Neidio i'r prif gynnwys

Sut y byddwn yn cynnal adolygiad targedig i gryfhau'r Cwricwlwm i Gymru.

Diben

Bydd y panel arbenigwyr yn rhoi cyngor annibynnol i'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg ynghylch cyfleoedd i gryfhau'r Cwricwlwm i Gymru drwy sicrhau gwell eglurder, cydlyniaeth a chysondeb, gan hefyd gadw ei weledigaeth, ei bedwar diben a'i egwyddorion craidd.

Mae'r Cylch Gorchwyl hwn yn ymwneud ag Adolygiad Targedig y Cwricwlwm ('Yr Adolygiad') a gomisiynwyd gan y Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, gan gynnwys gwaith y Panel Arbenigwyr a'r holl waith casglu tystiolaeth, gweithgarwch ymgysylltu, cyngor, trafodaethau, canfyddiadau ac adroddiadau cysylltiedig. 

Bydd yr Adolygiad yn helpu i gyflawni ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ‘adolygu trefniadau cwricwlwm ac asesu i symleiddio ac egluro disgwyliadau ar gyfer ysgolion a lleoliadau. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau disgwyliadau clir o ran gwybodaeth ac addysg am ddiwylliant a hanes ein cenedl.’

Ein nod yw gwella deilliannau i bob dysgwr a sicrhau bod modd iddynt ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben.

Bydd yr adolygiad yn dargedig, yn ymarferol ac yn cael ei gynnal am gyfnod penodol, rhwng hydref 2026 a gwanwyn 2027. Bydd y panel yn adolygu'r ddogfennaeth bresennol ac yn cymryd tystiolaeth gan randdeiliaid allweddol i nodi nifer hylaw o opsiynau ymarferol ar gyfer mireinio canllawiau'r Cwricwlwm i Gymru a chryfhau disgwyliadau cenedlaethol ar gyfer ysgolion a lleoliadau. Nid yw'n ailgynllunio'r cwricwlwm yn llwyr nac yn ailystyried ei egwyddorion sylfaenol.

Y cyd-destun

Mae'r Cwricwlwm i Gymru bellach wedi'i weithredu ar draws pob ysgol a gynhelir yng Nghymru. Mae ysgolion a lleoliadau wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran datblygu cwricwla sy'n adlewyrchu gweledigaeth, pedwar diben ac egwyddorion y fframwaith. Mae'r Adolygiad yn adeiladu ar y cynnydd sylweddol sydd wedi'i wneud ers cyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru. Mae'n rhoi cyfle i fyfyrio ar brofiadau gweithredu hyd yma ac ystyried a ellid mireinio disgwyliadau a chanllawiau cenedlaethol mewn modd targedig er mwyn helpu i sicrhau rhagor o gysondeb, hyder ac eglurder i ymarferwyr.

Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn chwarae rhan hanfodol wrth sefydlu disgwyliadau cenedlaethol ar gyfer dysgu gan hefyd alluogi cynllunio cwricwlwm lleol. Bydd yr adolygiad yn ystyried sut gall disgwyliadau cliriach a mwy cydlynol helpu i sicrhau bod y cwricwlwm yn cael ei wireddu'n deg, bod mwy o gysondeb ym mhrofiad dysgwyr, a bod deilliannau'n gwella i bob dysgwr, gan gynnwys y rhai sy'n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol.

Defnyddir y Cwricwlwm mewn ystod eang o gyd-destunau ledled Cymru. Mae'n cael ei roi ar waith mewn cyd-destun dwyieithog ac yn adlewyrchu ein huchelgeisiau fel cenedl ddwyieithog, gan gael ei ddefnyddio mewn cyd-destunau cyfrwng Cymraeg, dwy iaith a chyfrwng Saesneg. Yn ogystal ag ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd ac ysgolion arbennig (gan gynnwys ysgolion sydd â chymeriad crefyddol), mae'n cael ei ddefnyddio gan leoliadau nas cynhelir a ariennir, unedau cyfeirio disgyblion ac addysg heblaw yn yr ysgol. 

Bydd y panel yn archwilio sut gellir cynrychioli Addysg Wleidyddol a Hanes yn well yn y cwricwlwm, yn enwedig Hanes Cymru, fel achosion prawf ar gyfer symleiddio ac egluro disgwyliadau gan gadw egwyddorion sylfaenol y cwricwlwm. Gall cyngor sy'n deillio o'r achosion prawf hyn arwain at oblygiadau ar gyfer llunio disgwyliadau mewn agweddau eraill ar y cwricwlwm, a dylid ystyried y rhain fel y bo'n briodol.

