Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru am sefydlu tasglu newydd er mwyn creu swyddi a gwella ansawdd bywyd pobl yng Nghymoedd y De.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, wedi amlinellu sut bydd y grŵp yn gweithio ar draws y Llywodraeth i fodloni anghenion y cymoedd yn y dyfodol o ran addysg, iechyd a datblygu economaidd.

Ymhlith aelodau'r grŵp a fydd yn helpu ardaloedd mwyaf difreintiedig y cymoedd fydd unigolion o'r sectorau preifat a chyhoeddus. Y nod fydd sicrhau bod pob unigolyn yn cael cyfle i gyflawni ei botensial.

Dywedodd Alun Davies, a fydd yn cadeirio'r tasglu:

"Mae hanes cryf a balch gan gymoedd De Cymru.  Ond mae cau’r gwaith haearn, y gwaith dur a’r pyllau wedi cael effaith hirdymor ar gymunedau’r cymoedd.  Rydyn ni eisiau mynd ati i fuddsoddi mewn ffordd newydd yn nyfodol ein cymoedd, gan ennyn brwdfrydedd a grymuso cymunedau lleol, ac adfer gobaith ac uchelgais.  

"Er ein bod ni wedi cymryd camau pwysig yng Nghymru i leihau diweithdra a nifer y bobl sy’n byw mewn aelwydydd di-waith, mae rhannau o’r cymoedd yn parhau â lefelau uchel o anweithgarwch economaidd a diweithdra.  Mae'n rhaid i hyn newid.

"Eisoes rydyn ni wedi gweld cryn fuddsoddi strwythurol yn y cymoedd, a bydd y tasglu yn adeiladu ar y sylfaen hon, gan gydweithio â phobl yr ardal, busnesau lleol, llywodraeth leol, y trydydd sector a sefydliadau dinesig i hyrwyddo’r cymoedd fel ardal i fuddsoddi ynddi a lle i fyw."

Bydd y tasglu yn cydweithio’n agos â rhaglenni Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Dinas-Ranbarth Bae Abertawe ac yn ceisio harneisio potensial mentrau newydd fel Metro a thirlun unigryw ac amrywiol y cymoedd i wneud yr ardal yn gyrchfan i dwristiaid.