Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o bwrpas y grŵp a sut y bydd yn gweithio.

Penodi

Bydd y Grŵp Strategol Cynghori ar Ganiatadau (CSAG) yn enwebu aelodau i fod yn rhan o’r Is-grŵp Gwyddoniaeth a Thystiolaeth (SEAGP).

Trosolwg

Mae’r SEAGP yn is-grŵp i CSAG. I gychwyn bydd yn adolygu’r anghenion gwyddoniaeth a thystiolaeth ar gyfer prosiectau Ynni Adnewyddadwy'r Môr (MRE – W&T) yng Nghymru. Bwriedir iddo gael ei gadeirio dros dro gan Gadeirydd CSAG. Mae’n cwmpasu materion gwyddoniaeth, tystiolaeth a data yn bennaf ond nid yw’n gyfyngedig i hynny. Fe’i sefydlir ar sail amser cyfyngedig i roi cyngor i CSAG sy’n ymwneud â datblygiadau Ynni Adnewyddadwy’r Môr. Mae’r aelodaeth yn cynnwys aelodau CSAG. Bydd y Cadeirydd yn adrodd i CSAG.

Cylch gorchwyl

1. Adolygu gwyddoniaeth, tystiolaeth a data cyfredol ac sy’n datblygu o ffynonellau amrywiol ac ystyried a yw’r rhain: a) yn berthnasol, yn benodol ac yn drosglwyddadwy b) yn ddigonol o ran eu cwmpas, yn wyddonol drwyadl ac yn cynnwys data a thystiolaeth gadarn, sy’n osgoi dyblygu ac yn ychwanegu at y gwersi a ddysgwyd c) yn cyd-fynd â’r prosesau deddfwriaethol a’r gofynion technegol ac ansawdd perthnasol.

2. Cynghori CSAG[1], yn ôl y galw, ar egwyddorion a phrosesau gwyddonol sy’n gysylltiedig ag asesiadau amgylcheddol, casglu tystiolaeth a phlatfformau data.

3. Adolygu canfyddiadau’r ffynonellau hyn i sicrhau eu bod yn bodloni manylebau a disgwyliadau y cytunwyd arnynt a bod allbynnau yn berthnasol i Gymru, neu y gallent fod, er mwyn llenwi bylchau tystiolaeth/gwybodaeth.

4. Cynghori ar opsiynau rhannu data a phlatfformau storio data posibl gan sicrhau mynediad agored.

5. Ystyried unrhyw gamau nesaf sy’n deillio o ganfyddiadau sydd angen eu harchwilio ymhellach.

6. Darparu cyngor ac argymhellion i CSAG.

[1] Dylai datblygwyr unigol geisio cyngor, yn ôl y galw, oddi wrth Cyfoeth Naturiol Cymru ar asesiadau amgylcheddol. Nid yw’r hyn a geir gan SEAGP yn cael gwared ar yr angen i ymgysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru fel y rheoleiddiwr ar gyfer trwyddedu morol nac unrhyw gorff penderfynu perthnasol arall.

Aelodaeth

7. Bydd aelodaeth SEAGP yn cynnwys unigolion a ddewisir gan CSAG.

8. Caiff mynychwyr eraill (e.e. arbenigwyr pwnc ychwanegol, cynrychiolwyr diwydiant/cyrff anllywodraethol amgylcheddol/llywodraeth/academyddion sydd â gwybodaeth am faterion penodol, unigolion sydd â rolau penodol ar brosiectau, eu gwahodd i gyfarfodydd SEAGP yn ôl disgresiwn Cadeirydd SEAGP.

Cyfnod

9. Bydd SEAGP yn cyfarfod bob deufis am gyfnod cychwynnol o flwyddyn. Bydd adolygiad o’r grŵp yn cael ei gynnal bob 6 mis i werthuso a thrafod ei ddyfodol.

Ymddygiad

10. Darperir swyddogaeth ysgrifenyddiaeth ar gyfer SEAGP gan Lywodraeth Cymru.

11. Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn rhoi cylch gorchwyl SEAGP ar gael ar gais.

12. Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn darparu nodiadau lefel uchel o gyfarfodydd ac yn cofnodi unrhyw gamau gweithredu gan SEAGP.

13. Os oes gan unrhyw aelod o SEAGP wrthdrawiad buddiannau sy’n berthnasol i gylch gwaith y grŵp, rhaid iddo ef/hi ei ddatgan i’r ysgrifenyddiaeth.

14. Pe bai mater yn codi sydd angen cyngor brys gan SEAGP, mae gan y Cadeirydd y disgresiwn i alw is-set berthnasol o SEAGP er mwyn ei ddarparu.