Neidio i'r prif gynnwy

Bydd adroddiad a gyhoeddwyd heddiw ar gyflwr y diwydiant llaeth yng Nghymru yn helpu ffermwyr i wella perfformiad a pha mor gadarn yw eu busnesau, a pharatoi am ddyfodol wedi Brexit

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig.

Yn 2017, rhoddodd Llywodraeth Cymru £3.2 miliwn o gymorth Ewropeaidd amodol i ffermwyr llaeth yng Nghymru trwy ddau gynllun sy'n canolbwyntio ar feincnodi busnesau ffermio a chofnodi llaeth buchesi.

Yn galonogol, manteisiodd 75% o'r ffermwyr llaeth ar y cyfle - y nifer uchaf yn y DU.  Yn ogystal â derbyn cymorth ariannol, cafodd ffermwyr hefyd adroddiad a baratowyd yn benodol ar eu cyfer ac a oedd yn dangos cryfderau a gwendidau eu busnes o'i gymharu â ffermydd llaeth eraill.

Defnyddiwyd data gwerthfawr o'r cynllun meincnodi i lunio adroddiad (dolen allanol) sy'n rhoi cipolwg o berfformiad ffermydd llaeth yng Nghymru. Mae'r prif ganfyddiadau yn cynnwys:

  • Pa mor bwysig yw hi fod ffermwyr yn mynd ati'n barhaus i fesur perfformiad ariannol eu busnes i’w helpu i fod yn fwy effeithlon;
  • mae'r ffermydd sy'n perfformio orau yn dangos bod modd i ffermydd llaeth fod yn broffidiol a gwneud elw da, hyd yn oed pan fo amodau masnachu'n anodd;
  • mae rhai ffermydd llaeth lle mae costau cynhyrchu yn uwch na'r pris uchaf a gafwyd am laeth erioed;
  • dylai ffermwyr fanteisio ar y ffaith bod digonedd o borfa ac i sicrhau eu bod yn cynhyrchu cymaint â phosib o laeth o borfa a phorthiant;
  • mae ffermwyr sydd wedi dewis eu system gynhyrchu yn fwriadol yn tueddu i wneud mwy o elw; ac
  • roedd sicrhau safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid yn lleihau effaith ariannol clefydau a gall roi mantais gystadleuol i'r diwydiant.

Mae cymorth i helpu ffermwyr llaeth fynd i'r afael â'r materion a nodwyd yn yr adroddiad ar gael drwy raglen Cyswllt Ffermio Llywodraeth Cymru a thrwy'r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth.

Wrth groesawu'r newyddion, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:  “Drwy fabwysiadu'r ffyrdd uchod o gynnig cymorth i'n ffermwyr llaeth, rydym wedi cael data defnyddiol am berfformiad y diwydiant yng Nghymru.  

“Bydd yr adroddiad a gyhoeddwyd heddiw yn gwneud llawer i helpu ffermwyr i wella perfformiad eu busnes drwy leihau eu costau cynhyrchu.  Bydd hynny'n helpu i sicrhau bod ffermydd llaeth yn fwy effeithlon, ac yn caniatáu iddynt ymdopi'n well ag unrhyw risgiau busnes ac â phrisiau llaeth anwadal.

“Rydym yn gwireddu'r ymrwymiad a wnaethom yn y strategaeth genedlaethol i weithio gyda phawb i baratoi ar gyfer byd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd ac i greu sector amaethyddol cadarn.  Gan weithio mewn partneriaeth â'r diwydiant, bydd yn wybodaeth amhrisiadwy a fydd yn ein helpu i benderfynu sut orau i roi help llaw i’r sector baratoi ar gyfer y dyfodol.

“Mater sy'n destun cryn bryder imi yw bod yr adroddiad wedi dangos bod yna rai ffermydd llaeth yng Nghymru lle mae costau cynhyrchu yn uwch na'r pris uchaf a gafwyd am laeth erioed.  Rwyf wrthi'n teilwra'r cymorth yr ydym yn ei gynnig er mwyn helpu'r ffermydd hynny i ailedrych ar strwythur eu busnes ac i ddefnyddio'r adroddiad meincnodi a ddarparwyd ar eu cyfer i nodi sut y gallant fynd ati i wella.

“Mae canfyddiadau'r adroddiad yn dangos yn glir y gall unrhyw fferm fod yn fwy proffidiol, beth bynnag fo pris y llaeth, drwy fod yn fwy effeithlon a thrwy hoelio sylw ar leihau costau cynhyrchu llaeth.

“Mae Brexit yn cyflwyno sawl her i’r diwydiant amaethyddol yng Nghymru ond bydd hefyd yn creu cyfleoedd.  Rhaid i'r diwydiant, a ffermwyr unigol, baratoi'n iawn, gan ddechrau 'nawr, er mwyn cynllunio ar gyfer y dyfodol.

“Mae'r rhagolygon hirdymor ar gyfer y sector llaeth yn dda, a rhagwelir y bydd y galw byd-eang yn cynyddu o'r naill flwyddyn i'r llall.  Mae angen i'n ffermwyr llaeth fod yn gystadleuol ac i hoelio sylw ar anghenion y farchnad os ydynt am gystadlu â'r goreuon yn y byd.  O wneud hynny, credaf y bydd gan ein ffermwyr a'n sector llaeth ddyfodol disglair.

"Dwi'n annog pob ffermwr godro yng Nghymru a'r diwydiant yn ehangach i ddefnyddio'r data sydd ar gael i'w helpu i baratoi ar gyfer y byd wedi Brexit; ac i helpu i sicrhau y gall eu busnesau wrthsefyll unrhyw beth a bod yn llewyrchus."