Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cymorth llythrennedd newydd yn cael ei chyflwyno i ysgolion ledled Cymru, yn dilyn buddsoddiad o dros £8 miliwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Prifysgol Bangor wedi llwyddo i gael grant o £8.2 miliwn dros y tair blynedd nesaf ar gyfer prosiect CAL:ON Cymru. Mae wedi caniatáu iddynt sefydlu canolfan ragoriaeth ar gyfer addysgu llythrennedd, gan ddarparu cymorth dwyieithog sydd ar gael yn genedlaethol i bob dysgwr rhwng 3 a 16 oed.

CAL:ON Cymru yw’r ganolfan ragoriaeth genedlaethol ar gyfer llythrennedd yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Trwy ddysgu proffesiynol a darparu arbenigedd, arweiniad ac adnoddau, bydd yn grymuso ysgolion i wella eu dull o addysgu llythrennedd. Mae'n cynnwys cefnogaeth benodol ar gyfer dull systematig o addysgu ffoneg a bydd yn galluogi ysgolion i adnabod a chefnogi'r dysgwyr hynny sydd angen cymorth ychwanegol.

Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno trwy rwydwaith o ysgolion CAL:ON, a phob un yn cael eu partneru ag eraill i sicrhau cwmpas cenedlaethol. Bydd ysgolion hyn yn cael eu cynrychioli ym mhob awdurdod lleol a byddant yn cydweithio gyda thîm CAL:ON i gyd-ddatblygu deunyddiau a helpu i gyflwyno dysgu proffesiynol.

Mae'r grant hefyd yn ychwanegu at y gwaith llwyddiannus a wnaed gan Brifysgol Bangor a Phrifysgol Efrog dros y pedair blynedd diwethaf, lle mae 330 o ysgolion wedi gweithredu ymyriadau darllen fel 'Research Informed Literacy with Language' (RILL) ac wedi cymryd rhan mewn dysgu proffesiynol.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, hefyd wedi cadarnhau cefnogaeth ar gyfer mathemateg mewn ysgolion cynradd, gyda chyllid o dros £2m ar gyfer prosiect 'Primed for Success’. Mae'r rhaglen yn darparu dysgu proffesiynol i athrawon cynradd i helpu dysgwyr i wneud mwy o gynnydd mewn perthynas â'u gwybodaeth a'u sgiliau mathemateg.

Bydd £1.4m hefyd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi 'STEM Learning: Teaching Digital with Confidence a sicrhau bod sgiliau digidol yn cael eu haddysgu ar draws y cwricwlwm.

Mae'r cadarnhad ar gyfer y cynlluniau hyn yn rhan o fuddsoddiad o dros £44 miliwn a gyhoeddwyd ym mis Mehefin i roi hwb i safonau a chefnogi addysg.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

Mae llythrennedd yn faes creiddiol os ydym am wella safonau a chyrhaeddiad yn ein hysgolion ac rydym eisoes yn gweld cynnydd. Yn yr ysgolion cynradd mae asesiadau personol yn dangos gwelliant mewn darllen yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Gan dynnu ar waith ein Panel Arbenigol ar Lythrennedd, mae canolfan ragoriaeth genedlaethol CAL:ON Cymru yn sicrhau dysgu proffesiynol ledled y wlad ac yn sicrhau bod ein disgwyliadau ar gyfer llythrennedd yn adlewyrchu'r dystiolaeth ddiweddaraf ar sut i ddysgu darllen. Dyma ymrwymiad i'n gweithlu addysg y bydd ysgolion ac ymarferwyr yn parhau i gael mynediad at hyfforddiant a chymorth o ansawdd uchel i addysgu llythrennedd.

Mae cefnogaeth ar gyfer addysgu ffoneg wedi'i ymgorffori trwy gydol y rhaglen gan sicrhau disgwyliadau, hyfforddiant a chefnogaeth glir ar gyfer y rhan hanfodol hon o addysgu darllen.

Ochr yn ochr â llythrennedd, rwy'n cadarnhau heddiw sut y bydd y £44m a gyhoeddwyd yn gynharach eleni hefyd yn cefnogi sgiliau mathemateg a digidol, gan sicrhau dull gweithredu o safon uchel a chyson yn y meysydd hanfodol hyn unwaith eto.

Dywedodd yr Athro Manon Jones, o'r Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor:

Rydym yn falch iawn o gael gweithio ar wella llythrennedd yng Nghymru. Ein nod yw ein bod ni fel cenedl yn datblygu'n enghraifft ryngwladol o ragoriaeth mewn addysg ddwyieithog.