Egwyddorion adolygu

Bydd yr Adolygiad:

  • yn adeiladu ar weledigaeth, pedwar diben ac egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru
  • yn cynghori sut y dylai'r Cwricwlwm fynegi disgwyliadau ynghylch gwybodaeth a chynnydd mewn modd mwy clir
  • yn nodi nifer hylaw o welliannau ymarferol i ddisgwyliadau a chanllawiau'r cwricwlwm cenedlaethol a fyddai'n helpu i sicrhau bod y cwricwlwm yn cael ei wireddu'n llwyddiannus, gwella cysondeb profiadau dysgwyr, a lleihau cymhlethdod a llwyth gwaith diangen i ymarferwyr
  • yn dargedig ac yn cael ei gynnal am gyfnod penodol, gan ganolbwyntio ar ganllawiau'r Cwricwlwm i Gymru a'r ffordd y mae wedi'i wireddu hyd yma. Rhaid i gyngor aros o fewn y fframwaith deddfwriaethol presennol a'r ymrwymiadau polisi ehangach; mae newid i ddeddfwriaeth sylfaenol a pholisi cymwysterau y tu allan i gwmpas y gwaith
  • yn gweithio o fewn ymrwymiadau polisi ehangach ar Gymru fel cenedl ddwyieithog uchelgeisiol, sef sicrhau darpariaeth deg a chynhwysol i bob dysgwr, gan gynnwys y rhai sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r rhai mwy abl a thalentog
  • yn rhoi ystyriaeth i'r amcanion ehangach a'r cyfeiriad a nodir yn y Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol. Nid bwriad yr Adolygiad yw ailystyried bwriad polisi'r Cynllun, gan gynnwys yr ymrwymiad i ddarparu manylion ychwanegol ar gyfer llythrennedd a rhifedd, dangosydd blwyddyn 6, y tirlun ehangach o ran data a gwella ysgolion, na gwaith y Bwrdd Cyflawni
  • yn rhoi cyngor ar broses o adolygu a mireinio trefniadau cwricwlwm ac asesu yn y dyfodol, gan gydnabod bod angen addasu cwricwlwm effeithiol yn rheolaidd er mwyn sicrhau ei fod yn parhau'n berthnasol i bob dysgwr mewn byd sy'n newid

Cwestiynau allweddol

Disgwyliadau'r cwricwlwm: sut allwn ni sicrhau bod y Cwricwlwm i Gymru yn darparu disgwyliadau clir, cydlynol a gweithredadwy i ysgolion ac ymarferwyr?

Dylai hyn gynnwys:

  • yr hyn ddylai fod yn gyson yn genedlaethol, y lefel briodol o ragnodi yn y Fframwaith cenedlaethol, a chwmpas ymreolaeth broffesiynol athrawon wrth gynllunio ac addysgu'r cwricwlwm
  • rôl gwybodaeth o fewn disgwyliadau'r cwricwlwm cenedlaethol, gan gynnwys pa wybodaeth, faint o wybodaeth ac ym mha ffurf y dylid ei chyflwyno
  • sut gellir defnyddio Addysg Wleidyddol a Hanes, ac yn benodol cynrychiolaeth Hanes Cymru (gan gynnwys ei chelfyddydau, ei diwylliant a'i threftadaeth), fel achosion prawf i ddangos disgwyliadau cliriach o ran gwybodaeth ac addysg am y meysydd cwricwlwm hyn

Disgwyliadau cynnydd ac asesu: sut gellir cryfhau'r disgwyliadau yn y Cwricwlwm i Gymru i wella hyder mewn safonau, cefnogi prosesau asesu ar gyfer dysgu, a galluogi ac estyn pob dysgwr i wneud cynnydd?

