Neidio i'r prif gynnwy

Cylchlythyr rheoliadau adeiladu

Rhif y Cylchlythyr: WGC 005/2026

Dyddiad cyhoeddi: 24 Mawrth 2026

Statws: Er gwybodaeth

Teitl: Cyhoeddi cynllun codi tâl diwygiedig ar gyfer rheoleiddio'r proffesiwn rheoli adeiladu

Cyhoeddwyd gan: Simon Jones, Rheolwr Cymhwysedd a Safonau Rheoli Adeiladu

Cyfeirir at:

Prif Weithredwyr yr Awdurdodau Lleol
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 
Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol
Cymdeithas Cymeradwywyr Rheoli Adeiladu

I'w anfon at:

Swyddogion Rheoli Adeiladu yr Awdurdodau Lleol
Aelodau o'r Senedd

Crynodeb: 

Mae Rheoliadau Proffesiwn Rheoli Adeiladu (Ffioedd) (Cymru) 2023 yn manylu ar swyddogaethau rheoleiddiol y proffesiwn rheoli adeiladu y gellir codi tâl amdanynt. Mae'r cynllun sy'n manylu ar symiau'r costau hyn wedi cael ei adolygu a'i ddiweddaru.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Y Tîm Rheoliadau Adeiladu
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Caerdydd
CF10 3NQ  

Llinell uniongyrchol: 0300 062 5223
E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru 
Gwefan: adeiladu a chynllunio 

Cyflwyniad

  1. Fe'm cyfarwyddir gan Weinidogion Cymru i'ch hysbysu o gyhoeddi fersiwn ddiwygiedig o Gynllun Codi Tâl Proffesiwn Rheoli Adeiladu Llywodraeth Cymru a ddaw i rym o 1 Ebrill 2026.

Cwmpas y Cylchlythyr hwn

  1. Mae'r cylchlythyr hwn yn berthnasol i'r proffesiwn rheoli adeiladu yng Nghymru. 

Hysbysiad o gyhoeddi fersiwn ddiwygiedig o Gynllun Codi Tâl Proffesiwn Rheoli Adeiladu Llywodraeth Cymru

  1. Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud ac yn cyhoeddi cynllun codi tâl sy'n manylu ar y taliadau i'r rhai sy'n cofrestru fel arolygwyr adeiladu ac ardystwyr rheoli adeiladu. Gosodir swm y taliadau ar sail adennill costau.
     
  2. Mae'r cynllun codi tâl yn cael ei gyhoeddi yma: Cynllun codi tâl proffesiwn rheolaeth adeiladu Llywodraeth Cymru
     
  3. Mae'r cynllun codi tâl wedi ei adolygu a'i ddiweddaru i adlewyrchu newidiadau i'r costau a ysgwyddir ar gyfer cyflawni swyddogaethau rheoleiddio Gweinidogion Cymru ar gyfer y proffesiwn rheoli adeiladu. O ganlyniad, mae'r cyfraddau fesul awr a ddyfynnir wedi cael eu cynyddu.
     
  4. Mae'r ffioedd ymlaen llaw ar gyfer cofrestru arolygwyr adeiladu ac arfarnwyr rheoli adeiladu yn parhau heb eu newid.
     
  5. Bydd y cynllun codi tâl diwygiedig yn dod i rym ar 1 Ebrill 2026.

Ymholiadau

Anfonwch unrhyw ymholiadau am y Cylchlythyr hwn at:

Rheoliadau Adeiladu, 
2il Lawr, 
Llywodraeth Cymru, 
Parc Cathays, 
Caerdydd 
CF10 3NQ

E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru

Yr eiddoch yn gywir,

Mark Tambini 
Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu