Neidio i'r prif gynnwy

Mae Lesley Griffiths wedi cyhoeddi heddiw [Llun, 10 Rhagfyr] argymhellion adolygiad o'r Cynllun Unedau Cwarantîn, flwyddyn ar ôl ei gychwyn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd y Cynllun Unedau Cwarantîn ei ddechrau ym mis Medi 2017 ar gais diwydiant ffermio Cymru. Cafodd ei greu i gymryd lle'r Cyfleusterau Ynysu a rhoi dewis i ffermwyr yn lle'r rheol gwahardd symud 6 niwrnod a'r hyblygrwydd iddyn nhw allu symud anifeiliaid heb aberthu bioddiogelwch ffermydd Cymru.

Cafodd y rheol gwahardd symud 6 niwrnod ei chreu ar ôl yr achos o'r Clwy'r Traed a'r Genau yn 2001 ac mae'n fesur pwysig i osgoi lledaenu'r clefyd.

Addawodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai'n cynnal adolygiad o'r system gwarantîn er mwyn datrys rhai o bryderon rhanddeiliaid a gweld a oes lle i'w wella.

Mae'r adolygiad wedi cynnig naw argymhelliad ar gyfer gwelliannau.

Byddai'n bosib rhoi dau ohonyn nhw ar waith cyn diwedd y flwyddyn ond byddwn yn ystyried y saith sy'n weddill yn y Flwyddyn Newydd.

Cyn diwedd y flwyddyn, mae'r adolygiad yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gyfathrebu'n wella â'r rhanddeiliaid trwy gynnal digwyddiadau a symleiddio'r canllawiau. Hefyd, mae'n argymell y dylem edrych eto ar y canllawiau ar yr Unedau Cwarantîn mewn cysylltiad â TB i'w gwneud yn gliriach.

Yn y Flwyddyn Newydd, mae'r adolygiad yn cynnig saith argymhelliad i'w hystyried:

  • Ystyried y posibilrwydd o newid y rheol sy'n gofyn i ffermwyr roi gwybod o fewn 24 awr bod anifeiliaid wedi'u symud i'r uned gwarantîn ac o fewn 3 niwrnod eu bod wedi'u symud o'r uned gwarantîn;
  • Ymchwilio i'r posibilrwydd o ddatblygu cynllun grant ar gyfer ardystio Unedau Cwarantîn er mwyn helpu ffermwyr i ysgwyddo cost ardystio;
  • Ymchwilio i'r posibilrwydd o ganiatáu i'r gorff ardystio roi tystysgrifau a chynnal archwiliadau adnewyddu fesul grŵp o ffermydd;
  • Ystyried a allai'r corff ardystio gyfuno ymweliadau archwilio unedau cwarantîn ag ymweliadau eraill er mwyn lleihau costau;
  • Rhoi mwy o ryddid i archwilwyr wrth asesu a yw unedau cwarantîn yn cydymffurfio â'r gofynion (e.e. defnyddio rhwystrau naturiol o gwmpas yr uned);
  • Gofyn i gyrff ardystio symleiddio'r drefn ar gyfer adnewyddu tystysgrif uned gwarantîn; a
  • Parhau i gasglu data am symudiadau anifeiliaid sy'n cael eu symud o ddaliadau yng Nghymru i sioeau amaethyddol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:  

"Gwnaethon ni gyflwyno cynllun yr Unedau Cwarantîn ar ôl ymgynghori a chydweithredu â'r sector, er mwyn cynnig dewis arall yn lle'r rheol chwe niwrnod ar wahardd symud ac er mwyn i ffermwyr allu symud anifeiliaid i sioeau amaethyddol.

"Dros y misoedd diwethaf mae fy swyddogion wedi cynnal adolygiad i fynd i'r afael â rhai o'r problemau sydd wedi codi yn y flwyddyn gyntaf. Canlyniad hynny oedd naw argymhelliad ac rwyf wedi derbyn y naw.

"Rwy'n gobeithio eu bod yn cyfrannu at dawelu pryderon ac rwy'n hyderus y byddan nhw'n ein helpu i wella'r system gwarantîn sy' mor bwysig i reoli clefydau. Byddwn yn parhau i adolygu'r cynllun dros y blynyddoedd i ddod."

Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop:

"Ein blaenoriaeth bennaf yw cadw clefydau allan o Gymru. Cyn Clwy'r Traed a'r Genau yn 2001, nid oedd y fath beth â chyfnodau gwahardd symud, a symudiadau pell a lluosog oedd yn gyfrifol am ledaenu'r clefyd ar y pryd.

"Mae'r gwaharddiad symud am 6 niwrnod yn dal yn bwysig o ran bioddiogelwch y wlad ond mae'r unedau cwarantîn yn rhoi hyblygrwydd i ffermwyr tra'n lleihau'r risg o ledaenu clefydau."