Neidio i'r prif gynnwy

Nodiadau pwysig

Mae'r canllaw hwn yn esbonio sut i gwblhau hawliad contract ar gyfer y cynlluniau canlynol:

  • Grant Creu Coetir (WCG)
  • Grantiau Bach – Creu Coetir (SGWC)
  • Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru - Rownd Ariannu Gyffredinol (WMFS)

Ar gyfer cynlluniau eraill, gwiriwch dudalen y cynllun.

Rhaid i chi sicrhau eich bod yn cyflwyno eich ffurflen hawlio contract erbyn y dyddiad cau sydd wedi'i gynnwys yn eich contract. Os na fyddwch yn hawlio erbyn y dyddiad cau hwn, ni fyddwch yn derbyn taliad.

Nodyn i gwsmeriaid y Grant Creu Coetir (WCG): os gwnaethoch nodi eich bwriad i hawlio am y rhagdaliad gwaith tir yn eich cais WCG, gwnewch yn siŵr eich bod wedi cyflwyno eich hawliad gwaith tir cyn ceisio dechrau eich hawliad contract. Os na, bydd hyn yn golygu na fydd unrhyw eitemau y gallwch eu hawlio ar gael yn eich hawliad contract. 

Problemau gyda'r hawliad contract

Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid

Os ydych chi'n cael problemau neu'n methu cael mynediad at eich cyfrif RPW Ar-lein, cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt Cwsmeriaid lle mae staff wrth law i roi gwybodaeth ac ateb ymholiadau.

Gallwch ddefnyddio’r dudalen "Negeseuon" yn eich cyfrif RPW Ar-lein i anfon ymholiad at y Ganolfan Gyswllt Cwsmeriaid. Fel arall, gallwch ffonio 0300 062 5004 (Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, o 09:00 i 16:00). 

Cyrchu'r hawliad contract

Mae'r hawliad contract yn cael ei ddechrau o ardal contractau eich cyfrif RPW Ar-lein. O ddewislen eich tudalen gartref, cliciwch ar "Contractau a Grantiau Bach", yna dewiswch "Contractau" o'r ddewislen naid. Bydd hyn yn mynd â chi i'ch tudalen contractau lle bydd unrhyw gontractau a gynigir ac sy'n weithredol yn cael eu rhestru. 

Bydd botwm "Dechrau Hawliad" glas yn ymddangos ger cynlluniau sydd ar gael i’w hawlio drwy'r hawliad contract. Cliciwch "Dechrau Hawlio" i ddechrau. 

Nodwch, os ydych chi wedi dechrau hawliad contract o'r blaen ac wedi cadw'ch cynnydd heb ei gyflwyno, bydd y botwm yn newid i "Parhau â'r Hawliad". Os ydych chi'n parhau â hawliad, bydd y system yn cynnig y dewis i chi barhau o ble gwnaethoch chi stopio o'r blaen neu ddechrau eto. Os ydych chi am ddechrau eto, dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.

Trosolwg a llywio’r ffurflen hawlio

Bydd yr hawliad contract yn dangos eich Rhif Cyfeirnod Cwsmer (CRN) yng nghornel chwith uchaf y dudalen. 

Bydd dewislen o dudalennau i'w gweld neu i fewnbynnu gwybodaeth yn cael ei dangos ar ochr chwith y sgrin. Bydd y dudalen sy’n weithredol ar hyn o bryd wedi'i hamlygu mewn glas. Gallwch glicio ar dudalen i symud yn uniongyrchol i'r dudalen honno neu glicio'r botymau "Nesaf" / "Blaenorol" i symud rhwng tudalennau. Bydd tudalennau sydd angen mewnbwn data wedi'u marcio â chroes goch neu dic gwyrdd. Mae'r groes goch yn dynodi mewnbwn data anghyflawn ar y dudalen honno, tra bod tic gwyrdd yn dynodi bod yr holl wybodaeth ofynnol wedi'i mewnbynnu'n llwyddiannus.

