Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cymru wedi trechu ei tharged ar gyfer tirlenwi llai ac unwaith eto wedi rhagori ar ei thargedau ailgylchu yn ôl ffigyrau newydd a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau, 7 Rhagfyr).

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £1biliwn ers datganoli mewn ailgylchu trefol ac mae hynny wedi arwain at gynyddu cyfraddau o ddim ond 4.8% yn 1998-1999, i 65.7% heddiw - sy'n uwch na'r targed statudol o 64%.

Y gyfradd ailgylchu yw canran y gwastraff a gesglir gan awdurdodau lleol sy'n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio.

Yn 2024-25, bydd y targed statudol yn codi i 70%, ffigur y mae pum awdurdod lleol yng Nghymru eisoes wedi'i daro: Abertawe, Sir Benfro, Pen-y-bont ar Ogwr, Ceredigion a Sir Fynwy

Roedd cyfanswm o 17 o 22 awdurdod lleol Cymru wedi rhagori ar y targed o 64%, gyda 12 ohonynt wedi gweld gwelliant yn eu perfformiad ers llynedd.

Mae'r ffigurau a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod llai o wastraff yn cael ei anfon i safleoedd tirlenwi nag erioed o'r blaen. 

Mae cyfran y gwastraff a gesglir gan gynghorau sy’n mynd i'w dirlenwi wedi gostwng yn sylweddol, gan ddisgyn o 42% yn 2012-13 i 1.6% yn 2022-23. Mae hyn eisoes yn well na tharged Llywodraeth Cymru o dirlenwi llai na 5% erbyn 2024-25.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

Mae'r ystadegau tirlenwi ac ailgylchu unwaith eto yn dangos i ni'r hyn y gallwn ei wneud o gael pawb i weithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd ac i ymroi i adeiladu Cymru werdd a ffyniannus ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Gall Cymru fod yn falch bod ei hymdrechion yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i allyriadau, a'i bod yn cadw tua 400,000 tunnell o CO2 y flwyddyn rhag cael ei ryddhau i'r atmosffer.

Mae ein hanes ailgylchu a'r ffaith ein bod bron iawn wedi llwyr roi'r gorau i dirlenwi yn sylfaen ardderchog i ni adeiladu arno i ddelio â'r argyfyngau hinsawdd a natur - ond nid oes amser i laesu dwylo.

Rwy'n gofyn i bawb yng Nghymru barhau â'r gwaith gwych rydyn ni wedi'i wneud ar y daith hon er lles pawb - a meddwl o ddifrif am ailgylchu fel caffaeliad i'r economi.

Prin wythnos yn ôl, pasiodd y Senedd gyfraith newydd a ddylai arwain at wella eto ar record ailgylchu drawiadol Cymru.

Bydd y rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i bob busnes a gweithleoedd y sector cyhoeddus a'r trydydd sector wahanu deunyddiau y gellir eu hailgylchu yn y ffordd y mae cartrefi eisoes yn ei wneud ar hyd ac ar led y wlad.

Daw'r gyfraith i rym ym mis Ebrill gan arwain at fwy o ailgylchu ac at anfon llai o wastraff i'w losgi a'i dirlenwi.

Bydd hefyd yn cynyddu ac yn gwella ansawdd y deunydd ailgylchadwy a fydd yn cael ei gasglu mewn gweithleoedd, a bydd hynny yn ei dro yn casglu deunydd pwysig y gallwn ei fwydo'n ôl i economi Cymru.