Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddwyd heddiw (dydd Gwener, 14 Gorffennaf) bod rhwydwaith newydd wedi ei lansio i wella sut mae mathemateg yn cael ei haddysgu mewn ysgolion a gwella safonau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams yn cyhoeddi sefydlu’r Rhwydwaith Cenedlaethol er Rhagoriaeth mewn Mathemateg mewn ysgol yng Nghaerdydd ar y cyd â’r arbenigwraig nodedig mewn mathemateg Dr Hannah Fry a fydd yn dweud sôn am sut mae ennyn diddordeb disgyblion yn y pwnc a’i wneud yn fwy diddorol.

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi dros £3.2 miliwn yn y rhwydwaith yn ystod tymor presennol y Cynulliad a bydd iddo rôl allweddol yng nghenhadaeth yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams i godi safonau mewn ysgolion yng Nghymru.

Bydd ysgolion, colegau, prifysgolion a’r pedwar consortiwm addysg rhanbarthol yn gweithio ar y cyd i wella’r dull o addysgu a dysgu mathemateg a rhifedd yng Nghymru er mwyn cefnogi’r datblygiadau newydd o ran y cwricwlwm.

Dyma waith y rhwydwaith:

  • Rhoi cefnogaeth ychwanegol i ddatblygu arweinyddiaeth ym maes mathemateg gan helpu ysgolion i gydweithio er mwyn cynnal safonau uwch.
  • Rhoi cefnogaeth i athrawon, cynorthwywyr addysgu, darlithwyr addysg bellach ac eraill i ddatblygu arferion gwell yn yr ystafell ddosbarth.
  • Bydd ysgolion a cholegau yn cael canllawiau ac yn gallu mynd i ddigwyddiadau a chynadleddau ar arfer addysgu effeithiol. Ochr yn ochr â hynny bydd adran benodol newydd ar-lein ar gyfer mathemateg ar wefan dysgu Hwb.
  • Creu rhaglenni datblygu personol achrededig sy’n seiliedig ar dystiolaeth i staff er mwyn iddynt wella’u dealltwriaeth o fathemateg a’r dull o ddysgu ac addysgu mathemateg.
  • Rhaglenni newydd ar gyfer datblygiad proffesiynol sydd wedi’u hachredu ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn i staff addysgu wella eu gwybodaeth mewn mathemateg ac er mwyn gwella addysgu a dysgu mathemateg.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Mae’n fwriad cenedlaethol gennym ni i ddiwygio safonau addysg er mwyn sicrhau bod gan ein pobl ifanc gyfle cyfartal i gyrraedd y safonau uchaf posibl. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn achos pwnc mor hanfodol bwysig â mathemateg.

“Bydd ein Rhwydwaith Cenedlaethol newydd er Rhagoriaeth mewn Mathemateg yn defnyddio’r gallu sydd yng Nghymru i ddod ynghyd, i rannu’r ddealltwriaeth am yr hyn sy’n gweithio orau ac i gefnogi ei gilydd wrth godi safonau a’n huchelgais am ragoriaeth.

“Bydd y rhwydwaith yn dwyn ynghyd yr wybodaeth, yr arbenigedd a’r profiad gorau o blith ein prifysgolion, ysgolion, Consortia ac eraill er lles ein pobl ifanc.”

Bydd yr Ysgrifennydd Addysg yn ymweld ag Ysgol Uwchradd Caerdydd i gwrdd â Hannah Fry a bwrdd arbenigol y rhwydwaith wrth iddyn nhw ddechrau ar eu gwaith.