Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi bod Ei Mawrhydi y Frenhines wedi derbyn yr argymhelliad i wneud Owen Evans yn Brif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant newydd Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Owen Evans yn cymryd swydd Meilyr Rowlands, sef y Prif Arolygydd presennol. Bydd Meilyr yn ymddeol ddiwedd Awst 2021 a bydd Owen yn dechrau ar ei swydd ym mis Ionawr 2022.

Claire Morgan, cyfarwyddwr strategol Estyn fydd y Prif Arolygydd dros dro hyd fis Ionawr.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru:

Dw i am longyfarch Owen Evans ar ei benodiad, ac yn diolch o galon i Meilyr Rowlands am ei waith caled a’i ddiwydrwydd yn ystod ei gyfnod yn y swydd.

Mae Meilyr wedi bod yn ffrind beirniadol i’r llywodraeth ac wedi mynd ati’n systemataidd i helpu i godi safonau ysgolion yng Nghymru drwy broses arolygu drwyadl. Dw i’n dymuno’n dda iddo i’r dyfodol.

Dywedodd Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg:

Hoffwn ddiolch i Meilyr Rowlands am ei waith fel Prif Arolygydd. Ei gyfraniad ef at addysg yng Nghymru yw un o’r rhesymau pam mae hwn yn gyfnod mor gyffrous i Owen Evans ymgymryd â’r rôl. Dw i’n ei longyfarch ar ei benodiad ac yn edrych ymlaen at weithio gyda fe yn y dyfodol.