Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog yr Economi Ken Skates wedi cyhoeddi y bydd busnesau yng Nghymru yn gallu hawlio hyd at £3,000 am bob prentis newydd y maent yn ei recriwtio sydd dan 25 oed.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cymhelliant o £3,000, sydd â'r nod o helpu Cymru i adfer o effaith Covid-19, ar gael i fusnesau sy'n cyflogi prentis ifanc am o leiaf 30 awr yr wythnos.

Gallai busnesau Cymru hefyd dderbyn £1,500 ar gyfer pob prentis newydd o dan 25 oed y maent yn ei gyflogi am lai na 30 awr yr wythnos.

I weithwyr 25 oed a throsodd, gall busnesau fanteisio ar £2,000 ar gyfer pob prentis newydd y maent yn ei gyflogi ar gontract 30 awr neu fwy, a chymhelliant o £1,000 i brentisiaid sy'n gweithio llai na 30 awr.

Bydd taliadau'n cael eu cyfyngu i ddeg dysgwr fesul busnes.

Bydd cymhellion Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau cyfleoedd cyflogaeth hanfodol i brentisiaid yng Nghymru, gan gefnogi busnesau i recriwtio, hyfforddi a datblygu staff newydd ar yr un pryd.

Mae'r cyhoeddiad heddiw yn rhan o becyn swyddi a sgiliau rhagweithiol Llywodraeth Cymru gwerth £40m i helpu busnesau a gweithwyr i adfer o effeithiau economaidd y coronafeirws. Bydd hefyd yn bwysig wrth ymateb i effeithiau'r DU yn ymadael â’r UE.

Dywedodd Gweinidog yr Economi Ken Skates:

"Mae’r coronafeirws a'r bygythiad arfaethedig o’r DU yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb wedi rhoi pwysau a heriau anhygoel ar ein heconomi, ein cwmnïau a bywoliaeth ein pobl.

"Fe wnes i ymrwymiad cadarn i gefnogi ein busnesau a'n gweithwyr drwy'r cyfnod hynod anodd hwn ac mae'r cyhoeddiad heddiw yn brawf clir o hynny.

"Mae prentisiaid yn gwneud cyfraniad enfawr i'n cyflogwyr ac yn rhoi cyfle hanfodol i bobl ddysgu sgiliau newydd, ennill profiad gwerthfawr a gwella eu gwybodaeth. Maent hefyd yn helpu i ddatblygu hyder sy'n ffactor pwysig nid yn unig yn y gweithle, ond yn ein bywydau bob dydd.

"Bydd ein cymhellion yn bwysig o ran helpu busnesau Cymru i roi cyfle i brentis ddisgleirio."

Dywedodd John Carey, uwch-reolwr gweithrediadau RWE:

"Mae ein prentisiaid wedi dod yn rhan annatod o'r gymuned yn RWE, gan anadlu bywyd newydd a brwdfrydedd gwirioneddol i'r cwmni gyda'u hegni a'u hangerdd dros ddysgu.

"Mae'r Rhaglen Brentisiaethau yn rhoi hwb gwirioneddol i'n technegwyr a'n huwch staff ac yn eu hysbrydoli, rydym wedi canfod eu bod yn dysgu oddi wrth ei gilydd am dechnegau newydd yn ogystal â'r dulliau sydd wedi’u profi yr ydym wedi arfer â nhw.

"Mae ein hymrwymiad i brentisiaid dros y blynyddoedd diwethaf wedi tyfu mor sylweddol fel ein bod bellach yn bwriadu ehangu ein rhaglen fentoriaid gymaint â phum gwaith. Rydym hyd yn oed wedi recriwtio rheolwr prentisiaethau penodedig a fydd yn goruchwylio'r gwaith o ddatblygu ac ehangu'r rhaglen yn RWE."

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn sicrhau bod cyllid penodol ar gael i bobl anabl ac i weithwyr a gollodd brentisiaeth flaenorol oherwydd y coronafeirws.

Fel rhan o'r newyddion heddiw, datgelodd y Gweinidog hefyd fod Llywodraeth Cymru yn lansio Gwasanaeth Prentisiaethau Gwag pwrpasol fel y gall pobl gael gafael ar fanylion am y cyfleoedd prentisiaeth sydd ar gael iddynt yn hawdd.

Bydd y gwasanaeth ar gael i bob cyflogwr a dysgwr a'i nod yw gwella a chryfhau Rhaglen Brentisiaethau Cymru.

Bydd busnesau'n gallu hysbysebu a rheoli eu cyfleoedd prentisiaeth drwy'r gwasanaeth i'w helpu i gefnogi'r broses recriwtio.

Ychwanegodd y Gweinidog:

"Rydym am sicrhau bod busnesau a phrentisiaid yn gallu manteisio ar gyfleoedd a gwybodaeth yn gyflym ac yn syml. Bydd y Gwasanaeth Prentisiaethau Gwag yn gwneud yn union hynny.

"Ynghyd â'r cymhellion cyflogaeth rydym yn eu cynnig, mae'r gwasanaeth hwn yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi prentisiaethau yng Nghymru a helpu cyflogwyr a dysgwyr i symud ymlaen."

I gael rhagor o wybodaeth ewch i Busnes Cymru.

Ariennir y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.