Neidio i'r prif gynnwy

Y cyngor penodol sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru yn 2022 i 2023

1a) Adroddiadau manwl a, phan fo’n briodol, adnoddau eraill sy’n defnyddio tystiolaeth a gesglir o archwiliadau thematig

Mae’r adolygiadau thematig sydd i’w cynnwys yng nghylch gwaith Estyn ar gyfer 2022 i 2023 wedi’u rhestru yn y tabl isod.

Mae’r rhestr yn cynnwys 7 eitem: 6 adolygiad safonol ac 1 adolygiad byr.

Mae’r eitemau sydd wedi’u cynnwys yn adlewyrchu cylch gwaith strategol sydd â phwyslais ar y diwygiadau presennol ar gyfer gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru, Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg, a diwygio Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol, ac mae’n cynnwys eitem sy’n canolbwyntio ar ddatblygu’r Gymraeg a ffocws ar gefnogi dysgwyr agored i niwed.

 

 

Teitl

Diben

Hyd

1.

Gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg mewn ysgolion

Bydd yr adolygiad hwn yn ystyried y trefniadau a’r broses ar gyfer gweithredu’r gofynion a amlinellir yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, unedau cyfeirio disgyblion ac awdurdodau lleol, a gwybodaeth a gasglwyd yn 2021 i 2022 drwy alwadau ac ymweliadau ymgysylltu.

Adolygiad safonol

2.

Datblygu medrau darllen

Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar ddatblygu medrau darllen, gan gynnwys medrau darllen ar lefel uwch, ar gyfer pobl ifanc 11 i 14 oed a’r pontio rhwng Blwyddyn 6 a Blwyddyn 7.

Byddai hwn yn adolygiad dros ddwy flynedd, gyda’r ffocws yn 2022 i 2023 ar fedrau darllen yn Saesneg. Yn 2023 i 2024, byddai’r ffocws ar ddatblygu medrau darllen Cymraeg ar gyfer y grŵp oedran hwn.

Blwyddyn 1 o 2

Adolygiad safonol

3.

Datblygu’r Gymraeg mewn addysg gychwynnol i athrawon

Gohiriwyd yr adolygiad hwn o Lythyr Cylch Gwaith 2020 i 2021, ar ôl diwygio gweithgarwch thematig yn sgil y pandemig. Bydd yr adolygiad hwn yn canolbwyntio ar ba mor dda mae sefydliadau addysg gychwynnol i athrawon yn cefnogi athrawon sy’n fyfyrwyr i wella eu medrau Cymraeg, gan gynnwys addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Adolygiad safonol

4.

Cefnogi dysgwyr sy’n cael Addysg Heblaw yn yr Ysgol

 

Bydd yr adolygiad hwn yn adeiladu ar adolygiadau thematig eraill o ddarpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol ac yn rhoi diweddariad ar gynnydd yn erbyn argymhellion mewn adroddiad blaenorol. Byddai’r adroddiad yn ystyried yr hyn sy’n gweithio’n dda o ran cefnogi dysgwyr i ddychwelyd i addysg brif ffrwd.

Adolygiad safonol

5.

Aflonyddu rhywiol rhwng cymheiriaid mewn colegau Addysg Bellach

Bydd yr adolygiad hwn yn dilyn yr adolygiad y gwnaed cais amdano yn 2021 i 2022 o’r diwylliant a’r prosesau mewn ysgolion uwchradd annibynnol a rhai a gynhelir er mwyn diogelu a chefnogi pobl ifanc, drwy ganolbwyntio ar y diwylliant a’r prosesau mewn colegau addysg bellach.

Adolygiad safonol

6.

