Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd yr Economi a’r Seilwaith Ken Skates wedi datgelu heddiw y cwmnïau sydd ar y rhestr fer i ddarparu gwasanaethau masnachfraint newydd Cymru a’r Gororau a’r Metro.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae pedwar cynigydd wedi’u dewis i fynd ymlaen i’r cam nesaf yn y broses gaffael i redeg y gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru a’r Gororau o fis Hydref 2018 yn ogystal â chynnal agweddau pwysig ar gam nesa’r Metro. 

Bydd hyn yn rhan o uchelgais Llywodraeth Cymru i ddarparu model rheilffordd di-elw, tebyg i’r ffordd y mae Transport for London yn rheoli gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus. 

Bydd y Partner Gweithredu a Datblygu (ODP) yn helpu i gyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnal gwasanaeth rheilffordd gwell, cyflymach a mwy hygyrch, sy’n ateb gofyn y Gymru gyfoes. 

Y pedwar a ffefrir (yn nhrefn yr wyddor) fel ODP yw: 

  • Abellio Rail Cymru
  • Arriva Rail Wales/Rheilffyrdd Arriva Cymru Limited
  • KeolisAmey
  • MTR Corporation (Cymru) Ltd

Bydd y cynigwyr nawr yn mynd i’r cam nesaf a hwythau wedi dangos i Lywodraeth Cymru bod ganddynt hanes o ddarparu gwasanaethau o’r ansawdd uchaf yn ogystal â bod ganddynt yr archwaeth, y cadernid ariannol a’r arbenigedd i allu eu darparu. 

Meddai Ysgrifennydd yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates: 

“Rwy’n hapus iawn â’r ffordd rydym yn mynd â’n cynlluniau uchelgeisiol i weddnewid gwasanaethau rheilffyrdd Cymru yn eu blaenau.  Mae gwasanaeth newydd Cymru a’r Gororau o 2018 a cham nesaf y Metro i gyd yn rhan o fodel uchelgeisiol a chreadigol di-elw rydym yn ei lunio ar gyfer rheilffyrdd Cymru. 

“Bydd y rhwydwaith rheilffyrdd yn cael ei reoli gan Drafnidiaeth Cymru ac mae’n dda gen i gyhoeddi heddiw y camau diweddaraf i ddewis pwy fydd yn darparu rhai gwasanaethau o fewn y model hwnnw. 

“Mae gennym nawr bedwar cwmni galluog a phrofiadol i fynd i’r cam cystadleuol nesaf, ac rwy’n awyddus i glywed mwy ganddynt am yr hyn y gallan nhw ei gynnig i Gymru a sut y gallan nhw roi’n cynlluniau ar waith ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus integredig. 

“Dros y 10 mlynedd nesaf, rwy’n rhagweld y caiff camau breision eu cymryd i ddatblygu’n rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys trydaneiddio leiniau Abertawe, y Cymoedd a’r Gogledd, Metro’r De a’r Gogledd a gwelliannau eang i’r seilwaith sydd eisoes ar y gweill. 

“Bydd blaenoriaethau’r fasnachfraint nesaf yn cynnwys adnewyddu’r stoc gerbydau, gostwng amserau teithio a defnyddio technolegau a dulliau modern i wella gwasanaethau i gwsmeriaid ledled Cymru. 

“Rwy’n hyderus ein bod yn gosod y seiliau ar gyfer gwireddu’n huchelgais ac rwy’n disgwyl ymlaen at weithio gyda’r cynigwyr hyn i ddatblygu system trafnidiaeth gyhoeddus integredig o ansawdd uchel i Gymru.” 

Trafnidiaeth Cymru fydd yn trefnu’r broses gaffael i ddewis Partner Gweithredu a Darparu. Cwmni di-elw a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru ac sy’n eiddo iddi yw Trafnidiaeth Cymru (dolen allanol). 

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn ymgynghori â’r cyhoedd ar y cynigion yn nechrau 2017 a chan ddibynnu ar ganlyniadau’r ymgynghoriad hwnnw, rhagwelir rhoi’r contract terfynol ddiwedd 2017.