Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i ffrwyno'r defnydd o gontractau dim oriau a diogelu amser gofal yn y sector gofal cymdeithasol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

O dan gynigion sy'n cael eu cyflwyno fel testun ymgynghoriad heddiw, bydd angen i gyflogwyr gynnig dewis i weithwyr yn y sector gofal cartref ar gontractau dim oriau symud i gontract isafswm oriau ar ôl tri mis o gyflogaeth barhaus, os oes galw cyfredol am y gwaith.

Mae mesurau i fynd i'r afael â byrhau galwadau'n fwriadol hefyd wedi'u cyhoeddi. Byddai'r cynigion yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gofal cartref wahaniaethu'n glir rhwng amser teithio ac amser gofal wrth baratoi amserlenni'r gweithwyr, gan roi sylw dyledus i faterion megis y pellter rhwng ymweliadau a thraffig oriau brys. Byddai hyn yn helpu i sicrhau nad yw amser gofal – ac felly ansawdd y gofal – yn gostwng. 

Dywedodd y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans: 

"Er bod yn well gan rai staff fod ar gontractau dim oriau, gan werthfawrogi eu hyblygrwydd, mae ansicrwydd y contractau hyn yn gallu cael effaith niweidiol ddifrifol ar fywydau llawer. Yn hollbwysig, bydd y cynlluniau rydym ni'n eu cyflwyno fel testun ymgynghoriad heddiw yn sicrhau bod gan weithwyr ddewis. Ar ôl tri mis o gyflogaeth, bydd modd iddyn nhw benderfynu a ydyn nhw am symud i gontract dim oriau arall, neu symud i drefniadau contract arall.

"Bwriad y cynigion rydw i wedi'u cyhoeddi heddiw yw cynnig bargen decach i staff, a diogelu ansawdd y gofal a chymorth y mae pobl yn eu cael yn eu cartrefi eu hunain. Mae ymchwil yn dangos cysylltiad rhwng amlder contractau dim oriau a gostyngiad yn ansawdd y gofal, a hynny oherwydd materion ynghylch dilyniant o ran gofal a chyfathrebu rhwng gweithwyr a'r rhai y maen nhw'n eu cefnogi. 

"Bydd ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr wahaniaethu'n glir rhwng amser teithio ac amser gofal wrth drefnu gwasanaethau hefyd yn gwella profiad pobl sydd angen gofal. Bydd gwneud hynny yn helpu i fynd i'r afael â byrhau galwadau'n fwriadol, gan sicrhau na chaiff amser gofal a chymorth pobl ei leihau oherwydd amser teithio rhwng ymweliadau.

"Rwy'n annog unrhyw un sydd â barn ar y materion pwysig hyn i gyfrannu at ein hymgynghoriad".

Mae'r ymgynghoriad ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru a bydd ar agor am wyth wythnos, tan 7 Awst 2017.