Darparu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn rhaglenni prentisiaethau

Gohiriwyd yr adolygiad hwn o Lythyr Cylch Gwaith 2019 i 2020, ar ôl diwygio gweithgarwch thematig yn sgil y pandemig. Bydd yn canolbwyntio’n benodol ar arferion da wrth ymgorffori cymwysterau sgiliau hanfodol i’r ddarpariaeth ddysgu. Byddai hyn yn adeiladu ar ganfyddiadau mewn arolygiadau blaenorol o ran diffygion yn y gwaith o gynllunio a darparu cymwysterau sgiliau hanfodol mewn rhaglenni dysgu galwedigaethol, ynghyd â deilliannau adolygiad Cymwysterau Cymru.

Adolygiad safonol

7.

Llywodraethu: Arferion effeithiol gan gynnwys gweithredu fel ffrindiau beirniadol (gan gynnwys herio ar lefelau amrywiol), effaith hyfforddi llywodraethwyr 

Mae herio tîm arwain yr ysgol yn faes lle mae angen cefnogaeth ar nifer o gyrff llywodraethu – byddai’r adroddiad hwn yn asesu effeithiolrwydd cyrff llywodraethu ac yn amlygu pa gymorth a hyfforddiant sydd ei angen i uwchsgilio llywodraethwyr i’w paratoi ar gyfer y trefniadau gwerthuso, gwella ac atebolrwydd a’r diwygiadau cwricwlwm.

Adolygiad byr

1b) Parhau i roi cyngor, adroddiadau manwl a, phan fo’n briodol, adnoddau eraill sy’n defnyddio tystiolaeth a gesglir o arolygiadau, galwadau ac ymweliadau ymgysylltu a gweithgarwch arall

Mae’r pynciau a ganlyn yn flaenoriaethau i Estyn ar gyfer darparu cyngor i Lywodraeth Cymru drwy ymweliadau ymgysylltu rheolaidd a gweithgarwch arall gydag ysgolion a darparwyr eraill.

 

 

Teitl

Diben

1.

Gweithredu rhaglenni newydd Twf Swyddi Cymru +

Bydd ymweliadau ymgysylltu a gweithgarwch arall i ddarparwyr sy’n darparu’r rhaglenni hyn yn canolbwyntio ar sut mae’r rhaglenni yn mynd rhagddynt yn ystod eu blwyddyn gyntaf, cyn ystyried adolygiad neu arolygiad pellach. 

Bydd adroddiad cenedlaethol yn amlinellu llwyddiant a heriau’r rhaglenni.

2.

Gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru – adeiladu ar gynnydd o ran dylunio a chynllunio’r cwricwlwm 

 

Bydd ymweliadau ymgysylltu a gweithgarwch arall yn parhau i adolygu sut mae ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion a lleoliadau nas cynhelir yn paratoi ar gyfer addysgu’r Cwricwlwm i Gymru gyntaf ac yn cynnwys dilyniant, gan gynnwys ymgysylltu a dilyniant dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig economaidd-gymdeithasol, yn eu gwaith dylunio a chynllunio. Byddai diweddariadau ac adroddiadau rheolaidd yn canolbwyntio ar y gwersi a ddysgwyd – beth sy’n gweithio’n dda a pham, pa beryglon i’w hosgoi a chameos o arferion diddorol, yn archwilio’r egwyddorion sy’n sail i arferion effeithiol.

3.

Cymorth gan awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol ar gyfer gwella’r ysgol

Bydd ymweliadau ymgysylltu a gweithgarwch arall yn canolbwyntio ar ddarparu adroddiad diweddariad ar y cymorth i wella ysgolion gan awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol, gan gynnwys y trefniadau sy’n newid yn y De-orllewin a’r Canolbarth.

Yn ystod 2022 i 2023 bydd Estyn yn parhau i gasglu gwybodaeth o alwadau ac ymweliadau ymgysylltu i gefnogi cynllun adfer dysgu Llywodraeth Cymru yn sgil pandemig COVID-19 ar gyfer y sector addysg a’r sector hyfforddiant. Bydd hyn yn arwain at adroddiadau rheolaidd, gan gynnwys cameos o arferion diddorol.

