Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r buddsoddiad uchaf erioed o £85m mewn rheoli perygl llifogydd ac erydiad arfordirol ar gyfer eleni - y dyraniad blynyddol uchaf erioed yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cadarnhaodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, y cyllid yn ystod ymweliad â chynllun yn Rover Way yng Nghaerdydd, lle mae gwaith adeiladu mawr ar y gweill i gryfhau amddiffynfeydd arfordirol. 

Mae'r dyraniad diweddaraf hwn yn ychwanegol at y £377m a ymrwymwyd i reoli perygl llifogydd yn ystod tymor y Senedd hwn - dyma'r buddsoddiad mwyaf erioed yng Nghymru mewn camau atal llifogydd. 

Ar gyfer 2026/27, bydd mwy na £85m ar gael i Awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd ledled Cymru, gan gynnwys bron i £43m mewn cyllid cyfalaf ar gyfer cynlluniau newydd i ddiogelu cymunedau sydd mewn perygl. Bydd dadansoddiad llawn a map o'r prosiectau yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. 

Wrth siarad o safle Rover Way, lle mae prosiect amddiffyn arfordirol gwerth £35.2m yn cael ei gyflawni gan Gyngor Caerdydd, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog:

“Rydym am fuddsoddi mwy nag erioed mewn gwaith rheoli perygl llifogydd ac erydiad arfordirol oherwydd mae amddiffyn pobl, cartrefi a busnesau yn hanfodol. 

"Dyraniad eleni o £85 miliwn yw'r buddsoddiad blynyddol uchaf erioed yng Nghymru.  

"Bydd yn ariannu cynlluniau newydd ledled y wlad, yn cynnal seilwaith hanfodol, ac yn helpu cymunedau i addasu i effeithiau cynyddol newid hinsawdd. 

"Yn Rover Way gallwch weld ffrwyth y buddsoddiad hwn. Cryfhau amddiffynfeydd, diogelu miloedd o eiddo a chefnogi swyddi medrus - tra byddwn yn parhau i adeiladu gwydnwch hirdymor i gymunedau ledled Cymru."

Mae'r gwaith adeiladu yn cynnwys wal gynnal y graig ar raddfa fawr, argloddiau pridd, seilbyst llen ac amddiffyniad rhag erydiad ar hyd yr arfordir. 

Mae'r prosiect yn lleihau perygl llifogydd arfordirol i 2,326 o eiddo preswyl a 204 eiddo amhreswyl dros y 100 mlynedd nesaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu 85% o'r cyllid adeiladu ac wedi ariannu'r holl gostau datblygu. 

Mae'r cynllun yn Rover Way yn rhan o'r Rhaglen Rheoli Perygl Arfordirol (CRMP). Mae'r rhaglen CRMP, yn ei chyfanrwydd, yn cynrychioli £291m o fuddsoddiad crynodedig dros bum mlynedd. Ar ôl i'r rhaglen CRMP gael ei chwblhau bydd wedi cyflawni 15 cynllun ledled Cymru, gan wella amddiffynfeydd bron i 14,000 o eiddo.

Ochr yn ochr â chynlluniau cyfalaf mawr, bydd mwy na £7.4m yn cael ei ddarparu drwy'r Grant Gwaith ar Raddfa Fach, gan alluogi awdurdodau lleol i gyflawni 106 o brosiectau lleol y flwyddyn nesaf. Mae'r cynlluniau llai hyn yn aml yn defnyddio contractwyr lleol, gan gefnogi swyddi ac economïau rhanbarthol tra'n darparu gwelliannau ymarferol i'r seilwaith presennol. 

Bydd cyllid refeniw hefyd yn parhau i gefnogi gwaith hanfodol o ddydd i ddydd Awdurdodau Rheoli Perygl a Chanolfan Monitro Arfordirol Cymru, gan sicrhau bod asedau'n cael eu cynnal, rhybuddion yn cael eu cyhoeddi, staff arbenigol yn cael eu cyflogi a bod data o ansawdd uchel yn sail i'r broses o wneud penderfyniadau. 

Bydd £5.26m ychwanegol yn cefnogi 35 o brosiectau Rheoli Llifogydd Naturiol ledled Cymru, gan gyflawni ymyriadau fel plannu coed, argaeau sy'n gollwng ac adfer cynefinoedd. Bydd y rhain yn lleihau'r perygl lifogydd i fwy na 3,300 o eiddo, gan roi hwb i natur a llesiant pobl. 

Yn ystod yr ymweliad, cyfarfu'r Dirprwy Brif Weinidog hefyd â hyfforddeion a phrentisiaid a chadarnhaodd raglen datblygu'r gweithlu allanol gwerth £0.5 miliwn i gryfhau sgiliau arbenigol ym maes rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol ledled Cymru dros y tair blynedd nesaf.