Dangosir nifer o fotymau ar y sgrin i helpu gyda llywio'r hawliad contract fel a ganlyn:

Cymorth: os oes angen cymorth i lenwi'r ffurflen.

Argraffu: i argraffu copi o'r ffurflen yn ei chyflwr presennol.

Cymraeg/Saesneg: i newid rhwng ieithoedd.

Cadw: i gadw eich cynnydd cyfredol.

Nesaf: i symud i'r dudalen nesaf yn y rhestr.

Blaenorol: i symud i'r dudalen flaenorol yn y rhestr.

Allanfa: i gadw a gadael y ffurflen.

Tudalen cyflwyniad

Mae'r dudalen "Cyflwyniad" yn crynhoi gwybodaeth allweddol y contract rydych chi'n gwneud hawliad oddi tano, gan gynnwys y math o gontract a chyfeirnod y contract. Rhowch sylw arbennig i'r negeseuon allweddol yn y maes hwn gan y gallant newid o gynllun i gynllun. Sicrhewch fod y manylion a ddangosir yn gywir cyn parhau. Cliciwch "Nesaf" i symud i'r dudalen nesaf.

Tudalen hysbysiad preifatrwydd

Mae’r dudalen "hysbysiad preifatrwydd" yn amlinellu sut rydym yn trin data personol sy'n ymwneud â cheisiadau am grant a cheisiadau am gyllid. Mae'n esbonio sut rydym yn prosesu gwybodaeth a gyflwynir ar gyfer cymhwysedd, atal twyll, a gwirio hunaniaeth. Mae hefyd yn manylu ar sut y gellir rhannu data gydag awdurdodau rheoleiddio ac asiantaethau atal twyll, cyfnodau cadw ar gyfer gwybodaeth bersonol, a hawliau unigolion o dan gyfreithiau diogelu data. Ar ôl darllen, cliciwch "Nesaf" i symud i'r dudalen nesaf.

Eitemau hawlio: tudalen costau safonol

Bydd unrhyw eitemau hawlio costau safonol dan gontract sydd ar gael i'w hawlio yn cael eu dangos ar y dudalen hon. I hawlio eitem, mae’n rhaid i chi dicio'r blwch gweithgaredd hawlio a darparu manylion am swm yr hawliad a dyddiad cwblhau'r gweithgaredd. Dyma ddisgrifiad llawn o bob elfen ar y dudalen hon:

  • cod eitem: dyma gyfeirnod y cod eitem sy'n ymwneud â phob eitem costau safonol unigol yn eich contract. Nodwch y gall hyn gyfeirio at y cod opsiwn neu'r ID unigryw mewn rhai cynlluniau
  • enw / disgrifiad: dyma enw neu ddisgrifiad yr eitem i'w hawlio
  • swm a gymeradwywyd: dyma'r swm a gymeradwywyd yn eich contract
  • hawlio'r gweithgaredd hwn: rhaid i chi dicio'r blwch hwn i nodi eich bod wedi cwblhau gwaith ar gyfer yr eitem hon ac yn dymuno ei gynnwys yn eich hawliad
  • swm a hawlir: wrth hawlio gweithgaredd, rhaid i chi nodi'r swm rydych chi'n ei hawlio yn y blwch hwn
  • dyddiad cwblhau'r gweithgaredd: wrth hawlio gweithgaredd, rhaid i chi nodi dyddiad cwblhau'r gweithgaredd yn y blwch hwn

Eitemau'r Hawliad: Costau Ansafonol

Bydd unrhyw eitemau hawlio Costau Ansafonol dan gontract sydd ar gael i'w hawlio yn cael eu dangos ar y dudalen hon. I hawlio eitem, mae’n rhaid i chi lenwi Rhif Adnabod Trafodiad, Talai, Dyddiad yr Anfoneb, Cost Anfoneb Net (£), Cost Net Gymwys (£), Eitem wedi'i Gwblhau.

