Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Tai Julie James wedi nodi diwygiadau helaeth a fyddai, pe baent yn cael eu cymeradwyo gan y Senedd, yn golygu bod gan Gymru’r drefn diogelwch adeiladau fwyaf cynhwysfawr yn y DU, ac yn rhoi llais cryfach i breswylwyr ar faterion sy'n effeithio ar eu cartrefi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r cynigion yn y Papur Gwyn ar Ddiogelwch Adeiladau yn cwmpasu pob adeilad preswyl aml-feddiannaeth, o dŷ a drowyd yn ddwy fflat, i floc fflatiau uchel iawn.

Mae'r Papur Gwyn yn amlinellu diwygiadau mawr i'r ffordd rydym yn dylunio, adeiladu, rheoli a byw mewn eiddo er mwyn talu sylw i ddiogelwch ar bob cam yn oes adeilad, ac ar yr un pryd yn cynnig trywydd clir o ran atebolrwydd ar gyfer perchnogion a rheolwyr adeiladau, yn ogystal â system reoleiddio gryfach.

Mae hefyd yn cynnwys:

  • Trywydd clir o ran atebolrwydd, gan bennu unigolion sydd â'r wybodaeth a'r arbenigedd priodol, a fydd yn gyfreithiol gyfrifol am ddiogelwch ac am leihau'r risg o dân gydol oes yr adeilad;
  • Rhaglen wirio well yn ystod y gwaith adeiladu i gefnogi tystiolaeth o gydymffurfiaeth;
  • Creu dau gategori risg, â gofyniad ar gyfer pob adeilad sy'n 18 metr meu fwy o daldra i gynnwys 'Llinyn Aur' o'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r gwaith o’u dylunio, eu hadeiladu ac o’u cynnal a’u cadw yn y tymor hir;
  • Dyletswydd bod adeiladau yn meddu ar y gallu i gyfyngu tân i’r man lle y tarddodd am ddigon o amser i ganiatáu iddo gael ei ddiffodd;
  • Dull cwbl newydd o nodi a lleihau'r risg o dân mewn blociau o fflatiau. Bydd hyn yn haws i landlordiaid ac eraill ei ddeall a'i roi ar waith, ac yn fwy effeithiol o ran lleihau risgiau i breswylwyr;
  • Proses i’w gwneud yn bosibl i breswylwyr godi pryderon ynghylch diogelwch adeiladau;
  • Un broses ar gyfer uwchgyfeirio pryderon at y rheoleiddiwr.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cymryd nifer o gamau i wella diogelwch adeiladau. Fis Ionawr diwethaf, yn dilyn newid i reoliadau, gwaharddwyd defnyddio deunyddiau llosgadwy mewn systemau cladin yng Nghymru. Roedd hyn yn berthnasol i bob adeilad preswyl newydd (fflatiau, llety myfyrwyr a chartrefi gofal) ac ysbytai dros 18m o daldra.

Dywedodd Julie James:

Yn sgil y drasiedi yn Nhŵr Grenfell, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cymryd camau i wneud adeiladau'n fwy diogel i breswylwyr.

Mae wedi bod yn eglur erioed, fodd bynnag, bod angen newidiadau llawer mwy sylfaenol i wella diogelwch adeiladau yn gyffredinol.

Dyna pam rydym yn cynnig gwelliannau i bob cam yn oes adeiladau amlfeddiannaeth, o’u dylunio, drwy eu adeiladu ac i’w meddiannu, fel bod adeiladau newydd yn ddiogel i bob preswylydd.

Yn bwysicaf oll, mae'r cynigion hyn wedi'u llunio i rymuso preswylwyr drwy roi llawer mwy o lais iddynt yn y materion sy'n effeithio ar eu cartrefi a thrwy ddarparu llwybrau clir iddynt fynegi pryderon a rhybuddio'r rhai sy'n gyfrifol pan aiff pethau o chwith. Rhaid i'r rhai sy'n berchen ar ein hadeiladau ac sy’n eu rheoli gadw at eu rhwymedigaeth i gywiro pethau.

Bydd y cynigion hyn, os cânt eu gwneud yn gyfraith yn nhymor nesaf y Senedd, yn creu cyfundrefn newydd, a llawer gwell, sy'n rhoi diogelwch preswylwyr yn gyntaf.