Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod Andrew Evans wedi cael ei benodi'n Brif Swyddog Fferyllol newydd Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Andrew yn arbenigwr ar iechyd y cyhoedd. Ar hyn o bryd ef yw Prif Fferyllydd Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae wedi bod yn y swydd honno ers 2012. Mae wedi bod yn ymgymryd â rôl y Prif Swyddog Fferyllol Dros Dro ers mis Ionawr 2016, yn dilyn ymddeoliad Roger Walker.

Fel Prif Swyddog Fferyllol, bydd Andrew yn gyfrifol am roi cyngor proffesiynol ac annibynnol i'r gweinidogion ar bob agwedd ar feddyginiaethau, gan gynnwys eu rheoleiddio. Bydd hefyd yn gyfrifol am arwain y gwaith o foderneiddio'r gwasanaethau fferyllol ac am ddatblygiad proffesiynol parhaus staff sy'n gweithio'n y sector. Mae disgwyl iddo ddechrau ei swydd newydd ar 8 Awst.

Dywedodd Andrew Evans:

"Mae'n bleser gen i gael fy mhenodi'n Brif Swyddog Fferyllol nesaf Cymru.

"Mae fferyllwyr Cymru yn chwarae rôl ganolog yng ngwaith Llywodraeth Cymru i ddarparu gofal o ansawdd uchel i gleifion, a hynny'n gyflym ac yn nes at y cartref. Dw i’n edrych ymlaen at weithio gyda fferyllwyr a gweithwyr eraill ym meysydd gofal a iechyd, gan adeiladu ar y gwaith cadarnhaol sydd eisoes wedi ei wneud.

"Mae'n fraint derbyn y cyfle hwn i helpu i wella iechyd a lles pobl Cymru."