Yn benodol, byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i Estyn ddarparu cyngor ar draws y sectorau sydd o fewn ei gylch gwaith mewn perthynas â’r canlynol:

  • ymgysylltu â dysgwyr, gan gynnwys strategaethau effeithiol ar gyfer gwahanol grwpiau oedran
  • darparu cwricwlwm eang a chytbwys, a gefnogir gan asesiadau priodol, sy’n diwallu anghenion pob dysgwr
  • cymorth i ddysgwyr, rhieni a gweithwyr proffesiynol, yn enwedig mewn perthynas â llesiant emosiynol
  • tegwch o ran dysgu a chefnogaeth mewn addysg, gan gyfeirio at egwyddorion ‘Safonau a Dyheadau Uchel: strategaeth ar gyfer mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad’
  • cymorth wrth bontio i addysg gynradd ac uwchradd, ac i addysg a hyfforddiant ôl-16
  • amrywiaeth
  • cynllunio gwelliannau ac arweinyddiaeth
  • y system ar gyfer dyfarnu cymwysterau presennol a datblygu cymwysterau ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru

Yn ogystal â diweddariadau tymhorol, gellir rhoi’r cyngor hwn hefyd drwy gyfrannu at weithgorau, y Sgyrsiau Rhwydwaith Cenedlaethol, cyngor ysgrifenedig neu ganllawiau neu adroddiadau a gyhoeddir.

1c) Parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol i gefnogi ysgolion sy’n destun pryder

Bydd Estyn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i dreialu dulliau o gefnogi ysgolion uwchradd sy’n destun pryder.

1d) Parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid i gefnogi’r gwaith o ddiwygio addysg a hyfforddiant ôl-orfodol

Bydd Estyn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid i gefnogi’r gwaith o ddiwygio addysg a hyfforddiant ôl-orfodol a pharatoadau yn dilyn deddfwriaeth i greu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.

1e) Cymorth ar gyfer addysg gychwynnol i athrawon yn y sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol

Gan adeiladu ar ganfyddiadau'r adolygiad thematig o addysg a hyfforddiant cychwynnol i athrawon yn y sectorau ôl-orfodol, bydd Estyn yn rhoi cymorth i grŵp llywio datblygu gweithlu Ôl-16 Llywodraeth Cymru ac yn cynnal dadansoddiad pellach o addysg gychwynnol i athrawon ar gyfer y sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol.

1f) Datblygu rhaglen arolygu gwaith ieuenctid

Gan adeiladu ar argymhelliad adroddiad y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro, ac ymateb y Gweinidog i'r argymhelliad hwnnw, bydd Estyn yn datblygu rhaglen arolygu lleoliadau/darpariaeth gwaith ieuenctid ar gyfer y sector gwirfoddol a'r sector a gynhelir. Bydd hyn yn cynnwys hyfforddi ymarferwyr presennol fel arolygwyr cymheiriaid a threialu dulliau o gynnwys pobl ifanc mewn tîm arolygu.

1g) Cymorth ar gyfer trefniadau awdurdodau lleol a rhanbarthol ar gyfer gwasanaethau gwella ysgolion sy'n ymwneud â thechnoleg addysg (EdTech)

Bydd Estyn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i adolygu'r defnydd o gyllid technoleg addysg mewn ymweliadau cyswllt awdurdodau lleol.

1h) Meysydd polisi y gallai’r Gyfarwyddiaeth Addysg geisio cyngor neu gymorth yn eu cylch, a hynny drwy gyfrannu at waith gweithgorau

Mae Estyn yn darparu cyngor a chymorth ar gyfer gwneud penderfyniadau mewn amrywiaeth o feysydd. Gellir gofyn i Estyn roi cymorth i amryw o wahanol weithgorau, drwy ddod yn rhan ohonynt, drwy gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig, neu drwy drafodaethau gydag uwch-swyddogion o’r Gyfarwyddiaeth Addysg a’r Gyfarwyddiaeth Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes.

