Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth fod Kate Eden wedi’i phenodi’n Gadeirydd newydd Amgueddfa Cymru.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dros yr wyth mlynedd ddiwethaf, mae Kate wedi cyflawni portffolio o swyddi anweithredol ar draws cyrff allweddol ym mywyd cyhoeddus Cymru, gan ganolbwyntio’n bennaf ar y sectorau diwylliannol ac iechyd. Cyn ei gyrfa anweithredol, treuliodd Kate bymtheng mlynedd yn gweithio yn y diwydiant fferyllol a biotechnoleg ym maes materion cyhoeddus, polisi a chyfathrebu strategol, yn y DU ac yn rhyngwladol.

Cafodd Kate ei geni a’i magu yng ngogledd Cymru, gan fynychu Ysgol Alun yn yr Wyddgrug cyn astudio Gwyddorau Cymdeithasol a Gwleidyddol yng Ngholeg King’s, Caergrawnt. Mae bellach yn byw ym Mannau Brycheiniog ac yn dysgu Cymraeg yng Ngholeg Gwent.

Fel Cadeirydd Amgueddfa Cymru, bydd Kate yn atebol i Weinidogion Cymru am weithrediad Amgueddfa Cymru ac yn gyfrifol am gadeirio a goruchwylio’r Bwrdd Ymddiriedolwyr.

Mae Rhys Evans wedi’i benodi hefyd yn Is-gadeirydd Amgueddfa Cymru. Rhys yw Pennaeth Materion Corfforaethol a Pholisi Cyhoeddus BBC Cymru Wales ac mae’n gyfrifol am amrywiaeth o swyddogaethau, gan gynnwys cyfathrebu, rheoleiddio a materion cyhoeddus. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol ac yn Ymddiriedolwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Wrth gyhoeddi’r penodiadau, dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth:

“Hoffwn groesawu Kate a Rhys i’w rolau newydd. Mae Amgueddfa Cymru yn dechrau cyfnod newydd a chyffrous ac edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw i gryfhau’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud gan Amgueddfa Cymru, ac adeiladu ar y gwaith hwnnw, i ysbrydoli a hysbysu pobl ar draws Cymru.”

“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Dr Carol Bell, y Llywydd Dros Dro a'r Is-lywydd ers 2016 sy'n dod i ddiwedd ei chyfnod ar y Bwrdd. Ymunodd Dr Bell fel Ymddiriedolwr yn 2014 ac ers mis Ionawr 2023 mae wedi ymgymryd â chyfrifoldebau llywyddol ychwanegol, gan ddod â pharhad i'r Bwrdd a dangos ymroddiad ac ymrwymiad i Amgueddfa Cymru.”

Ar gael ei phenodi i’r rôl, dywedodd Kate Eden:

“Dyma gyfle cyffrous iawn i helpu i arwain teulu o amgueddfeydd a chasgliadau cenedlaethol Cymru drwy ran nesaf eu taith i ddod yn wirioneddol hygyrch, gan adlewyrchu amrywiaeth cymunedau a hanes Cymru.”

Dywedodd Llywydd Dros Dro Amgueddfa Cymru, Dr Carol Bell:

"Ar ran Amgueddfa Cymru, hoffwn longyfarch Kate a Rhys ar eu penodiadau newydd. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Amgueddfa Cymru wrth i ni ehangu ein gwaith ymgysylltu a gweithio i gyflawni ein Strategaeth 2030 ar gyfer cymunedau Cymru. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu'r profiad a'r safbwyntiau newydd y byddant yn eu cynnig i'n Bwrdd Ymddiriedolwyr."