Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr adroddiad blynyddol ar addysgu am gymunedau a chyfraniadau pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Gorffennaf 2020, penododd Llywodraeth Cymru yr Athro Charlotte Williams OBE i gadeirio Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y cwricwlwm newydd. Cyhoeddodd y gweithgor ei adroddiad terfynol ym mis Mawrth a derbyniwyd yr holl argymhellion gan Lywodraeth Cymru.

Mae adroddiad heddiw yn nodi’r cynnydd a wnaed o ran gweithredu’r argymhellion, gyda’r nod o atgyfnerthu pwysigrwydd addysgu am gyfraniadau a phrofiadau cymunedau pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol ledled Cymru o’r gorffennol a’r presennol.

Mae’r adroddiad yn amlygu’r camau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys:

  • gwneud dysgu hanes pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn orfodol yn y Cwricwlwm newydd, sydd i’w gyflwyno o fis Medi ymlaen;
  • cynnwys cynllun cymhelliant newydd i ddenu mwy o bobl o gefndir Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol i addysgu;
  • cyflwyno deunyddiau dysgu newydd i gefnogi athrawon i addysgu hanes a chyfraniadau pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol o fewn y Cwricwlwm newydd;
  • cefnogi Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Rhwydwaith Addysg BAME Cymru i sefydlu’r prosiect Dysgu Proffesiynol ar Amrywiaeth a Gwrth-Hiliaeth, i ddarparu model cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol i’r rheini sy’n gweithio yn y byd addysg i ddatblygu dealltwriaeth a datblygu arferion gwrth-hiliol;
  • lansio Gwobr Addysgu Proffesiynol newydd Betty Campbell MBE i hyrwyddo’r gwaith y mae ysgolion yn ei wneud i addysgu pwysigrwydd cynhwysiant.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gamau gweithredu eraill o fewn ei Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

“Fy ngweledigaeth yw y bydd y Cwricwlwm newydd yn helpu pob person ifanc i ddeall sut mae ein hanes, iaith a diwylliant unigryw, yn eu holl amrywiaeth, wedi creu’r genedl falch a welir yng Nghymru heddiw.

“Rwy’n falch o weld ein bod wedi symud ymlaen cryn dipyn, a bod nifer o argymhellion yr adroddiad gwreiddiol wedi eu rhoi ar waith. Fodd bynnag, mae mwy o waith i’w wneud er mwyn sicrhau bod y system addysg yng Nghymru yn adlewyrchu profiadau Cymru gyfan, o’r gorffennol a’r presennol.

“Rwy’n arbennig o ddiolchgar am y cymorth parhaus rydym wedi ei dderbyn gan yr Athro Charlotte Williams OBE, sy’n parhau i chwarae rhan hanfodol drwy ein cefnogi i symud y gwaith pwysig hwn yn ei flaen.”

Dywedodd yr Athro Charlotte Williams OBE:

“Mae hwn yn gyfnod hanfodol i addysg yng Nghymru, gyda’r cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno mewn ysgolion o fis Medi ymlaen. Bydd elfennau gorfodol newydd y cwricwlwm, yn enwedig addysgu profiadau a chyfraniadau pobl o gefndiroedd lleiafrifol, yn ehangu addysg pob plentyn yng Nghymru, fel ei fod yn adlewyrchu holl boblogaeth Cymru yn well.

“Bydd addysgu pobl ifanc am brofiadau a chyfraniadau pobl ethnig leiafrifol yng Nghymru, o’r gorffennol a’r presennol, o gymorth i hyrwyddo gwir newid er mwyn ceisio herio anghydraddoldeb ehangach o fewn cymdeithas.

“Bydd y Gweithgor yn parhau i gynghori’r llywodraeth a chymryd camau gweithredu er mwyn sicrhau parhad a chynaliadwyedd y gwaith hwn, gan ganolbwyntio ar ei effaith gadarnhaol ar gymdeithas yn ehangach.”