Neidio i'r prif gynnwy

Rhaid i'r DU gyhoeddi faint o arian a dderbynnir gan fuddiolwyr taliadau amaethyddol.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mai 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Cyhoeddi taliadau amaethyddol , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 2 MB

XLSX
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Manylion

Cyflwyniad

Rhaid i'r DU gyhoeddi faint o arian a dderbynnir gan fuddiolwyr taliadau amaethyddol. Rhaid i ni wneud hyn ar gyfer pob blwyddyn ariannol yr UE (16 Hydref i 15 Hydref). Mae hyn yn unol â:

  • Rheoliadau'r Undeb Ewropeaidd (UE) (Rheoliad yr UE 1306/2013)
  • Rheoliad y Comisiwn 908/2014
  • Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Y data a gyhoeddwyd

Gallwch weld y symiau a dderbyniwyd gan fuddiolwyr o Gymru ar gyfer 16 Hydref 2024 i 15 Hydref 2025. Gwnaed y taliadau hyn o dan y canlynol:

  • Polisi Amaethyddol Cyffredin yr Undeb Ewropeaidd (PAC)
  • Taliadau amaethyddol a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru o dan y gyfraith a gymathwyd. E.e. Cynllun y Taliad Sylfaenol

Nid yw buddiolwyr sy'n derbyn llai na'r hyn sy'n cyfateb i gyfanswm o €1,250 yn ystod y flwyddyn yn cael eu henwi.

Ar gyfer y buddiolwyr hyn:

  • rydym yn cyhoeddi'r symiau a dalwyd
  • rydym yn dileu enw'r buddiolwr er preifatrwydd

At ddibenion cyhoeddi, rydym wedi trosi €1,250 i £1,114 Sterling.

Mae gwybodaeth ar gyfer blwyddyn ariannol 2024 yr UE ar Daliadau PAC y DU i'w gweld (ar gov.uk).