Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (20 Rhagfyr), mae Gweinidog dros Drafnidiaeth, Ken Skates, wedi enwi Scott Waddington yn Gadeirydd newydd Trafnidiaeth Cymru.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth gyhoeddi'r penodiad, dywedodd Ken Skates:

"Roeddwn eisiau arweinydd o fri i oruchwylio trawsnewidiad ein rhwydwaith trafnidiaeth, gan ddal tîm gweithredol Trafnidiaeth Cymru i gyfrif a sicrhau ei fod yn gwneud y defnydd gorau posibl o arian cyhoeddus ac yn gweithredu er budd y cyhoedd ar yr un pryd.  

"Bydd Bwrdd Trafnidiaeth Cymru yn cynrychioli'r cymunedau y mae'n ei wasanaethu gan graffu ar waith y cwmni a'i gefnogi.  Bydd yn sicrhau y bydd penderfyniadau yn cael eu gwneud er budd teithwyr a'r rhai sy'n defnyddio'r rhwydweithiau trafnidiaeth a reolir ganddo ar ein rhan. 

"Rwy’n chwilio am y bobl mwyaf medrus ac ymrwymedig i gefnogi'r weledigaeth a fydd yn golygu y bydd Trafnidiaeth Cymru yn rhwydwaith trafnidiaeth llwyr integredig, gyda chwsmeriaid yn elfen graidd o'i waith.

"Credaf fod Scott Waddington yn meddu ar y sgiliau i adeiladu ar y sylfeini cadarn sydd eisoes wedi'u gosod ar gyfer Trafnidiaeth Cymru. Gyda'i yrfa hir a llwyddiannus yn llywio brand Cymreig eiconig, a'i ymrwymiad blaenorol i wasanaeth cyhoeddus a gwasanaethau ar y cyd drwy ei waith gyda chyrff llywodraethol a diwydiannau, mae cymwysterau Scott yn cyd-fynd ag anghenion Trafnidiaeth Cymru.

"Mae hanes ardderchog Scott o ran cyflenwi gwasanaethau cwsmeriaid yn golygu mai ef yw'r dewis cywir wrth i Trafnidiaeth Cymru ddechrau newid canfyddiad a phrofiad o drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru." 

Yn ddiweddar, roedd Mr Waddington wedi rhoi'r gorau i'w swydd lwyddiannus fel Prif Weithredwr cwmni bragu a thafarn preifat, SA Brain. 

Cafodd ei eni a'i addysgu yn Abertawe, ac astudiodd Economeg a Chyfrifyddu ym Mhrifysgol Reading. Gan ymuno â SA Brains yn 2001, ef oedd yn gyfrifol am oruchwylio'r cynnydd mewn buddsoddiad yn ystad y dafarn a'r broses o ehangu'r busnes dosbarthu diodydd drwy waith caffael ledled Cymru. Yn 2011, gwnaeth Brains gaffael Coffee#1, sef cadwyn o siopau coffi ar y stryd fawr sydd bellach wedi ehangu i bron 100 o siopau drwy leoliadau newydd ledled Cymru a Gorllewin Lloegr. Yn ystod ei gyfnod gyda Brains, mae’r cwmni wedi tyfu i dros 200 o dafarndai ac mae'n cyflogi dros 2500 o bobl.

Yn Gadeirydd y Cydffederasiwn Diwydiant Prydain ar gyfer Cymru rhwng 2010 a 2011, roedd Scott hefyd yn Gomisiynydd Cymru Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau am bum mlynedd o fis Ebill 2012 ac roedd yn Gadeirydd Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru. 

Ar hyn o bryd mae'n Gadeirydd Clwb Busnes Caerdydd ac mae wedi bod yn rhan o amryfal gyrff yn y diwydiant croeso gan gynnwys y British Beer and Pub Association (BBPA) a’r Independent Family Brewers of Britain (IFBB).

Yn ei swydd fel Cadeirydd Trafnidiaeth Cymru, bydd Scott yn gyfrifol am arwain y Bwrdd a sicrhau ei fod yn cyflawni pob agwedd ar ei waith yn effeithiol. Scott fydd y cyswllt rhwng Bwrdd Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru, a bydd yn gyfrifol am bennu agenda'r Bwrdd.

Dywedodd y Gweinidog dros Drafnidiaeth: 

"Rwy'n llongyfarch Scott ar ei gais llwyddiannus ac rwyf wrth fy modd i'w groesawu i'r swydd fel Cadeirydd Trafnidiaeth Cymru. Mae ganddo brofiad helaeth ac rwy'n siŵr y bydd anghenion cwsmeriaid yn rhan graidd o waith Trafnidiaeth Cymru.

"Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r ymgeiswyr aflwyddiannus a wnaeth roi o'u hamser i gyflwyno cais. Roedd y gystadleuaeth yn un gref ac roedd safon yr ymgeiswyr yn uchel dros ben. Rydym yn ffodus bod gennym gymaint o dalent o'r fath yng Nghymru".