Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (dydd Mawrth, 24 Hydref), mae'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, wedi cyhoeddi prosiect newydd gwerth £2.7m i wella'r ffordd mae athrawon cyflenwi yn cefnogi ysgolion.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cyllid newydd yn cefnogi 15 awdurdod lleol i greu trefniadau newydd ar gyfer athrawon cyflenwi ar draws 86 o ysgolion. Bydd y prosiect yn cefnogi'r gwaith o benodi tua 50 o athrawon sydd newydd gymhwyso a fydd yn gweithio mewn grŵp o ysgolion, gan gymryd dosbarthiadau pan fo athrawon yn absennol a chefnogi gwelliannau ehangach yn yr ysgol a deilliannau dysgwyr.

Bydd y ffordd hon o fynd ati yn magu hyder athrawon sydd newydd gymhwyso ac yn sicrhau bod cyflenwad o athrawon ar gael yn ein hysgolion ar yr un pryd. Bydd y prosiect peilot yn cael ei gynnal yn ystod y flwyddyn ariannol hon a'r rhai dilynol. Mae'n dilyn argymhellion adroddiad Tasglu Gweinidogol y Model Cyflenwi Athrawon a gyhoeddwyd yn gynharach eleni.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Mae athrawon cyflenwi yn rhan sylweddol a phwysig o'r gweithlu addysgu.  Mae'n hanfodol eu bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein system, fel eu bod yn barod ac yn gallu cefnogi ein cenhadaeth genedlaethol ar gyfer diwygio addysg.

"Dw i eisiau gwella'r ffordd mae ein system yn cyflogi, rheoli a chefnogi ein hathrawon cyflenwi ar hyn o bryd. Dw i wedi ymrwymo i sicrhau bod athrawon sy'n gweithio'n hyblyg fel hyn yn meddu ar y sgiliau a'r wybodaeth y mae eu hangen, yn cael eu gwobrwyo'n briodol, ac yn rhan integredig o'r proffesiwn addysgu.

"Diben y cyllid hwn yw bod yn fwy hyblyg ac arloesol wrth ymateb i absenoldeb athrawon.  O dan ein cynlluniau, bydd ein athrawon cyflenwi yn cael eu cefnogi yn yr un modd â'n hathrawon parhaol.

"Bydd y dull hwn yn buddsoddi yn ein hathrawon sydd newydd gymhwyso ac yn eu meithrin, gan hefyd sicrhau bod digon o athrawon ar gael mewn ysgolion i ymateb i'r galw o ran anghenion dysgu ychwanegol ac athrawon arbenigol eraill, gan gynnwys athrawon cyfrwng Cymraeg ."

Nod Llywodraeth Cymru yw ail-fuddsoddi unrhyw arbedion sy'n deillio o gyllidebau cyflenwi ysgolion er mwyn sicrhau mwy o gapasiti yn y system i gefnogi ysgolion i reoli eu hanghenion cyflenwi mewn ffordd sy'n fwy cydlynus, cydweithredol a chynaliadwy.