Dylai hyn gynnwys:

  • pa ddisgwyliadau a chanllawiau cenedlaethol sydd eu hangen i helpu ymarferwyr i werthuso cynnydd dysgwyr yn glir dros amser ac i gynorthwyo a herio dysgwyr yn eu camau nesaf
  • sut gellir cyfleu gwybodaeth asesu i ymarferwyr, dysgwyr, a rhieni a gofalwyr
  • sut gellir defnyddio gwybodaeth asesu'n effeithiol wrth bontio i helpu i sicrhau parhad cynnydd
  • sut gall canllawiau cwricwlwm ac asesu gyfrannu at gynnydd dysgwyr a gwella safonau mewn llythrennedd a rhifedd, yng nghyd-destun y Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol presennol a'i ymrwymiadau, nad ydynt yn destun newid
  • sut gall trefniadau asesu leihau llwyth gwaith, baich gweinyddol a dyblygu, gan hefyd hyrwyddo arferion o ansawdd uchel
  • gwersi perthnasol o arferion asesu mewn systemau addysg eraill sy'n perfformio'n dda ac sy'n gwella, gan gynnwys defnydd ac effeithiau deallusrwydd artiffisial
  • unrhyw oblygiadau i'r tirlun presennol o ran data a gwella ysgolion, sy'n deillio o'r gwaith mireinio arfaethedig, heb adolygu na newid trefniadau asesu ar lefel system na dangosydd Blwyddyn 6

Sicrhau y caiff y Cwricwlwm i Gymru ei wireddu'n effeithiol: sut gall mireinio disgwyliadau a chanllawiau'r cwricwlwm mewn modd ymarferol helpu i wireddu'r cwricwlwm yn fwy cyson a lleihau llwyth gwaith diangen i ymarferwyr o fewn ymrwymiadau polisi presennol?

Dylai hyn gynnwys:

  • sut gall y mireinio arfaethedig o ran disgwyliadau a chanllawiau cwricwlwm fod yn gydnaws â'r polisïau a'r diwygiadau ehangach presennol, heb ailagor yr ymrwymiadau hynny
  • sut mae'r Cwricwlwm yn cefnogi dyheadau Cymru fel cenedl ddwyieithog uchelgeisiol, fel y'i hadlewyrchir yn Neddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025
  • sut gall y mireinio arfaethedig helpu i sicrhau darpariaeth deg a chynhwysol, rhagor o gysondeb ym mhrofiadau dysgwyr a chynnydd i bob dysgwr, gan gynnwys dysgwyr sy'n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol, y rhai sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r rhai sy'n Fwy Abl a Thalentog
  • unrhyw oblygiadau i gymwysterau (er bod y polisi cymwysterau ei hun y tu hwnt i'r cwmpas)
  • sicrhau bod disgwyl i'r holl newidiadau arfaethedig leihau llwyth gwaith ymarferwyr a biwrocratiaeth ddiangen
  • unrhyw oblygiadau ymarferol sy'n deillio o'r mireinio arfaethedig i'r trefniadau presennol o ran dysgu proffesiynol, adnoddau a chefnogaeth ehangach, yn hytrach na chynnal adolygiad ar wahân o'r trefniadau hynny

Mireinio yn y dyfodol: pa oblygiadau sydd gan ganfyddiadau'r adolygiad ar gyfer gwerthuso a mireinio'r cwricwlwm yn y dyfodol?

Dylai hyn gynnwys:

  • unrhyw oblygiadau sy'n deillio o ganfyddiadau'r panel ar gyfer datblygu a mireinio'r cwricwlwm yn y dyfodol
  • meysydd lle y gallai fod angen rhagor o ystyriaeth, gwaith casglu tystiolaeth neu waith datblygu polisi
  • cyngor ar faterion y dylid eu hystyried yn rhan o unrhyw raglen yn y dyfodol sy'n ymwneud â gwerthuso a mireinio'r cwricwlwm

Mae sefydlu cylch parhaus o werthuso a mireinio'r cwricwlwm, neu ymgymryd â'r gwaith hwnnw, y tu allan i gwmpas yr adolygiad hwn. Fodd bynnag, rhagwelir y gallai'r model a ddefnyddir i adolygu agweddau ar y cwricwlwm a amlinellir yma fod yn sail i waith gwerthuso yn y dyfodol. Felly, gofynnir i aelodau fyfyrio ar y broses adolygu a'u cyfranogiad ynddi, a bydd eu sylwadau'n cael eu cofnodi.

