Bydd tafarndai, bwytai, caffis, bariau a lleoliadau cerddoriaeth fyw ledled Cymru yn elwa o gymorth ardrethi busnes ychwanegol. Dyna gyhoeddiad yr Ysgrifennydd Cyllid.
Bydd tua 4,400 o fusnesau lletygarwch yn gymwys i gael rhyddhad o 15% ar eu biliau ardrethi yn 2026-2027, gan eu helpu trwy gyfnod o gostau cynyddol pan fo arferion defnyddwyr yn newid.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu hyd at £8 miliwn ar gyfer y pecyn, gan ddefnyddio cyllid gan Lywodraeth y DU, ond hefyd gan ddefnyddio arian Llywodraeth Cymru i ehangu ystod y busnesau a gaiff eu cynorthwyo yng Nghymru.
Daw'r gefnogaeth hon ar gyfer y sector lletygarwch bwyd a diod ar ben y gefnogaeth sylweddol sy'n bodoli eisoes. Mae bron i hanner y tafarndai yng Nghymru eisoes yn elwa o Ryddhad Ardrethi Busnesau Bach, ac nid yw dros chwarter yn talu unrhyw ardrethi o gwbl. Mae rhyddhad parhaol Llywodraeth Cymru werth £250 miliwn bob blwyddyn.
O fis Ebrill ymlaen, bydd y lluosydd a ddefnyddir i gyfrifo’r biliau ardrethi hefyd yn cael ei leihau am y tro cyntaf ers 2010, ac mae £116 miliwn mewn rhyddhad trosiannol yn cael ei ddarparu dros ddwy flynedd i helpu busnesau i addasu i'r ailbrisiad.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:
“Mae tafarndai, bwytai, caffis, bariau a lleoliadau cerddoriaeth fyw wrth galon cymunedau ledled Cymru. Gwyddom eu bod yn wynebu pwysau gwirioneddol, o gostau cynyddol i arferion newidiol defnyddwyr.
“Bydd y gefnogaeth ychwanegol hon yn helpu tua 4,400 o fusnesau wrth iddynt addasu i'r heriau hyn. Rydym wedi ymestyn y rhyddhad hwn i fwytai a chaffis, yn ogystal â thafarndai a lleoliadau cerddoriaeth fyw, oherwydd mewn trefi ac ar strydoedd mawr ledled Cymru mae'r busnesau hyn yn gweithredu ochr yn ochr, ac yn aml mewn cystadleuaeth uniongyrchol â'i gilydd. Mae'n gwneud synnwyr i roi cefnogaeth gyfartal iddynt.
“Mae hyn yn adeiladu ar fwy na £1 biliwn mewn rhyddhad ardrethi dros dro yr ydym wedi'i ddarparu ers 2020, ochr yn ochr â'n rhyddhad parhaol gwerth £250 miliwn bob blwyddyn. Byddwn yn parhau i gefnogi'r busnesau lletygarwch sy'n gwasanaethu ein cymunedau.”
Gall busnesau cymwys wneud cais am y rhyddhad trwy eu hawdurdod lleol o fis Ebrill 2026.