Dyma ddisgrifiad llawn o bob elfen ar y dudalen hon:

  • cod eitem: dyma gyfeirnod y cod eitem sy'n ymwneud â phob eitem costau safonol unigol yn eich contract. Nodwch y gall hyn gyfeirio at y cod opsiwn neu'r id unigryw mewn rhai cynlluniau
  • enw / disgrifiad: dyma enw neu ddisgrifiad yr eitem i'w hawlio
  • ar gael £: dyma’r cyfanswn y gost wedi ei gymeryd o’ch Llythyr Dyfarnu Grant. Pan fyddwch chi'n mewnosod gwerth (£) yn y blychau cost anfoneb net(£) a cost net cymwys(£), bydd y swm ar gael yn lleihau yn unol â'r gwerth a mewnosodwyd
  • rhif adnabod trafodiad: bydd angen i chi nodi Rhif Adnabod Trafodiad yn y blwch rhif adnabod trafodiad. Mae hyn yn ofynnol fel y gallwn gysylltu'r tystiolaeth gefnogol gyda'r eitem a hawlwyd. Gall y rhif adnabod trafodiad fod yn unrhyw llythyren neu rif cyn belled â'i fod yn dechrau gyda llythyren, yn dilyn gyda un i chwe rhif heb le gwag. Er enghraifft, A123456 neu C123. Bydd angen rhif adnabod trafodiad ar wahân ar gyfer pob eitem/llinell. Bydd gwall yn ymddangos os bydd yr un rhif adnabod trafodiad yn cael ei nodi
  • talai: rhowch enw'r cwmni ar yr anfoneb ar gyfer yr eitem berthnasol
  • dyddiad yr anfoneb: nodwch y dyddiad a ddangosir ar yr anfoneb ar gyfer yr eitem berthnasol. Sylwch na all y dyddiad anfoneb fod yn ddyddiad ar ôl dyddiad cyflwyno'r cais
  • cost anfoneb net, nodwch y swm net fel y dangosir ar anfoneb yr eitem. Os yw'r anfoneb yn cynnwys costau nad ydynt yn ymwneud â chost yr eitem ni ddylid tynnu'r rhain, gellir nodi swm yr eitem yn y blwch cost net cymwys.
  • cost net cymwys: nodwch swm yr eitem.
  • eitem wedi'i gwblhau: ar ôl i chi gyflwyno'r holl geisiadau am eitem gallwch ddewis y blwch eitem wedi’i gwblhau. Os ydych yn hawlio'n llawn ar un llinell mae'n rhaid i chi dicio'r blwch eitem wedi’i gwblhau i gael gwared ar y neges gwall gorwario.

Os oes angen i chi ychwanegu rhes ychwanegol at hawlio eitem, gallwch glicio ar y botwm Ychwanegu Hawliad. Gellir dewis hyn gymaint o weithiau ag sy'n ofynnol. 

Os ydych am gael gwared ar y rhes ychwanegol, gallwch glicio ar y botwm Dileu Hawliad.

Ar ôl i chi gywiro unrhyw wallau ac ateb yr holl gwestiynau ar bob tudalen cliciwch ar y botwm Nesaf. 

Ffurflen Hawlio Contract: Costau Staff

Bydd unrhyw eitemau Costau Staff dan gontract sydd ar gael i'w hawlio yn cael eu dangos ar y dudalen hon. I hawlio eitem, mae’n rhaid i chi lenwi Rhif Adnabod Trafodiad, Oriau a Hawliwyd, Dyddiad o, Dyddiad i, Eitem wedi'i Gwblhau.

