Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas wedi cyhoeddi enwau Cadeirydd ac Aelodau Bwrdd Anweithredol cyntaf Cymru Greadigol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Sefydlwyd Cymru Greadigol ym mis Ionawr i sbarduno twf y diwydiannau creadigol yng Nghymru.

Catryn Ramasut fydd cadeirydd y bwrdd.  Fel entrepreneur ym maes y cyfryngau, mae gyrfa Catryn Ramasut wedi pontio dros 20 mlynedd ym myd radio, teledu, print, rheoli cerdd a hysbysebu, yn y wlad hon ac yn rhyngwladol.  

Ers dychwelyd i Gaerdydd, ei mam-ddinas, yn 2010, mae hi wedi sefydlu cwmni cynhyrchu arobryn, Cynyrchiadau ieie.

Dywedodd am ei phenodiad:

Rwy’n fwy awyddus nag erioed i roi o’m hamser a’m hegni i sicrhau bod gan Gymru ddiwydiant creadigol mwy byrlymus sydd o’i hanfod yn amrywiol a chynhwysol.

Aelodau’r Bwrdd yw: Dr David Banner MBE; Garffild Lloyd Lewis; Helgard Krause; Siân Gale; Richie Turner a Phil Henfrey.

Wrth gadarnhau’r penodiadau, dywedodd y Dirprwy Weinidog:

Rwy wrth fy modd â’r talent, y profiad a’r amrywiaeth sydd gennym ar Fwrdd Anweithredol cyntaf Cymru Greadigol, ac rydym yn disgwyl ymlaen at weithio gyda nhw i ddatblygu’r sector ymhellach.

Ein hamcan yw gweithio ar lwyddiannau’r diwydiant sgrin a’u datblygu i sbarduno twf y sector creadigol yn ei gyfanrwydd; datblygu sylfaen sgiliau o safon byd, ehangu’r gefnogaeth y tu hwnt i ffilm a theledu a gwneud Cymru y lle i ddod iddo i sefydlu busnes creadigol.

Cafodd y Bwrdd ei gyfarfod cyntaf ddydd Gwener, 6 Tachwedd.  Bydd y Cadeirydd a’r aelodau’n gwasanaethu am dair blynedd.