Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Athro Julie Williams, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru wedi croesawu rhai o bobl fwyaf talentog y byd ym maes ymchwil gwyddonol i’w swyddi newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r 51 o gymrodorion newydd wedi’u denu i Gymru a hynny’n sgil y tri chylch cyntaf o geisiadau i raglen ariannu Sêr Cymru II. Rhaglen yw hon gan Lywodraeth Cymru i sicrhau twf yn y maes ymchwil ledled y wlad.

Maent yn dod o ysgolion llewyrchus iawn megis Massachusetts Institute of Technology (MIT) a California Institute of Technology (CalTech). Byddant yn gweithio mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys ymchwil canser, ymchwil  bôn-gell, peirianneg, deunyddiau newydd, ynni gwyrdd a’r amgylchedd.

Drwy weithio mewn partneriaeth ag ymchwilwyr arbennig sydd eisoes yn cael llwyddiant yng Nghymru, byddant yn gwella capasiti drwy ychwanegu at yr ymchwilwyr presennol, er enghraifft yn y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni ym Mhrifysgol Abertawe.

Drwy adeiladu ar raglen wreiddiol Sêr Cymru sy’n cefnogi pedwar Cadeirydd  Sêr Cymru a’u rhwydweithiau ymchwil, bydd y cyllid diweddaraf hwn yn datblygu rhai o dalentau gorau’r byd ym maes ymchwil wyddonol yma yng Nghymru. Bydd hynny’n fodd i sicrhau twf economaidd a swyddi o ansawdd uchel gwerth bron £100 miliwn.

Mae Llywodraeth Cymru yn arwain prosiect Sêr Cymru II a chaiff gymorth gan yr Undeb Ewropeaidd, trwy raglen Horizon 2020 a’r sector Addysg Uwch yng Nghymru, gan gynnwys Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Y nod yw rhoi cymorth i sicrhau bod capasiti Cymru ar gyfer ymchwil yn cael hwb gwirioneddol  ̶  ac mae angen oddeutu 600 o ymchwilwyr ychwanegol i’w helpu i ennill cronfeydd ymchwil cystadleuol.

Gyda’i gilydd, maent wedi addo £17 miliwn i ddenu hyd at 90 o Gymrodorion ymchwil newydd o’r tu allan i’r DU i weithio gyda’r ymchwilwyr gorau yng Nghymru.

Bydd Llywodraeth Cymru a’r sector Addysg Uwch yn rhoi £16 miliwn pellach a daw £23 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, drwy WEFO. Bydd y cyllid hwnnw’n cefnogi tair haen ychwanegol ar gyfer recriwtio cymrodorion o’r DU ac yn rhyngwladol:

  • Cymrodoriaethau Sêr Disglair: Hyd at 26 cymrodoriaeth pum mlynedd i’r ‘Sêr Disglair’ gorau ym maes ymchwil academaidd.
  • Cymrodoriaethau ‘Cymru’: Oddeutu 30 o gymrodoriaethau 3 blynedd ar gyfer ymgeiswyr disglair. Cânt eu recriwtio o bedwar ban byd er mwyn dod i weithio yng Nghymru.   
  • Adennill Talent Ymchwil: Oddeutu 12 cymrodoriaeth ar gyfer ymchwilwyr talentog sy’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl cymryd seibiant gyrfa neu ar ôl gadael y byd gwyddonol.

Dywedodd Yr Athro Julie Williams, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru:

“Rydym yn falch bod gwyddonwyr ifanc a chanddynt botensial mawr eisiau  datblygu eu gyrfaoedd yng Nghymru ac yn ffurfio partneriaeth gyda’r ymchwilwyr sefydlog sydd eisoes yn mynd i’r afael â’r materion mawr a fydd yn wynebu Cymru a’r byd yn ystod y blynyddoedd nesaf. 

“Bellach, byddwn yn datblygu mwy o ymchwilwyr i wireddu ein gwir botensial, yn creu manteision tymor hir ac yn sicrhau bod Cymru’n parhau’n gystadleuol yn economi’r byd”.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth: 

“Mae Sêr Cymru II yn ddatblygiad unigryw ac arloesol. Bydd y doniau rydym yn eu denu drwy Sêr Cymru yn cadarnhau bod Cymru’n wlad flaengar, yn arwain ym maes ymchwil gwyddonol ac yn sicrhau twf economaidd.”