  • cod eitem: dyma gyfeirnod y cod eitem sy'n ymwneud â phob eitem costau safonol unigol yn eich contract. Nodwch y gall hyn gyfeirio at y cod opsiwn neu'r id unigryw mewn rhai cynlluniau
  • enw / disgrifiad: dyma enw neu ddisgrifiad yr eitem i'w hawlio
  • teitl y swydd: rhowch enw neu ddisgrifiad y rôl a gyflawnwyd
  • oriau sydd ar gael: y swm o oriau ar gael i’w hawlio
  • cyfradd: y gyfradd a dalwyd yn ôl yr awr
  • rhif adnabod trafodiad: Bydd angen i chi nodi rhif adnabod trafodiad yn y blwch rhif adnabod trafodiad. Mae hyn yn ofynnol fel y gallwn gysylltu'r tystiolaeth gefnogol gyda'r eitem a hawlwyd. Gall y rhif adnabod trafodiad fod yn unrhyw llythyren neu rif cyn belled â'i fod yn dechrau gyda llythyren, yn dilyn gyda un i chwe rhif heb le gwag. Er enghraifft, A123456 neu C123. Bydd angen rhif adnabod trafodiad ar wahân ar gyfer pob eitem/llinell. Bydd gwall yn ymddangos os bydd yr un rhif adnabod trafodiad yn cael ei nodi
  • oriau a hawliwyd: rhowch y swm o oriau yr ydych am ei hawlio
  • dyddiad o: dyddiad dechreuodd y gwaith
  • dyddiad i: dyddiad gwblhawyd y gwaith
  • gwariant cymwys (£): bydd y ffigwr hwn yn cael ei gynhyrchu'n awtomatig pan fydd swm wedi'i gyflwyno yn y blwch oriau a hawliwyd
  • eitem wedi'i gwblhau: ar ôl i chi gyflwyno'r holl geisiadau am eitem gallwch ddewis y blwch eitem wedi’i gwblhau. Os ydych yn hawlio'n llawn ar un llinell mae'n rhaid i chi dicio'r blwch eitem wedi’i gwblhau i gael gwared ar y neges gwall gorwario

Os oes angen i chi ychwanegu rhes ychwanegol at Hawlio Eitem, gallwch glicio ar y botwm Ychwanegu Hawliad. Gellir dewis hyn gymaint o weithiau ag sy'n ofynnol. 

Os ydych am gael gwared ar y rhes ychwanegol, gallwch glicio ar y botwm Dileu Hawliad.

Ar ôl i chi gywiro unrhyw wallau ac ateb yr holl gwestiynau ar bob tudalen cliciwch ar y botwm Nesaf. 

Chwilio am eich eitemau hawliadwy

Mae blwch o'r enw "Dod o Hyd i Eitemau" wedi'i leoli ar frig rhestr yr eitemau hawlio, y gellir ei ddefnyddio i chwilio'n hawdd am eitemau mewn rhestr fawr. Mewnbynnwch ychydig o nodau o'ch meini prawf chwilio a bydd y rhestr yn hidlo'n awtomatig i ddangos canlyniadau sy'n cynnwys y meini prawf a fewnbynnwyd.  Cliciwch y botwm "X" i glirio'r hidlydd chwilio.

Gorffen mewnbynnu data ar y dudalen hon

Pan fydd y gwaith o fewnbynnu data hawlio wedi'i gwblhau, gallwch ddewis "Cadw", "Nesaf", neu lywio'n uniongyrchol i dudalen arall drwy'r ddewislen. Yn ystod y broses hon, bydd y data rydych chi wedi'i fewnbynnu’n cael ei ddilysu. Bydd unrhyw wallau a ganfyddir yn cael eu hamlygu mewn coch, ynghyd â chyfarwyddiadau ar y sgrin yn manylu ar y camau angenrheidiol i gywiro'r broblem. Tra bo gwallau’n dal i fod ar y dudalen, bydd croes goch yn cael ei dangos gyferbyn â’r dudalen hon yn y rhestr ddewislen ar ochr chwith y sgrin. Os yw'r data a fewnbynnwyd yn gywir, bydd tic gwyrdd yn cael ei ddangos.

Noder efallai na fydd y dudalen hon wedi'i chynnwys yn eich hawliad yn ddibynnol ar y math o gynllun.

Cynnydd Prosiect

Mae'n rhaid i chi nodi a ydych yn cyflwyno cais terfynol ar gyfer y prosiect neu os ydych yn bwriadu cyflwyno rhagor o hawliadau.   

Os mai'r cais hwn yw'r cais terfynol, dewiswch Ydw. 

Os byddwch yn cyflwyno ceisiadau pellach, dewiswch Na.   

