Neidio i'r prif gynnwy

Caiff y rheolau coronafeirws eu tynhau ar draws Bwrdeistref Sirol Caerffili i atal lledaeniad y coronafeirws yn lleol, meddai’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, heno.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Daw nifer o reolau newydd i rym ddydd Mawrth am 6pm, mewn ymgais i leihau nifer yr achosion newydd o’r haint.

  • Fydd pobl ddim yn cael dod i mewn na gadael Sir Caerffili heb esgus rhesymol;
  • Bydd rhaid i bawb dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb mewn siopau;
  • Dim ond yn yr awyr agored y bydd pobl yn cael cwrdd. Ni chaniateir cwrdd ag eraill dan do ac ni chaniateir cartrefi estynedig chwaith am y tro. Ni fydd hawl aros dros nos yng nghartrefi pobl eraill.

Bydd y cyfyngiadau newydd hyn yn berthnasol i bawb sy’n byw o fewn Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Fe’u cyflwynir yn dilyn cynnydd cyflym yn nifer yr achosion coronafeirws a gadarnhawyd, am fod pobl yn y sir wedi bod yn cwrdd dan do, yn anwybyddu’r canllawiau cadw pellter cymdeithasol ac yn mynd ar wyliau tramor.

Caiff y cyfyngiadau eu hadolygu’n rheolaidd ond os na fydd nifer yr achosion yn gostwng, bydd Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Caerffili ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i ystyried mesurau pellach.

Dywedodd y Gweinidog iechyd, Vaughan Gething:

 “Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn yr achosion yn sir Caerffili dros gyfnod byr iawn o amser, am fod pobl wedi teithio ar wyliau tramor ac wedi bod yn cymdeithasu dan do heb gadw pellter cymdeithasol.

 “Pobl ifanc yw llawer o’r achosion hyn, a diolch byth, symptomau ysgafn a welir gan fwyaf. Ond mae’r coronafeirws bellach yn cylchdroi o fewn y gymuned a dim ond mater o amser yw hi cyn inni ddechrau gweld achosion mwy difrifol a fydd yn gorfod cael eu trin yn yr ysbyty.

 “Mae arnom  angen help pawb yng Nghaerffili i atal y coronafeirws rhag cynyddu a lledaenu. Dim ond os yw pawb yn cyd-dynnu ac yn dilyn y rheolau newydd hyn.

“Os na welwn ni ostyngiad yn yr achosion, efallai y bydd rhaid inni gymryd camau eraill i ddod â’r achosion lleol hyn dan reolaeth.”

Yn y saith diwrnod diwethaf, cadarnhawyd 133 o achosion newydd. Mae hyn yn cyfateb i 55.4 achos ymhob 100,000 yn y boblogaeth – y gyfradd uchaf yng Nghymru ac un o’r uchaf yn y Deyrnas Unedig. Disgwylir i nifer yr achosion barhau i gynyddu.

Cyflwynwyd profion cymunedol yng Nghaerffili dros y penwythnos. Ddydd Sadwrn, cynhaliwyd profion ar tua 450 o bobl a chafwyd 19 achos positif – cyfradd o 4%. Mae hyn yn dangos bod y feirws yn cylchdroi yn y gymuned. Cynhaliwyd profion ar nifer tebyg o bobl ddydd Sul, a daw’r canlyniadau i law cyn bo hir.

Daw’r holl gyfyngiadau newyddi rym am 6pm nos Fawrth.

Oherwydd y cyfyngiadau teithio, ni chaiff pobl fynd mewn nac allan o Fwrdeistref Sirol Caerffili heb esgus rhesymol – e.e. gwaith, os na allant weithio gartref, neu ymweld ag anwyliaid am resymau tosturiol neu i roi gofal.

Dim ond yn yr awyr agored y bydd pobl yn cael cwrdd ag eraill, am y tro. Ni fydd hawl cwrdd ag eraill nac ymgynnull mewn grwpiau dan do. Ond bydd ymweliadau gofal yn cael digwydd.

Mae Cyngor Caerffili wedi cyflwyno rhai mesurau eisoes, mewn ymateb i’r cynnydd mewn achosion. Mae wedi atal ymweliadau â chartrefi gofal yn y bwrdeistref dros dro a bydd staff cartrefi gofal yn cael profion coronafeirws wythnosol.

Dywedodd y Cyngh. Philippa Marsden, arweinydd Cyngor Caerffili:

“Rhaid inni atal lledaeniad yr haint ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Yn anffodus, mae hynny’n golygu rheolau newydd llym.

 “Rwy’n erfyn ar bawb sy’n byw yn y sir i ddilyn y rheolau newydd hyn. Rhaid cadw pellter cymdeithasol a rhaid golchi eich dwylo’n rheolaidd. Os gweithiwn gyda’n gilydd gallwn ddod â’r haint dan reolaeth a lleihau achosion y feirws.”

Adolygir y mesurau newydd yn rheolaidd. Yr awdurdod lleol a’r heddlu fydd yn gorfodi’r cyfyngiadau newydd.