Bydd cymunedau ym mhob cwr o Gymru’n elwa o gronfa newydd, gwerth mwy na hanner biliwn o bunnoedd, i greu swyddi a chynyddu cynhyrchiant ledled Cymru gyfan.
Mae'r Gronfa Twf Lleol yn cymryd lle arian a arferai ddod o'r Undeb Ewropeaidd.
Bydd y penderfyniadau ynghylch sut bydd yr arian yn cael ei wario yn dychwelyd i Gymru, gan anrhydeddu ymrwymiad Llywodraeth y DU i adfer gwneud penderfyniadau am arian oedd yn dod o’r UE yn flaenorol.
Mae Llywodraethau Cymru a'r DU wedi cytuno ar fframwaith a fydd yn pennu blaenoriaethau a phrosesau ar gyfer dyrannu'r arian, gyda chynllun cyflawni wedi'i ddatblygu a'i arwain gan Lywodraeth Cymru.
Bydd gan awdurdodau lleol a phartneriaid eraill rôl allweddol wrth benderfynu sut mae'r cyllid yn cael ei wario a chyflwyno'r gronfa mewn cymunedau.
Yn ddiweddarach y mis yma, bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y ffordd orau o ddefnyddio'r cyllid hwn drwy ymgynghoriad.
Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i ddeall sut gall gyflawni’r canlynol yn y ffordd orau:
- cefnogi pobl i gael gwaith a helpu pobl i ennill sgiliau a chymwysterau newydd i symud ymlaen i swyddi gyda chyflog uwch fel bod cyfran fwy o'n poblogaeth yn cael ei chyflogi
- helpu i greu a thyfu busnesau Cymru mewn sectorau allweddol a hybu buddsoddiad mewn ymchwil ac arloesi, mewn meysydd fel iechyd a biodechnoleg, technoleg ariannol, ynni carbon isel a deallusrwydd artiffisial.
- mynd i'r afael â'r materion sy'n atal twf, fel yr angen am safleoedd ac adeiladau allweddol, cynhyrchu ynni adnewyddadwy a charbon isel, effeithlonrwydd ynni, a thrafnidiaeth carbon isel.
Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:
“Mae ein Cronfa Twf Lleol newydd ni i Gymru yn gyfle arwyddocaol i gefnogi busnesau a mentrau cymdeithasol i dyfu, allforio ac arloesi - yn enwedig mewn sectorau twf uchel fel deallusrwydd artiffisial, seiberddiogelwch a thrawsnewid digidol. Drwy fynd i'r afael â rhwystrau fel mynediad at gyllid ac annog buddsoddiad mewn ymchwil a datblygu, gallwn helpu i greu economi fwy cystadleuol a gwydnach yng Nghymru.
“Mae cefnogi pobl i waith a’u helpu i wneud cynnydd yn hanfodol i leihau anweithgarwch economaidd. Drwy sicrhau bod y sgiliau sy’n cael eu datblygu’n cyd-fynd ag anghenion ein heconomïau rhanbarthol, gallwn sicrhau bod pobl ledled Cymru mewn sefyllfa dda ar gyfer swyddi’r dyfodol.
“Rydym yn awyddus i weld ffocws cadarn ar seilwaith gwyrdd, effeithlonrwydd ynni ac adfywio lleol. Byddwn yn annog buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, trafnidiaeth carbon isel, a threftadaeth. Bydd twristiaeth yn cael ei chefnogi mewn ffordd sy’n helpu ein cymunedau i ffynnu.
“Rwy’n falch iawn, yn dilyn cytundeb gyda Llywodraeth y DU, y bydd y penderfyniadau am y blaenoriaethau ar gyfer y gronfa hon yn cael eu gwneud yma gan Lywodraeth Cymru.”
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens:
“Mae’r buddsoddiad hwn o fwy na hanner biliwn o bunnoedd gan Lywodraeth y DU yn allweddol i sbarduno twf economaidd yng Nghymru, gan helpu i dyfu busnesau a chael mwy o bobl i swyddi gyda chyflog da.
“Pobl yng Nghymru sydd yn y sefyllfa orau i wneud penderfyniadau ynghylch sut mae’r arian hwn yn cael ei wario ac rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflawni ein blaenoriaeth ar y cyd o sicrhau twf, ffyniant a chyfle ledled y wlad.”
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
“Bydd y gronfa newydd hon yn canolbwyntio ar gefnogi twf a chynhyrchiant rhanbarthol, yn ogystal â mynd i’r afael ag anghydraddoldebau economaidd.
“Byddwn yn gweithio ar unwaith nawr gyda’n partneriaid i flaenoriaethu buddsoddiad ym mhob rhanbarth.”
Cyhoeddir rhagor o wybodaeth am y cyllid yn ystod y misoedd nesaf.
