Neidio i'r prif gynnwy

Aelodaeth a rôl

Mae'r Bwrdd yn goruchwylio llywodraethiant a strategaeth sefydliadol ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'n eistedd ochr yn ochr â'r Pwyllgor Gweithredol ac yn darparu cyngor, her a sicrwydd strategol ar gyfer y sefydliad. Mae aelodau'r Bwrdd yn cael eu penodi gan yr Ysgrifennydd Parhaol yn unol ag arferion gorau'r Gwasanaeth Sifil. Mae manylion yr aelodau presennol i'w gweld yn Atodiad A.

Rôl y Bwrdd yw darparu:

  • Sicrwydd i'r Ysgrifennydd Parhaol wrth iddo arfer ei swyddogaeth fel Prif Swyddog Cyfrifyddu. Dylai'r Bwrdd ei chefnogi i sicrhau bod y sefydliad yn gweithredu i'r safon uchaf o lywodraethiant, rheolaeth ariannol, ac wrth reoli risgiau a phrosesu cyfrifon blynyddol.
  • Cyngor strategol ar gyflawni blaenoriaethau'r Llywodraeth yn unol â'r amcanion yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae'r rhain yn cynnwys Ymrwymiadau Maniffesto'r Prif Weinidog, Symud Cymru Ymlaen a'r strategaeth genedlaethol, Ffyniant i Bawb.
  • Her i'r sefydliad a chyngor i'r Ysgrifennydd Parhaol ar strategaeth a dylunio sefydliadol a chynllunio'r gweithlu er mwyn sicrhau bod y sefydliad yn parhau i fod yn addas at y diben, bod ganddo adnoddau digonol a'i fod yn hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth drwy'r sefydliad cyfan.

Dulliau gweithredu

  • Mae'r Bwrdd yn cyfarfod yn ffurfiol unwaith bob chwe wythnos, ac o bryd i'w gilydd bydd yn cynnal sesiynau gweithio llai ffurfiol.
  • Caiff papurau'r Bwrdd eu cylchredeg bum diwrnod gwaith cyn ei gyfarfodydd, ac mae'r cofnodion yn cael eu hanfon at yr aelodau o fewn deng niwrnod gwaith i ddyddiad cyfarfod.
  • Disgwylir i aelodau'r Bwrdd gadw at God Ymddygiad Aelodau'r Bwrdd. Gweler Atodiad B.
  • Anfonir llythyrau ffurfiol at aelodau'r Bwrdd sy'n ymuno â Bwrdd Llywodraeth Cymru ac yn ymadael ag ef.

Strwythur yr is-bwyllgorau

  • Mae gan y Bwrdd ddau is-bwyllgor: Pwyllgor Tâl yr Uwch-wasanaeth Sifil a'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (a’r ddau yn cael eu cadeirio gan Gyfarwyddwr Anweithredol). Mae diagram o'r strwythur i'w weld yn Atodiad C.
  • Caiff y Bwrdd hefyd sefydlu grwpiau ad-hoc, yn ôl yr angen, i gyflawni blaenoriaethau corfforaethol allweddol.
  • Mae'r Cyfarwyddwyr Anweithredol yn aelodau o'r Is-bwyllgor Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol sydd yn adrodd i'r Pwyllgor Gweithredol.

Atodiad A: Aelodau'r bwrdd

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Gareth Lynn, Cyfarwyddwr Anweithredol
  • Meena Upadhyaya, Cyfarwyddwr Anweithredol
  • Ellen Donovan, Cyfarwyddwr Anweithredol
  • i'w gadarnhau, Cyfarwyddwr Anweithredol
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol - Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol - Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol - yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
  • Desmond Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol Swyddfa'r Prif Weinidog a Brexit
  • Reg Kilpatrick - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu’r Argyfwng Covid
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • David Richards, Cyfarwyddwr - Llywodraethu a Moeseg
  • Peter Kennedy, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol
  • Natalie Pearson, Pennaeth Datblygu Sefydliadol ac Ymgysylltu
  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys - Hyrwyddwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y Bwrdd
  • Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid
  • Cyd-Gadeiryddion y Bwrdd Cysgodol

Mae Cyd-Gadeiryddion y Bwrdd Cysgodol yn arsylwyr sy'n cymryd rhan ac yn dod o raddau islaw'r Uwch Wasanaeth Sifil i ddarparu gwahanol safbwyntiau ar y materion a drafodir ym Mwrdd Llywodraeth Cymru.

Atodiad B: Cod Ymddygiad Aelodau'r Bwrdd

Ymddygiad cyffredinol

Dylai aelodau'r bwrdd:

  • roi blaenoriaeth i fynychu cyfarfodydd y Bwrdd, gan eu mynychu mewn modd amserol. Dylent roi gwybod i'r Ysgrifenyddiaeth ymlaen llaw os nad ydynt yn gallu mynychu cyfarfod neu ran ohono;
  • penodi dirprwy addas i fynd yn eu lle, os nad ydynt fel aelod gweithredol o'r Bwrdd yn gallu mynd i gyfarfod eu hunain;
  • ymgyfarwyddo'n llawn â manylion y busnes sydd i'w drafod cyn mynd i gyfarfod er mwyn cyfrannu'n llawn ac yn ystyrlon at waith y Bwrdd;
  • dangos parch at y Cadeirydd ac at eu cyd-aelodau, gan eu trin â chwrteisi bob amser;
  • sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion Safonau'r Gymraeg;
  • cadw at Egwyddorion Nolan;
  • Ni fydd Cyfarwyddwyr Anweithredol yn cael eu comisiynu i ymgymryd â rolau eraill ar gyfer Llywodraeth Cymru nad ydynt yn cael eu cyflawni fel rhan o'u rôl fel Cyfarwyddwyr Anweithredol. Yn ogystal, ni fyddai Llywodraeth Cymru yn fodlon i’w chyfarwyddwyr anweithredol ymgymryd â rolau ar gyfer cyrff hyd braich Llywodraeth Cymru oni bai ei bod yn argyhoeddedig mai dim ond ychydig iawn o le sydd ar gyfer gwrthdaro buddiannau; os yw’n hyderus y gellir rheoli'r gwrthdaro buddiannau hwnnw'n briodol; ac a fyddai budd cyheddus clir pe bai’r Cyfarwyddwr Anweithredol yn ymgymryd â'r rôl ychwanegol gyda chorff hyd braich. Gwahoddir y Cyfarwyddwyr Anweithredol i drafod yn anffurfiol â’r ysgrifenyddiaeth os ydynt yn ystyried penodiadau o'r fath.

Atodiad C: Diagram o'r strwythur

 

Image