Ffyrdd o weithio

  • Bydd aelodau'r panel yn cyfrannu arbenigedd, yn cynnal eu gwaith ymchwil desg eu hunain, yn adolygu dogfennaeth bresennol y cwricwlwm a thystiolaeth ynghylch gweithredu a gwerthuso, yn cymryd rhan mewn gweithgarwch ymgysylltu ac yn datblygu cyngor annibynnol i'r Gweinidog.
  • Bydd aelodau'r panel yn ystyried tystiolaeth gan ymarferwyr a'u hundebau llafur, dysgwyr, rhanddeiliaid, ymchwilwyr ac arbenigwyr perthnasol eraill. Er mwyn lleihau'r llwyth gwaith ychwanegol i'r gweithlu addysg, bydd gwaith ymgysylltu yn adeiladu ar weithgarwch a gweithdrefnau presennol. 
    • Ymhlith y grwpiau presennol y mae'n bosibl y bydd y panel am ymgysylltu â nhw mae'r Paneli Arbenigol ar Lythrennedd a Rhifedd, y Grŵp Cynghori Gweinidogol ar gyfer Penaethiaid, Grŵp Polisi Ymarferwyr y Cwricwlwm i Gymru, Estyn, awdurdodau lleol a'r Rhwydwaith Gwella Addysg, Dysgu, Adnodd, Tîm Gwella Addysg Llywodraeth Cymru, swyddogion polisi perthnasol, y Rhaglen Gymorth Genedlaethol ar gyfer Cynllunio Cwricwlwm ac Asesu, a grantiau dysgu proffesiynol perthnasol.
    • Bydd y panel yn penderfynu lle mae angen rhagor o waith ymgysylltu, gan gydnabod bod yr adolygiad yn cael ei gynnal am gyfnod penodol, a bod angen caniatáu digon o amser i ystyried tystiolaeth a datblygu cyngor.
  • Bydd gwaith aelodau'r panel yn cael ei ystyried yn gyfrinachol fel rhan o'r broses datblygu polisi. Rhaid i aelodau gydymffurfio â'r gofynion cyfrinachedd a nodir yn y Cod Ymddygiad, sy'n gymwys i wybodaeth, dogfennau, tystiolaeth, trafodaethau a deunyddiau a gesglir drwy gymryd rhan yn yr Adolygiad.
  • Bydd cyfarfodydd a chofnodion cysylltiedig yn cael eu trin fel deunydd cyfrinachol sy'n ymwneud â datblygu polisi. Bydd unrhyw ohebiaeth gyhoeddus gan aelodau'r panel yn cael ei chydlynu â Llywodraeth Cymru, ac yn ôl eu disgresiwn.
  • Bydd y panel yn gyfrifol am eiriad ei gasgliadau a'i gyngor, gan gynnwys cyflwyno safbwyntiau unigol a chyfunol. Y Gweinidog fydd yn gwneud penderfyniadau ynghylch a ddylid bwrw ymlaen â'r cyngor hwnnw a sut i wneud hynny.
  • Bydd ysgrifenyddiaeth Llywodraeth Cymru yn:
    • cydlynu cyfarfodydd a gweithgarwch ymgysylltu
    • darparu cymorth gweinyddol
    • cynorthwyo gyda'r gwaith o gasglu tystiolaeth, gan gynnwys coladu ymchwil, adroddiadau gwerthuso a chanllawiau cwricwlwm presennol i'w hystyried gan y panel
    • darparu cymorth drafftio a hwyluso yn ôl yr angen a chydlynu'r gwaith o lunio'r adroddiad terfynol, gan sicrhau hefyd bod y panel yn parhau'n gyfrifol am ei gasgliadau a'i gyngor

Allbynnau

Bydd y panel yn llunio adroddiad terfynol cryno a dwyieithog i Weinidog y Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg erbyn gwanwyn 2027.

Dylai'r adroddiad helpu gweinidogion i wneud penderfyniadau, drwy:

  • nodi canfyddiadau allweddol
  • cyflwyno nifer hylaw o opsiynau ymarferol ar gyfer mireinio disgwyliadau a chanllawiau'r cwricwlwm cenedlaethol, gan gynnwys yr hyn y dylid ei gadw, ei egluro neu ei newid, gan ddefnyddio Addysg Wleidyddol a Hanes, yn benodol Hanes Cymru, fel achosion prawf
  • amlinellu ystyriaethau sy'n ymwneud â gweithredu a gwireddu
  • nodi dibyniaethau a risgiau

Os yw'r panel o'r farn y dylid egluro neu newid y ffordd y caiff disgwyliadau'r Cwricwlwm eu llunio, bydd Llywodraeth Cymru yn croesawu egwyddorion ymarferol clir ar gyfer llunio a geirio'r disgwyliadau hyn. Yn benodol, mae Llywodraeth Cymru yn argymell cyngor clir a gweithredadwy, ar yr hyn ddylid ei gadw, ei egluro neu ei newid.