Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi cyhoeddi cynlluniau peilot newydd i leihau dibyniaeth ar feddyginiaeth presgripsiwn drwy bresgripsiynu ymyriadau i wella iechyd meddwl.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dyfarnwyd cyfanswm o £1,351,066 i Mind Cymru a'r Groes Goch Brydeinig er mwyn cyflawni prosiectau ar draws Cymru. 

Bydd y Groes Goch Brydeinig yn cynnal cynlluniau peilot ar gyfer oedolion sydd â phroblemau iechyd meddwl isel i gymedrol ac sy'n defnyddio gwasanaethau meddyg teulu neu ambiwlans yn rheolaidd yn Sir Benfro a Chaerffili.  

Bydd Mind Cymru yn gweithio gydag oedolion sydd wrth eu hunain, yn unig ac mewn perygl o ddioddef iechyd meddwl gwael yn ardaloedd Taf Elai, De Powys a Gogledd Sir Ddinbych.

Bydd gweithwyr cyswllt yn gweithio gyda chleifion i ddatblygu cynlluniau cymorth penodol i'w cyflawni'n lleol.

Ymysg yr ymyriadau posib mae:

  • Ymyriadau nad ydynt yn glinigol (fel ymwybyddiaeth ofalgar) 
  • Atgyfeiriadau at gyngor a chymorth ar dai, dyledion, benthyciadau ac ati
  • Gweithgareddau llesiant yn y gymuned, fel grwpiau cerdded, celf a chrefft ac ati. 
Dywedodd Mr Gething: 

"Gall presgripsiynu cymdeithasol fod yn ffordd ardderchog o ddarparu cymorth iechyd meddwl tymor hir i bobl yn eu cymunedau eu hunain a lleihau dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn. 

"Fe wnaethom ymrwymo i ddarparu cynlluniau peilot presgripsiynu cymdeithasol yn ein strategaethau Law yn Llaw at Iechyd Meddwl a Ffyniant i Bawb.

"Bydd y cynlluniau peilot hyn yn adeiladu ar waith sydd eisoes yn digwydd ar draws Cymru i hyrwyddo presgripsiynu cymdeithasol, er mwyn sicrhau bod pobl yn cael mynediad at ofal a chymorth sy'n eu gweld fel unigolion, ac sy'n ystyried yr holl ffactorau a allai effeithio ar eu hiechyd meddwl a'u llesiant.

"Byddant yn darparu tystiolaeth werthfawr am yr ymyriadau mwyaf effeithiol er mwyn i ni ddatblygu modelau i'w defnyddio ar draws Cymru."