Mae enw'r ymgeisydd a ffefrir gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, wedi cael ei gyhoeddi heddiw (dydd Llun).

Ar hyn o bryd mae Vernon Everitt yn Gomisiynydd Trafnidiaeth a chadeirydd Trafnidiaeth Manceinion Fwyaf, lle mae'r rhwydwaith bysiau wedi'i fasnachfreinio yn ddiweddar fel rhan o waith creu'r Bee Network. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol presennol ar fwrdd Trafnidiaeth Cymru.
Mae Mr Everitt wedi bod yn Uwch Weithredwr yn Transport for London gyda chyfrifoldeb am wella gwasanaethau i gwsmeriaid a chynyddu teithiau a refeniw ar y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus.
Bydd y penodiad hwn yn destun sesiwn graffu cyn penodi gan y Senedd a fydd yn cael ei chynnal ym mis Mehefin 2025.
Wrth gyhoeddi'r ymgeisydd a ffefrir, dywedodd Ken Skates:
"Rwy'n falch o gyhoeddi heddiw enw'r ymgeisydd a ffefrir ar gyfer swydd Cadeirydd Trafnidiaeth Cymru. Mae gan Vernon brofiad helaeth ym maes trafnidiaeth, ym Manceinion a Llundain, ac mae eisoes yn gyfarwydd iawn â'n blaenoriaethau yng Nghymru.
"Hoffwn nodi fy ngwerthfawrogiad am waith rhagorol y Cadeirydd presennol, Scott Waddington, wrth i'r sefydliad dyfu'n sylweddol ers ei ymgorffori yn 2018, ac wrth lywio'r heriau digynsail y mae gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus yn eu hwynebu o ganlyniad i'r pandemig."
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cadarnhau ei benderfyniad o ran y penodiad yn dilyn y gwrandawiad cyn penodi.