Cyhoeddi cynllun codi tâl diwygiedig ar gyfer rheoleiddio'r proffesiwn rheoli adeiladu (WGC 003/2025)
Mae Rheoliadau Proffesiwn Rheoli Adeiladu (Ffioedd) (Cymru) 2023 yn manylu ar swyddogaethau rheoleiddiol y proffesiwn rheoli adeiladu y gellir codi tâl amdanynt.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cylchlythyr rheoliadau adeiladu
Rhif y Cylchlythyr: WGC 003/2025
Dyddiad cyhoeddi: 24/03/2025
Statws: Er gwybodaeth
Teitl: Cyhoeddi cynllun codi tâl diwygiedig ar gyfer rheoleiddio'r proffesiwn rheoli adeiladu
Cyhoeddwyd gan: Simon Jones, Rheolwr Cymhwysedd a Safonau Rheoli Adeiladu
Cyfeirir at:
Prif Weithredwyr yr Awdurdodau Lleol
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol
Cymdeithas Cymeradwywyr Rheoli Adeiladu
I'w anfon at:
Swyddogion Rheoli Adeiladu yr Awdurdodau Lleol
Aelodau o'r Senedd
Crynodeb:
Mae Rheoliadau Proffesiwn Rheoli Adeiladu (Ffioedd) (Cymru) 2023 yn manylu ar swyddogaethau rheoleiddiol y proffesiwn rheoli adeiladu y gellir codi tâl amdanynt. Mae'r cynllun sy'n manylu ar symiau'r costau hyn wedi cael ei adolygu a'i ddiweddaru.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Y Tîm Rheoliadau Adeiladu
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Caerdydd
CF10 3NQ
Llinell Uniongyrchol: 0300 060 4400
E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.wales
Gwefan: adeiladu a chynllunio
Hysbysiad o gyhoeddi fersiwn ddiwygiedig o gynllun codi tâl proffesiwn rheoli adeiladu llywodraeth cymru
- Fe'm cyfarwyddir gan Weinidogion Cymru i'ch hysbysu o gyhoeddi fersiwn ddiwygiedig o Gynllun Codi Tâl Proffesiwn Rheoli Adeiladu Llywodraeth Cymru a ddaw i rym o 1 Ebrill 2025.
Cwmpas y Cylchlythyr hwn
- Mae'r cylchlythyr hwn yn berthnasol i'r proffesiwn rheoli adeiladu yng Nghymru.
Hysbysiad o gyhoeddi fersiwn ddiwygiedig o Gynllun Codi Tâl Proffesiwn Rheoli Adeiladu Llywodraeth Cymru
- Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud ac yn cyhoeddi cynllun codi tâl sy'n manylu ar y taliadau i'r rhai sy'n cofrestru fel arolygwyr adeiladu ac ardystwyr rheoli adeiladu. Gosodir swm y taliadau ar sail adennill costau.
- Mae'r cynllun codi tâl yn cael ei gyhoeddi yma: Cynllun codi tâl Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu.
- Mae'r cynllun codi tâl wedi ei adolygu a'i ddiweddaru i adlewyrchu newidiadau i'r costau a ysgwyddir ar gyfer cyflawni swyddogaethau rheoleiddio Gweinidogion Cymru ar gyfer y proffesiwn rheoli adeiladu.
- Mae'r newidiadau a wnaed
a. i'r cyfraddau fesul awr a ddyfynnir,
b. ychwanegu'r gallu i adennill costau sy'n gysylltiedig â thrydydd partïon fel arbenigwyr, lle bo angen, ar gyfer pob swyddogaeth reoleiddio, a
c. mân newid i rai geiriad i wella eglurder
- Dylid nodi roedd y gallu i adennill costau sy'n gysylltiedig â thrydydd partïon fel arbenigwyr eisoes ar waith ar gyfer y mwyafrif o swyddogaethau.
- Mae'r ffioedd ymlaen llaw ar gyfer cofrestru arolygwyr adeiladu ac arfarnwyr rheoli adeiladu yn parhau heb eu newid.
- Bydd y cynllun codi tâl diwygiedig yn dod i rym ar 1 Ebrill 2025.
Ymholiadau
Anfonwch unrhyw ymholiadau am y Cylchlythyr hwn at:
Rheoliadau Adeiladu,
2il Lawr,
Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Yr eiddoch yn gywir,
Mark Tambini
Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu