Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddwyd mai Dr Andrew Goodall CBE fydd Ysgrifennydd Parhaol newydd Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Dr Goodall yn olynu'r Fonesig Shan Morgan fel gwas sifil uchaf Llywodraeth Cymru, sy’n gyfrifol am tua 5,000 o staff ac sydd hefyd yn brif gynghorydd polisi i’r  Prif Weinidog.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Rwy'n falch iawn y bydd Andrew Goodall yn ymgymryd â rôl yr Ysgrifennydd Parhaol wrth inni adeiladu Cymru gryfach, decach a gwyrddach gyda'n gilydd y tu hwnt i'r pandemig.

“Mae e’ wedi bod yn aelod blaenllaw o wasanaeth cyhoeddus Cymru ers sawl blwyddyn, felly rwy’n croesawu ei benodiad i’r swydd hon yn wresog.

“Hoffwn ddiolch i Shan am arwain gwasanaeth sifil Cymru yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn, ac rwy’n dymuno'n dda iddi ar gyfer y dyfodol."

Mae Dr Goodall wedi bod yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru ers 2014. Cyn hynny, ef oedd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Dywedodd:

“Mae’n anrhydedd mawr cael ymgymryd â rôl yr Ysgrifennydd Parhaol yn Llywodraeth Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda staff ar draws y gwasanaeth sifil a gweithlu sector cyhoeddus ehangach Cymru.

“Mae heriau mawr o’n blaenau ond rwy’n hyderus y gallwn fynd i’r afael â nhw drwy weithio gyda’n gilydd, ac adeiladu ar y seiliau y mae Shan wedi’u gosod yn ystod y pum mlynedd diwethaf.”

Penodir Ysgrifenyddion Parhaol ar gontractau pum mlynedd sefydlog yn dilyn cystadleuaeth agored a thrylwyr yn y gwasanaeth sifil.

Dywedodd y Fonesig Shan:

Rwy'n teimlo fy mod wedi bod yn hynod ffodus o gael gweithio gyda grŵp mor wych o bobl ar bethau sydd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl yng Nghymru, a hynny yn ystod un o’r cyfnodau mwyaf heriol yn ein hanes.

“Er ei bod yn anochel bod llawer o'm hamser wedi'i dreulio'n ymateb i broblemau a digwyddiadau annisgwyl, rhoddais bwyslais hefyd, yn ystod fy nghyfnod fel Ysgrifennydd Parhaol, ar geisio datblygu gwasanaeth sifil mwy gwydn, medrus a galluog ar gyfer y dyfodol, yn ogystal â gwneud y sefydliad yn lle tecach a mwy cynhwysol i weithio ynddo.

“Rwy'n dymuno'r gorau i Andrew a byddaf yn gweithio'n agos gydag ef wrth iddo ymgymryd â'r swydd.”