Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, wedi cyhoeddi newidiadau i'r broses brisio ar gyfer iawndal TB am wartheg cyflo.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Telir iawndal i berchenogion anifeiliaid am wartheg a gaiff eu lladd oherwydd TB, a hynny ar sail gwerth y gwartheg dan sylw ar y farchnad.   

Wrth brisio, pennir gwerth anifail ar y farchnad ar sail y pris y gellid yn rhesymol ei gael am yr anifail hwnnw pe bai ar werth ar y farchnad agored a phe na bai’n dioddef o TB neu wedi dod i gysylltiad â TB.    

Ar ôl pryderon am y posibilrwydd bod rhai gwartheg yn cael eu prisio fel pe baent yn gyflo, a hwythau’n wag, aeth yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) a’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ati i gasglu tystiolaeth dros gyfnod o 12 mis.  

Archwiliwyd cyfanswm o 7,418 o wartheg marw yr oedd eu perchennog wedi datgan eu bod yn gyflo, a gwelwyd, ar ôl i’r gwartheg hynny gael eu lladd, fod 2,817 ohonynt yn wag. Amcangyfrifir bod cyfanswm yr iawndal ychwanegol a dalwyd ar gyfer y rheini nad oeddent yn gyflo yn fwy na £459,000 dros gyfnod o 12 mis.  

Felly, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi y bydd yn rhaid cyflwyno prawf ysgrifenedig am Ddiagnosis o Feichiogrwydd (DF) o 1 Tachwedd 2018 ymlaen pan fydd y gwartheg hyn yn cael eu prisio. 

Bydd perchenogion gwartheg yn cael gwneud cais am DF, ar ffurf y cytunir arno, oddi wrth ei milfeddyg. Bydd modd cyflwyno’r prawf hwnnw pan fydd y gwartheg yn cael eu prisio, ar yr amod bod y DF wedi cael ei wneud yn ystod y tri mis (90 diwrnod) cyn dyddiad y prisio. Bydd hynny’n caniatáu i berchennog y gwartheg drefnu i’w anifeiliaid gael eu harchwilio cyn bod y prawf TB yn ofynnol er mwyn ceisio sicrhau cyn lleied o darfu ag y bo modd ar drefn arferol y fferm.   

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:  

“Mae’n gwbl briodol bod perchenogion gwartheg yn cael iawndal am wartheg sy’n cael eu lladd oherwydd eu bod yn dioddef o TB.  Ond wedi dweud hynny, roedd gennym bryderon fod rhai gwartheg yn cael eu prisio fel pe baent yn gyflo pan oedden nhw’n wag.  

“Mae’r astudiaeth gan APHA a’r ASB yn dangos bod hyn yn dipyn o broblem a dyna pam dwi’n cyflwyno newidiadau i’r trefniadau prisio a thalu ar gyfer gwartheg cyflo. Bydd yn ofynnol bellach gyflwyno prawf ysgrifenedig am Ddiagnosis o Feichiogrwydd pan gaiff y gwartheg eu prisio.  

“Bydd y newidiadau hyn yn dod i rym o 1 Tachwedd eleni ymlaen. Hoffwn annog pawb sy’n berchen ar wartheg i ymgyfarwyddo â’r trefniadau newydd hyn cyn iddyn nhw ddod i rym ac, os yw hynny’n briodol, dylen nhw gysylltu â’u Milfeddyg Swyddogol i drefnu Diagnosis o Feichiogrwydd."