Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r buddsoddiad newydd yn rhan o Anabledd Dysgu: Rhaglen Gwella Bywydau, sy'n anelu at wella'r ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu darparu yn achos pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r buddsoddiad newydd yn rhan o Anabledd Dysgu: Rhaglen Gwella Bywydau, sy'n anelu at wella'r ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu darparu yn achos pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru. 

Mae'r rhaglen waith yn cwmpasu gwasanaethau tai, iechyd, addysg, trafnidiaeth a gofal cymdeithasol.

Caiff y £2m a gyhoeddwyd heddiw ei ddefnyddio i sicrhau gwelliannau sy'n gysylltiedig â'r camau iechyd yn y rhaglen, dros y tair blynedd nesaf, gan gynnwys:

  • lleihau'r defnydd amhriodol o feddyginiaeth ac ataliaeth trwy gynyddu'r defnydd o ystod o ymyriadau'n sy'n seiliedig ar dystiolaeth megis cymorth ymddygiadol cadarnhaol
  • gwella nifer y bobl sy'n manteisio ar yr archwiliadau iechyd blynyddol a gynigir gan feddygon teulu i bobl ag anabledd dysgu ac ansawdd yr archwiliadau hynny
  • gwella gallu a chapasiti gofal acíwt yn yr ysbyty i wneud addasiadau rhesymol sy'n galluogi pobl ag anabledd dysgu i gael mynediad i wasanaethau prif ffrwd
  • sicrhau bod pobl ag anghenion cymhleth yn cael mynediad amserol a rhwydd i wasanaethau arbenigol ym maes anableddau dysgu gan gynnwys trawma/argyfwng, yr ystod lawn o lety gan gynnwys darpariaeth ddiogel a mynediad y tu allan i oriau
  • rhoi'r fframwaith Nyrsio mewn ysgolion arbenigol ac ysgolion prif ffrwd ar waith - sef set o safonau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer nyrsio mewn ysgolion.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething: 

“Yn ein strategaeth ‘Ffyniant i Bawb’ rydyn ni wedi ymrwymo i  wella iechyd a llesiant pob unigolyn yng Nghymru. 

“Bydd y buddsoddiad hwn yn cefnogi gwelliannau mewn gwasanaethau iechyd i bobl ag anabledd dysgu i leihau anghydraddoldebau iechyd ac i helpu iechyd ac ansawdd bywyd pobl.”