Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd wedi cyhoeddi trefniadau gwell i gefnogi unigolion a’u teuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan waed halogedig trwy driniaeth gan y GIG.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ogystal â chymorth ariannol, bydd y trefniadau newydd yn darparu gwasanaeth cymorth i bob unigolyn y mae hyn wedi effeithio arnyn nhw. Bydd hyn yn helpu unigolion i oresgyn anawsterau sy’n codi wrth iddyn nhw geisio cael gwasanaethau gofal iechyd, yswiriant cartref neu yswiriant teithio, buddion ariannol eraill, neu wasanaethau cyhoeddus addas.

Bydd y trefniadau hefyd yn rhoi sylw i’r pryderon sydd wedi codi ynghylch y broses o roi arian yn ôl disgresiwn. Caiff yr holl daliadau rheolaidd eu cynyddu i gynnwys swm tuag at gostau ychwanegol, megis tanwydd gaeaf ychwanegol, triniaeth (teithio/llety dros nos), ac yswiriant (personol/teithio). 

Byddwn yn gwneud mwy i gefnogi’r rhai sydd wedi cael profedigaeth, yn enwedig yn ystod y blynyddoedd cynnar pan allai trallod ac anhawster ariannol fod ar eu gwaethaf.

Byddwn yn cadw’r taliad untro ac, yn ogystal â hwnnw, bydd priod, partner sifil neu bartner yr unigolyn yn cael 75% o’r taliadau rheolaidd am dair blynedd ar ôl y farwolaeth. Yn achos y rhai sydd newydd gael profedigaeth, bydd y taliadau’n adlewyrchu lefel y taliad rheolaidd adeg profedigaeth. Yn achos y rhai sydd wedi cael profedigaeth mewn blynyddoedd cynharach, byddwn yn defnyddio lefel 2016-17, a bydd un taliad llawn yn cael ei wneud.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:

“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn dod â’r ansicrwydd ynghylch cymorth yn y dyfodol i ben. Bydd y cynllun newydd yn gefnogol, yn dryloyw, ac mor deg â phosibl.  
“Rydyn ni wedi ystyried sylwadau’r rhai sydd wedi dioddef oherwydd gwaed halogedig, ac mae’r sylwadau hynny wedi ein helpu i gynllunio’r trefniadau newydd drwy wella ein dealltwriaeth o effeithiau’r drasiedi ar fywydau dioddefwyr ac ar fywydau eu teuluoedd.”

Ymddiriedolaeth  GIG Felindre, drwy Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, fydd yn gweinyddu’r cynllun newydd.  

Bydd buddiolwyr yng Nghymru yn trosglwyddo i’r cynllun newydd a fydd ar waith o fis Hydref 2017.  Bydd y taliadau rheolaidd uwch (yn rhai blynyddol, chwarterol a misol) yn cael eu hôl-ddyddio i fis Ebrill 2017.  

Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi a’r Adran Gwaith a Phensiynau i sicrhau na fydd taliadau yn y dyfodol yn cael eu cynnwys at ddibenion trethi nac wrth gyfrifo budd-daliadau gwladol.  

Byddwn yn parhau i weithio gyda’r Adran Iechyd a gweinyddwyr y cynllun presennol er mwyn sicrhau bod y broses bontio rhwng yr hen gynllun a’r newydd yn digwydd mor ddidrafferth â phosibl.