Os nad yr hawliad hwn yw eich hawliad terfynol, rhaid i chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am statws presennol y prosiect o fewn blwch testun Cynnydd y Prosiect.   

Gallwch gynnwys cyfeiriad at y canlynol:

  • beth sydd wedi ei gyflawni hyd yn hyn a'r gwaith sydd ar y gweill
  • ymrwymiad a'r cyhoedd a'r ymglymiad ac ymgymryd
  • dyroddiadau a wynebwyd ac unrhyw risgiau a nodir a fedr effeithio cwblhau'r gwaith
  • sut mae dyroddiadau / risgiau a nodir yn cael eu delio 

Cynnydd Prosiect: Dangosyddion a Chanlyniadau

Ar gyfer pob hawliad, rhaid i chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae'r prosiect yn bodloni'r Dangosyddion a'r Canlyniadau a ddewiswyd ar gyfer eich prosiect a ddangosir ar y tab Adroddiad Prosiect, hyd yn oed os ydych wedi cyflawni targed y contract.   

Ym mhob blwch Cyflawni i Dyddiad, nodwch ffigur rhifol yn ôl cynnydd yn erbyn targed y contract.   

Ym mhob blwch Cynnydd mae'n rhaid i chi roi testun, gan ddisgrifio sut rydych chi'n symud ymlaen i gyrraedd pob targed y cytunwyd arno.   

Lle nad oes cynnydd pellach wedi'i wneud, nodwch y ffigur rhifol cyfredol.   

Rhaid cofnodi testun sy'n disgrifio'r canlyniad yn y blwch Cynnydd ar gyfer y Dangosyddion a’r Canlyniadau y cytunwyd arnynt hyd yn oed lle nad oes cynnydd wedi'i wneud.   

Lle mae cynnydd wedi gwella, nodwch y cyfanswm cronnus rhifol. 

Rhowch destun yn y Blwch Cynnydd.

Rhowch ffigurau a thestun ar gyfer pob dangosydd a restrir.   

Rhaid i bob targed y cytunwyd arno gynnwys testun.   

Os nad oes cynnydd wedi'i wneud, rhaid cwblhau'r blwch Cyflawni ar y Dyddiad a'r blwch testun Cynnydd. 

Gwiriwch fod yr holl gofnodion yn gywir, yna safio.

Ar ôl i chi gywiro unrhyw wallau ac ateb yr holl gwestiynau ar bob tudalen cliciwch ar y botwm Nesaf.   

Tudalen dogfennau ategol

Gellir defnyddio'r dudalen hon i ychwanegu dogfennau ategol i brofi eich hawliad. Nid yw pob cynllun yn gofyn am lwytho dogfennau, felly cyfeiriwch at lyfr rheolau'r cynllun perthnasol ar ein gwefan i wirio gofynion. Cofiwch fod os oes angen tystiolaeth ond ni chafwyd ei darparu, caiff y taliad ei atal.

Sut i ychwanegu dogfennau

I ychwanegu dogfen, cliciwch y botwm "Ychwanegu Dogfennau". Nodwch y gallwch ddewis sawl dogfen i'w lanlwytho ar yr un pryd. Ar ôl i ddogfen gael ei lanlwytho'n llwyddiannus, bydd y ddogfen yn ymddangos yn y rhestr. 

Sut i ddileu dogfennau

I ddileu dogfen ddiangen, cliciwch y botwm "Dileu" wrth ymyl yr eitem i'w dileu.

Chwilio am eich dogfennau wedi'u lanlwytho

Mae blwch o'r enw "Hidlo Dogfennau" wedi'i leoli ar frig y rhestr ddogfennau, y gellir ei ddefnyddio i chwilio'n hawdd am ddogfennau mewn rhestr fawr. Mewnbynnwch ychydig o nodau o'ch meini prawf chwilio a bydd y rhestr yn hidlo'n awtomatig i ddangos canlyniadau sy'n cynnwys y meini prawf a fewnbynnwyd. I glirio'r hidlydd chwilio, dilëwch y meini prawf a nodwyd yn y blwch "Hidlo Dogfennau".

