Bydd cynllun rhyddhad trosiannol newydd yn helpu busnesau i reoli newidiadau ardrethi o fis Ebrill nesaf.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £116 miliwn ychwanegol o gymorth, gan y bydd cyfraddau busnes yng Nghymru yn cael eu diweddaru i adlewyrchu gwerthoedd eiddo cyfredol.
O’r 1 Ebrill 2026, bydd yr ailbrisio yn golygu y bydd llawer yn gweld eu biliau yn gostwng, tra bydd eraill yn eu gweld yn codi.
Bydd unrhyw fusnes y mae ei bil yn cynyddu mwy na £300 y flwyddyn nesaf oherwydd yr ailbrisio yn cael y cynnydd yn raddol dros ddwy flynedd, yn hytrach na thalu'r cynnydd llawn ar unwaith.
Am y tro cyntaf ers 2010, bydd y lluosydd yn cael ei leihau ar gyfer pawb sy'n talu ardrethi. Bydd siopau manwerthu bach a chanolig yn elwa o gyfradd is newydd, gan dorri eu biliau tua £20 miliwn.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn darparu £250 miliwn bob blwyddyn mewn rhyddhad ardrethi busnes parhaol. Mae tua dwy ran o dair o'r holl eiddo yng Nghymru naill ai ddim yn talu unrhyw ardrethi neu'n derbyn rhyw fath o ryddhad.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford:
"Rydym yn gwybod fod busnesau wedi wynebu heriau economaidd sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Bydd y pecyn cymorth hwn yn eu helpu i reoli'r trawsnewidiad i filiau ardrethi wedi'u diweddaru wrth i ni gyflawni ein hymrwymiad i system ardrethi decach.
"Drwy gyflwyno ailbrisiadau amlach a chyfradd is ar gyfer siopau bach, rydym yn gwneud yn siŵr bod y system ardrethi busnes yn adlewyrchu economi heddiw ac yn cefnogi'r busnesau sy'n asgwrn cefn ein strydoedd mawr a'n cymunedau."
