Neidio i'r prif gynnwy

Mae cynlluniau i fuddsoddi £20 miliwn i helpu'r rheini ag anghenion dysgu ychwanegol wedi'u cyhoeddi gan Alun Davies, y Gweinidog Dysgu Gydol Oes.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru am wella canlyniadau a dyheadau'r rhai hynny yn y system addysg y mae angen cymorth ychwanegol arnynt. Mae £10 miliwn o'r cyllid yn rhan o'r £100 miliwn o gyllid ychwanegol sy'n cael ei fuddsoddi dros gyfnod tymor presennol y Cynulliad i wella safonau ysgolion.   Caiff y cyllid newydd ei ategu gan fuddsoddiad a ddaw o gyllidebau sydd eisoes yn bodoli - a disgwylir mai £10 miliwn ychwanegol fydd hwnnw dros weddill tymor presennol y Cynulliad. Er bod hynny'n amodol ar gadarnhau cyllidebau yn yr adolygiad nesaf o wariant, bydd gwarchod y cyllid hwn yn flaenoriaeth.
Ym mis Rhagfyr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynigion ar gyfer deddfwriaeth uchelgeisiol i greu dull newydd a dewr i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Os caiff ei basio, bydd Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg yn gweddnewid y system ar gyfer cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn llwyr, gan effeithio ar bob ystafell ddosbarth yng Nghymru.
Bydd y buddsoddiad o £20 miliwn sydd ar y gweill yn cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol mewn amrywiaeth o ffyrdd dros y pum mlynedd nesaf, gan gynnwys helpu'r sector addysg i drosglwyddo i system newydd a amlinellir yn y Bil - a chan annog sefydliadau i gydweithio'n agos wrth ddatblygu'r gweithlu a chodi ymwybyddiaeth o anghenion dysgu ychwanegol.
Y llynedd, 23% yn unig o ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol a lwyddodd i gael pum TGAU da, gan gynnwys Mathemateg a Chymraeg neu Saesneg, o'i gymharu â 59% o'r holl ddisgyblion; ac mae'r Gweinidogion am wella ar y sefyllfa hon.

Dywedodd Alun Davies:

“Ein nod yw codi safonau ac ehangu cyfleoedd i bob un o'n pobl ifanc. Mae tua chwarter poblogaeth ein hysgolion yn cynnwys plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol; allwn ni ddim codi safonau heb dargedu ein hadnoddau a'n gweithgareddau i wella'r sefyllfa ar gyfer y grŵp hwn o ddysgwyr.

“Mae'r pecyn cyllid hwn gwerth £20 miliwn yn adeiladu ar fuddsoddiadau rydyn ni eisoes wedi'u gwneud er mwyn trawsnewid y ddarpariaeth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru.

“Bydd y cyllid hwn yn helpu i ddatblygu sgiliau staff y rheng flaen  fel y gallan nhw gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn well. Mae'n hanfodol bod pob aelod o'r staff, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol ym maes y blynyddoedd cynnar, athrawon, darlithwyr mewn addysg bellach a staff cymorth, yn ymwybodol o'r dull newydd.

“Ein huchelgais ni yw y bydd gan athrawon yn yr ystafell ddosbarth a darlithwyr mewn addysg bellach yr wybodaeth a'r sgiliau i fodloni anghenion pob un o'n dysgwyr. Rydyn ni am sicrhau bod y system newydd yn cael ei chyflwyno mewn ffordd sy'n sicrhau y bydd dysgwyr ag anghenion ychwanegol yn gallu elwa ar fanteision y system newydd cyn gynted â phosib ar un llaw, a bod gwasanaethau a gweithwyr proffesiynol yn ddigon parod i gyflawni hynny, ar y llaw arall.”