Ar gyfer 2022 i 2023, rhagwelir y bydd Estyn yn rhan o’r gweithgorau canlynol, ond bydd hyn yn cael ei adolygu yn y dyfodol:

  • Fforwm Cymru Gyfan o Ymarferwyr Addysg Sipsiwn-Teithwyr
  • Grŵp Technegol a Grŵp Llywio Mesurau Perfformiad Cyson
  • Grŵp y Cwricwlwm i Gymru
  • Grŵp Asesu y Cwricwlwm i Gymru
  • Datblygu grŵp gorchwyl a gorffen y gweithlu Cymraeg a chyfrwng Cymraeg
  • Awdurdod Gweithredu Technoleg Addysg
  • Grŵp Safoni Technegol
  • Bwrdd Prosiect y Blynyddoedd Cynnar
  • Grŵp Gorchwyl a Gorffen Fframwaith Ansawdd Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar
  • Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Addysg Heblaw yn yr Ysgol
  • Grŵp Llywio Dyfodol Byd-eang
  • Grŵp Fframwaith Iaith Gymraeg ar gyfer ysgolion a lleoliadau cyfrwng Saesneg
  • Safonau a Dyheadau Uchel: strategaeth ar gyfer mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad
  • Bwrdd Cynghori ar Recriwtio a Chadw Athrawon
  • Grŵp Rhanddeiliaid Gyrfa Gynnar
  • Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro a’r Bwrdd Gweithredu Gwaith Ieuenctid newydd
  • Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cyd-Weinidogol ar Ddull Ysgol Gyfan o Ymdrin ag Iechyd Meddwl a Llesiant
  • Cyfarfod Cadw mewn Cysylltiad (y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, Llywodraeth Cymru ac Arolygiaethau)
  • Bwrdd Prosiect Ysgolion sy’n Ymarferwyr Arweiniol ac Ysgolion sy’n Ymarferwyr Datblygol
  • Gweithgorau Trefniadau Amddiffyn Rhyddid
  • Fforwm Awdurdodau Lleol ar Gyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig
  • Y Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol
  • Grŵp Cydlynu’r Rhwydwaith Cenedlaethol
  • Y sector nas cynhelir – adnoddau cefnogi’r cwricwlwm
  • Grŵp Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal mewn addysg
  • Grŵp Sgiliau Dysgu a Chyflogadwyedd Troseddwyr
  • Addysg yng Nghymru: Cyflawni Rhaglen Cenhadaeth ein Cenedl
  • Grŵp Cyfranogiad y Strategaeth Datblygu’r Gweithlu
  • Bwrdd Gweithredu a Strategaeth y Gweinidog ar Ddiwygio Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol
  • Grŵp Llywio Digidol 2030 Ôl-16
  • Grŵp Llywio ac is-grwpiau Datblygu Gweithlu Proffesiynol
  • Grŵp Cydweithio a Dysgu Proffesiynol
  • Grŵp Darllen a Llafaredd yng Nghymru
  • Grŵp Llywio Diogelwch mewn Addysg
  • Grŵp Cyflawni Addysg Strategol
  • Grŵp Llywio Dysgu Proffesiynol i Gynorthwywyr Addysgu
  • Grŵp Cynghori ar Asesu
  • Bwrdd Prosiect Asesiadau Personol
  • Gweithgor y Portffolio Dysgu
  • Cynnig Gofal Plant Cymru: Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid
  • Y Fforwm Cymwysterau Galwedigaethol
  • Grŵp Diogelu Plant a Phobl Ifanc Agored i Niwed
  • Fforwm Strategol Cymru ar gyfer Datblygu Gyrfaoedd
  • Cynhadledd Cymorth a Gwella Llywodraeth Cymru

