Mewn gorymdaith yn erbyn hiliaeth, cyhoeddwyd cymorth ariannol ar gyfer cymunedau lleol ledled Cymru i ddathlu Diwrnod Windrush.
Cyhoeddwyd diwrnod cenedlaethol i gofio Cenhedlaeth Windrush y llynedd gan Lywodraeth y DU, ond dim ond ar gyfer digwyddiadau yn Lloegr y neilltuwyd cymorth ariannol.
Caiff Diwrnod Windrush ei gynnal ar 22 Mehefin, sef y diwrnod y cyrhaeddodd tua 500 y DU o'r Caribî ym 1948.
Bydd cyfanswm o £40,000 ar gael i gefnogi grwpiau cymunedol i gynnal digwyddiadau ledled Cymru.
Daeth y cyhoeddiad am y cyllid wrth i gannoedd baratoi i orymdeithio ar draws canol dinas Caerdydd i nodi Diwrnod Gwrth-Hiliaeth y Cenhedloedd Unedig, a drefnwyd gan Stand Up to Racism.
Wrth siarad yn nigwyddiad heddiw [Dydd Sadwrn, yr 16], dywedodd Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip:
"Y llynedd, fe welson ni oblygiadau Sgandal Windrush, canlyniad uniongyrchol i bolisi "amgylchedd gelyniaethus" Llywodraeth y DU. Mae Llywodraeth Cymru, ar y llaw arall, yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi cyfraniad sylweddol Cenhedlaeth Windrush, ac yn wir gyfraniadau cymunedau eraill sydd wedi symud yma.
"Heddiw, rwy'n cyhoeddi cyllid grant i gymunedau gael dathlu Diwrnod Windrush ar 22 Mehefin, i nodi'r cyfraniad y mae cymunedau sydd wedi symud i Gymru wedi'i wneud i'n hanes, i'n heconomi ac i'n diwylliant."
Aeth y Gweinidog yn ei blaen:
"Rwy'n wirioneddol falch o weld cymaint o bobl yma heddiw; gyda'n gilydd, gadewch inni godi ein llais i anfon neges glir na wnawn ni oddef hiliaeth o unrhyw fath yng Nghymru."
Y llynedd, ymddiheurodd Llywodraeth y DU yn ffurfiol i'r rheini a ddioddefodd yn sgil sgandal Windrush, ar ôl i lawer gael gwybod nad oedd hawl gyfreithiol ganddynt i fod yn y DU. Anfonwyd nifer o'r wlad.