Neidio i'r prif gynnwy

Bydd pedwar sefydliad diwylliannol Cymreig yn cael eu hariannu drwy bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a'r National Manuscripts Conservation Trust (NMCT).

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yr National Manuscripts Conservation Trust (NMCT) yw'r unig roddwr grantiau yn y DU sy'n canolbwyntio'n llwyr ar ofal a chadwraeth llawysgrifau yn y DU.

Casgliad o oddeutu 2,000 o luniau a phaentiadau wedi'u casglu gan William Burges, y pensaer a'r dylunydd uchel ei barch, sy'n ymwneud â'i ailddatblygiad o Gastell Caerdydd o 1868 hyd ei farwolaeth ym 1881. Cynhelir y casgliad yn Archifau Morgannwg a bydd cadwraeth y casgliad yn sicrhau bod gwaith adfer y Castell yn cael ei wneud mewn modd wybodus sy’n cyd-fynd â’i gyfnod mewn blynyddoedd i ddod; gan ddiogelu un o dirnodau mwyaf eiconig y Brifddinas

Ymhlith y prosiectau eraill sy'n cael eu hariannu mae:

Firing Line Museum: Mae Cyfarwyddiadau Recriwtio Gwarchodlu Dragŵn y Brenin yn 1787 yn esbonio'r broses o ymuno gydag uwch gatrawd Gwarchodlu Dragŵn y Brenin ac mae'n cynnwys cyfarwyddiadau ar faterion megis talu a phrynu, iechyd a meddygaeth, crefydd, cysylltiadau rhyng-gatrodol a sefyllfa sifil y recriwtiaid. Bydd cadwraeth yn sicrhau bod y darn prin hwn o hanes milwrol yn cael ei gadw.

Archifau Gwent: Mae'r casgliad hwn o Adroddiadau Arolygu Cyn Shifftiau Glofa Gogledd Rhisga (1920au hyd at 1960au) yn cwmpasu cyfnod o newid a gweithgarwch mawr yn y diwydiant, o streiciau ac anawsterau economaidd y 1920au, drwy'r ail ryfel byd a gwladoli ym 1947. Bydd y gwaith hwn yn sicrhau y bydd catalog ar gyfer y casgliadau ar gael ar-lein i ymchwilwyr am y tro cyntaf. 

Amgueddfa Abertawe: Bu’r menywod busnes arloesol, Elizabeth 'Bessie' Dillwyn yn arbrofi gyda dyluniadau a mathau o seramig yng Nghrochendy enwog Cambrian  (oddeutu 1836), mae ei brasluniau yn cael eu gwarchod a'u harddangos ochr yn ochr â'r darnau gorffenedig o fewn casgliad yr amgueddfa.

Meddai Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip, Dawn Bowden:

"Mae'r bartneriaeth hon, a sefydlwyd yn 2008 gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn parhau i ehangu mynediad at gasgliadau o arwyddocâd cenedlaethol yng Nghymru. Bydd prosiectau eleni yn sicrhau mwy o fynediad i orffennol diwydiannol a chatrodol Cymru ac yn sicrhau gwell dealltwriaeth o hanes un o adeiladau mwyaf eiconig ein prifddinas, Castell Caerdydd, am flynyddoedd i ddod. Rwy'n ddiolchgar i Ymddiriedolwyr NMCT am eu cefnogaeth barhaus i gadw ein treftadaeth archifol gyfoethog."

Dywedodd yr Athro David McKitterick, Cadeirydd NMCT:

"Unwaith eto roedd Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn falch o gydweithio â Llywodraeth Cymru i gefnogi'r gofal a'r cadwraeth o ystod o ddeunydd, gan gynnwys lluniadau syfrdanol William Burges ar gyfer Castell Caerdydd, dyluniadau ar gyfer serameg enwog, cipolwg anarferol ar fywyd y fyddin yn y ddeunawfed ganrif a chofnodion pwysig y diwydiant glo. Bydd y rhain nawr ar gael er mwyn i'r cyhoedd eu mwynhau a'u deall o rannau allweddol o hanes Cymru dros nifer o flynyddoedd i ddod."