- Afon Gwyrfai a Llyn Cwellyn
- Afon Teifi
- Afon Tywi
- Afon Cleddau
- Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid;
- Afon Wysg
- Afon Gwy
Nid oes angen niwtraliaeth maetholion yn y dalgylchoedd canlynol, ond mae'r gyfrifiannell yn bodoli ar gyfer y rhain pe bai datblygwyr eisiau dangos allbynnau maetholion ar gyfer eu datblygu:
- Afon Eden – Cors Goch Trawsfynydd
- Safleoedd Coedwigoedd Derw ac Ystlumod Meirionnydd (Afon Glaslyn)
Gallwch ddod o hyd i ganllawiau pellach ar gwblhau'r gyfrifiannell yn y fideo cyfarwyddyd hwn.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu broblemau gyda'r gyfrifiannell, anfonwch e-bost at decisionsbranch@llyw.cymru