Neidio i'r prif gynnwy

Daw’r rhaglen beilot cyn i amnest cenedlaethol o offerynnau cerdd gael ei gynnal ym mis Tachwedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Daeth Llywodraeth Cymru a CHynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd i ofyn i Aelodau Cynulliad a phob aelod staff i ddod ag unrhyw offerynnau cerdd diangen oedd ganddyn nhw, fel y gellid eu darparu i’w defnyddio mewn ysgolion yng Nghymru, sydd mewn angen.

Daw’r rhaglen beilot cyn i amnest cenedlaethol o offerynnau cerdd gael ei gynnal ym mis Tachwedd.

Mae Elin Jones, y Llywydd, a Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi ail-bwysleisio eu hymrwymiad i sicrhau y gall pawb ledled Cymru gymryd rhan yn y celfyddydau a diwylliant, gan gynnwys cerddoriaeth, a chael profiad ohonyn nhw.
Meddai Kirsty Williams:

“Rydw i wedi ymroi i’r syniad os oes plentyn yn cael ei ysbrydoli i godi offeryn, beth bynnag fo’r offeryn, bod ganddo’r gallu i gael gafael ar un a datblygu ei sgiliau perfformio a chwarae.

“Dyna pam rydw i wrth fy modd gydag Amnest Offerynnau Cerddl cyntaf Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Boed yn set o ddrymiau diangen neu’n sacsoffon segur, rydyn ni’n awyddus i helpu i wneud yn siŵr bod yr offerynnau hyn yn cyrraedd y bobl ifanc hynny a fyddai’n rhoi bywyd newydd iddyn nhw.

Meddai Elin Jones AC:

“Yn ddiweddar, cymerais ran yng ngherddorfa Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Ceredigion ar gyfer pobl sy’n dysgu offeryn am y tro cyntaf; roeddwn i’n chwarae’r maracas.

“Mae cerddoriaeth yn rhan bwysig o fywyd; mae’n codi’r ysbryd, yn ein hadfywio ac yn ffordd o fynegi ein hunain, a dyna pam mae’n bwysig goresgyn y rhwystrau sy’n atal pobl ifanc rhag chwarae. Gall dysgu sut i chwarae offeryn fod yn her, ac mae cael gafael ar offeryn o ansawdd da yn bwysig iawn.”

Cynhaliwyd Wythnos Amnest Offerynnau Cerdd Llywodraeth Cymru/Cynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng 12-19 Gorffennaf.
Cynhelir yr amnest cenedlaethol ym mis Tachwedd a bydd yn cael ei gydgysylltu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Felly os gallwch chi roi unrhyw offerynnau cerdd diangen o ansawdd da sy’n hel llwch yn yr atig neu’n cuddio mewn cwpwrdd, yna cofiwch gadw llygad am y manylion.