Cafodd Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 ei rhoi ar waith ar 2 Mawrth 2020.
Mae’r gyfraith hon yn berthnasol i bob busnes, sefydliad ac unigolyn y mae'n ofynnol iddynt ddal trwydded am alcohol.
Bydd unrhyw fanwerthwr sy’n gwerthu neu'n cyflenwi alcohol am bris is na’r isafbris, neu’n awdurdodi hynny, yn torri’r gyfraith a gallent gael eu dirwyo.
O 1 Hydref, yr isafbris am alcohol yw 65c yr uned.
Defnyddiwch y teclyn hon i ddarganfod faint i'w godi am ddiod alcoholig er mwyn cydymffurfio â'r gyfraith.