1i) Meysydd eraill y gallai Llywodraeth Cymru geisio cyngor a chymorth yn eu cylch o ran addysg a hyfforddiant yng Nghymru

Mae Estyn hefyd yn cynnig cefnogaeth barhaus yn y meysydd canlynol:

  • cynigion yn ymwneud â chau ac ad-drefnu ysgolion
  • gwaith monitro rheolaidd mewn perthynas ag ysgolion annibynnol cofrestredig i ddarparu darpariaeth ddysgu ychwanegol i ddysgwyr â datganiadau AAA neu gynlluniau datblygu unigol
  • arolygu a monitro’n flynyddol holl golegau arbenigol annibynnol Cymru, a darparu arolygydd fel rhan o dîm ar gyfer yr arolygiadau neu’r ymweliadau monitro blynyddol â cholegau arbenigol annibynnol yn Lloegr lle y caiff lleoedd 10 neu ragor o ddysgwyr o Gymru eu cyllido
  • cofrestru ysgolion annibynnol, gan gynnwys ceisiadau am newidiadau sylweddol
  • y Grant Datblygu Disgyblion
  • y Grant Gwella Addysg ar gyfer ysgolion
  • datblygu cymwysterau a threfniadau arolygu ar gyfer unrhyw ofynion newydd arfaethedig o ran hyfforddiant cychwynnol i athrawon a datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer athrawon, tiwtoriaid a hyfforddwyr yn y sector dysgu gydol oes
  • ysgolion sy'n peri pryder
  • gwaith dilynol gyda’r Awdurdodau Addysg Lleol a threfniadau rhanbarthol ar gyfer gwasanaethau gwella ysgolion
  • gweithio gyda thîm Anrhydeddau Canolog Llywodraeth Cymru i gyfrannu unrhyw wybodaeth berthnasol fel rhan o’i broses ar gyfer dilysu cyfeiriadau anrhydedd ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn darparwyr hyfforddiant ac addysg
  • helpu Llywodraeth Cymru gyda’r ymateb i’r Ymholiad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol, os oes angen
  • gwybodaeth gefndir ar gyfer cyfarfodydd ac ymweliadau Gweinidogion ag ysgolion a darparwyr eraill
  • cwestiynau’r Senedd

2. Rhagolwg dangosol ar eitemau y bydd hi o bosibl yn ofynnol i Lywodraeth Cymru eu darparu yn 2023 i 2024

Rhagolwg dros dro yn unig yw hwn a’i nod yw helpu Estyn i gynllunio ar gyfer 2023 – 2024. Bydd trafodaethau manwl pellach yn cael eu cynnal rhwng swyddogion polisi Estyn cyn y cytunir ar eitemau.

  • datblygu sgiliau darllen yn y Gymraeg (ail flwyddyn yr adolygiad, yn canolbwyntio ar bobl ifanc 11-14 oed, a’r pontio rhwng Blwyddyn 6 a Blwyddyn 7)
  • rhaglenni dysgu gwell a mwy cyflym mewn addysg bellach
  • gwaith yn ymwneud â ‘Safonau a Dyheadau Uchel: strategaeth ar gyfer mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad’
  • allgáu
  • cefnogaeth ar gyfer dysgwyr agored i niwed mewn lleoliadau nas cynhelir, yn enwedig y rhai ag AAA neu Saesneg fel iaith ychwanegol
  • Gyrfa Cymru: canolbwyntio ar gymorth y Warant i Bobl Ifanc
  • newidiadau i’r diwrnod ysgol
  • cymorth gwella ysgol i ysgolion sy’n peri pryder
  • arferion da mewn dysgu ac addysgu Iaith Arwyddion Prydain
  • adolygiad arferion da o’r cwricwlwm i fynd i’r afael ag amrywiaeth
  • dysgu fel teulu, gan ganolbwyntio ar raglenni rhianta
  • darpariaeth dechrau’n deg