Cyfyngiadau lanlwytho dogfennau

Dim ond cyflwyniadau o'r mathau canlynol o ddogfennau y gall y dudalen hon eu derbyn - PDF (pdf), Microsoft Office (xls, xlsx, doc, docx, ppt, pptx, mpp, vsd, rtf), lluniau (jpg, jpeg, tif, tiff) neu Zip (zip).

Gorffen mewnbynnu data ar y dudalen hon

Pan fydd y broses o lanlwytho dogfennau wedi'i chwblhau, gallwch ddewis "Cadw", "Nesaf", neu lywio'n uniongyrchol i dudalen arall drwy'r ddewislen. Bydd croes goch yn cael ei dangos gyferbyn â'r dudalen hon yn y rhestr ddewislen ar ochr chwith y sgrin nes i chi ymweld â'r dudalen hon. Os nad oes angen lanlwytho dogfennau ar gyfer y cynllun sy'n cael ei hawlio, ar ôl ymweld, bydd tic gwyrdd yn cael ei ddangos gyferbyn â'r dudalen hon yn y ddewislen.

Atodlen 6: tudalen datganiad sicrwydd

Fel rhan o'ch llythyr dyfarnu grant o dan y cynllun a ddewiswyd, os oes angen cwblhau atodlen 6, bydd angen i chi gwblhau datganiad sicrwydd atodlen 6. 

Fel rhan o'r datganiad sicrwydd, byddwch yn nodi a ydych yn derbyn unrhyw gyllid gan sefydliadau eraill i gefnogi'r dibenion fel y'u manylir yn atodlen 1 o'ch dyfarniad grant, yn ogystal â gwybodaeth am y personél a'r goruchwylwyr yn eich sefydliad mewn perthynas â chyfrifoldeb rheoli ariannol.

Rhaid i chi hefyd ddatgan bod gweithwyr, swyddogion, cyfarwyddwyr, ymddiriedolwyr ac aelodau’r bwrdd, lle bo’n berthnasol, yn deall eu dyletswyddau’n llawn, bod ganddynt ddigon o wybodaeth am faterion llywodraethu i gyflawni eu rolau mewn modd sy’n cydymffurfio’n llawn â’r ddeddfwriaeth berthnasol a’u bod yn craffu ac yn goruchwylio gwaith y rhai sydd â’r prif gyfrifoldeb am eich rheolaeth ariannol yn briodol.

Dyma'r eitemau unigol ar y dudalen hon sydd angen eich mewnbwn:

  1. Ydych chi'n derbyn unrhyw gyllid arall gan unrhyw sefydliad arall i gefnogi'r dibenion fel y'u manylir yn atodlen 1 o'ch dyfarniad grant? 

    Rhaid i chi nodi "Ie" neu "Na" i'r cwestiwn hwn. Os byddwch yn ateb "Ie", bydd tabl yn ymddangos ar waelod y sgrin i ganiatáu i chi nodi'r canlynol:

    math o gyllid a’i bwrpas
    swm y cyllid a dderbyniwyd
    % o gost ôl-dâl/eitem cyfalaf
    ffynhonnell ariannu

    Os oes angen sawl llinell i nodi data, cliciwch y botwm "+Ychwanegu Cyllid". Gallwch ddileu llinellau drwy glicio'r botwm "Dileu" wrth ymyl y llinell berthnasol.
     
  2. Enwch y personél yn eich sefydliad sydd â chyfrifoldeb penodol am reolaeth ariannol mewn perthynas â'r dibenion fel y manylir yn atodlen 1 eich dyfarniad grant.

    Rhowch enw llawn bob person a'u swydd yn y busnes. Cliciwch "+Ychwanegu Unigolyn" i ychwanegu rhagor o linellau mewnbynnu. Cliciwch "Dileu Unigolyn" i ddileu llinellau.
     
  3. Pwy sy'n gyfrifol am oruchwylio'r personél a enwir uchod?

    Rhowch enw llawn bob person a'u swydd yn y busnes. Cliciwch "+Ychwanegu Unigolyn" i ychwanegu rhagor o linellau mewnbynnu. Cliciwch "Dileu Unigolyn" i ddileu llinellau.
     
  4. Rwy'n cadarnhau'r datganiad uchod

    Rhaid i chi dicio'r blwch hwn i gadarnhau'r manylion a fewnbynnwyd.

Gorffen mewnbynnu data ar y dudalen hon

Pan fyddwch wedi cwblhau'r gwaith o fewnbynnu data ar y dudalen hon, gallwch ddewis "Cadw", "Nesaf", neu lywio'n uniongyrchol i dudalen arall drwy'r ddewislen. Yn ystod y broses hon, bydd y data rydych chi wedi'i fewnbynnu’n cael ei ddilysu. Bydd unrhyw wallau a ganfyddir yn cael eu hamlygu mewn coch, ynghyd â chyfarwyddiadau ar y sgrin yn manylu ar y camau angenrheidiol i gywiro'r broblem. Tra bo gwallau’n dal i fod ar y dudalen, bydd croes goch yn cael ei dangos gyferbyn â’r dudalen hon yn y rhestr ddewislen ar ochr chwith y sgrin. Os yw'r data a fewnbynnwyd yn gywir, bydd tic gwyrdd yn cael ei ddangos.

Cyflwyniad: gwallau, gwybodaeth a chrynodeb

Mae'r dudalen hon yn crynhoi'r data rydych chi wedi'i roi yn eich hawliad contract. Bydd unrhyw wallau a geir yn y data yn cael eu rhestru ar frig y dudalen hon a bydd lleoliad y gwallau hynny yn cael ei nodi yn y ddewislen gyda chroes goch yn erbyn pob tudalen. Rhaid i chi gywiro unrhyw wallau cyn y gallwch gyflwyno'r ffurflen hawlio.

Efallai y bydd negeseuon gwybodaeth hefyd yn cael eu dangos ar y dudalen hon. Mae'r rhain i'ch annog ar unrhyw gamau gallai fod angen i chi eu cymryd, ond nid ydynt yn eich atal rhag cyflwyno'ch hawliad.  Pan fyddwch chi'n fodlon bod yr holl ddata a fewnbynnwyd yn gywir, cliciwch "Nesaf" i symud i'r dudalen "Datganiadau ac Ymrwymiadau".

Cyflwyniad: datganiadau ac ymrwymiadau

Mae'r dudalen hon yn rhestru'r datganiadau a'r ymrwymiadau y mae'n rhaid i chi gytuno iddynt wrth hawlio cymorth grant. Darllenwch y dudalen hon yn drylwyr i gadarnhau eich dealltwriaeth o ganllawiau'r grant, cydymffurfiaeth â gofynion y cynllun, yr angen i gadw anfonebau, a'r gofyniad i gydweithredu ag unrhyw arolygiadau sydd eu hangen. Rydych hefyd yn gwarantu bod y wybodaeth a ddarperir yn gywir, bod eitemau a hawlir yn bodloni amodau'r grant, nad oes unrhyw gyllid dyblyg wedi'i geisio, a'ch bod yn deall y gellir adennill taliadau os na chyflawnir amcanion.  

Ticiwch y blwch ar y gwaelod sydd wedi'i labelu "Rwyf wedi darllen ac yn cytuno â'r Datganiadau ac Ymrwymiadau uchod" a chliciwch ar "Nesaf" i symud ymlaen i'r dudalen gyflwyno.

Noder, os nad ydych yn cytuno â'r datganiadau a'r ymrwymiadau, ni fyddwch yn gallu cyflwyno'ch hawliad.

Cyflwyniad: cyflwyno

Mae eich hawliad contract bellach yn barod i'w gyflwyno. Cliciwch y botwm "Cyflwyno".

Ar ôl ei gyflwyno, bydd dogfen gryno sy'n cynnwys manylion y wybodaeth a gyflwynwyd yn cael ei hychwanegu at eich ardal negeseuon.