Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd Cymru (AIDAC) yn goruchwylio gweithrediad cyfraith amgylcheddol yng Nghymru ac yn rhoi cyngor i Weinidogion Cymru er mwyn gwella canlyniadau amgylcheddol.

Mae IEPAW yn bwriadu cyhoeddi diweddariadau rheolaidd ar gynnydd eu gwaith. Dyma'r ail ddiweddariad yn y gyfres.

Diweddariad ar gyflwyniadau a dderbyniwyd gan IEPAW

Ers y cylchlythyr diwethaf ym mis Hydref 2022, mae pedwar cyflwyniad wedi dod i law yn ymwneud â'r pryderon canlynol: 

  • Dympio gwastraff gwenwynig   
  • Diffyg amddiffyniad ar gyfer coed a choetir a diffyg gorfodi o dan y ddeddfwriaeth bresennol
  • Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) 
  • Rôl y gyfraith gynllunio wrth amddiffyn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) 

Er nad oes gan IEPAW unrhyw gynlluniau gweithredol i gychwyn adroddiad ar halogiad tir ar hyn o bryd, gofynnwyd am ragor o wybodaeth gan CNC a Llywodraeth Cymru.

Adroddiad ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir

Ar 16 Chwefror 2023, cyflwynodd IEPAW adroddiad byr i Weinidogion Cymru ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) a gynigir gan Lywodraeth y DU. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i'r adroddiad hwn ar 12 Mai 2023.

Blaenraglen waith - adroddiadau

Mae IEPAW yn parhau i weithio ar ei adroddiad ar goedwigaeth. Mae'r adroddiad hwn yn cymryd mwy o amser na'r disgwyl, ond y nod yw ei gyhoeddi o fewn yr ychydig fisoedd nesaf. Bydd yr adroddiad yn canolbwyntio ar orchmynion cadw coed, y Ddeddf Coedwigaeth a materion cysylltiedig. 

Cynhaliodd IEPAW gais am dystiolaeth ar ddiogelu a rheoli gwrychoedd a gaeodd ddiwedd mis Medi 2022. Roedd hyn yn dilyn trafodaeth banel ar y mater hwn yn ystod y Sioe Fawr. Mae IEPAW yn defnyddio'r dystiolaeth hon i lywio adroddiad ynghylch a yw Rheoliadau Gwrychoedd 1997 yn bodloni ei nod o ddiogelu gwrychoedd yn effeithiol.  Mae'r adroddiad hwn bron yn barod a bydd yn cael ei gyhoeddi'n fuan.   
 
Mae IEPAW hefyd yn gweithio ar adroddiad i'r fframwaith cyfreithiol mewn perthynas â safleoedd gwarchodedig. Cynhaliodd IEPAW ford gron ar y mater hwn ym mis Tachwedd 2022, gyda chais am dystiolaeth yn dilyn. Nod IEPAW yw cwblhau'r adroddiad hwn tua diwedd y flwyddyn. Mae'r mater hwn hefyd yn cael ei ystyried gan gyrff llywodraethu amgylcheddol eraill y DU, ac mae IEPAW yn cyfarfod â nhw yn rheolaidd i drafod cynnydd eu gwaith. 

Mae IEPAW yn bwriadu dechrau gweithio ar adroddiad ar y defnydd o sancsiynau sifil mewn cyfraith amgylcheddol. Nod yr adroddiad hwn fydd ystyried a oes gan reoleiddwyr yng Nghymru yr offer sydd eu hangen arnynt i sicrhau cydymffurfiaeth â chyfraith amgylcheddol, ac a fyddai ehangu'r defnydd o sancsiynau sifil mewn cyfraith amgylcheddol yn gwella canlyniadau amgylcheddol. 

Mae IEPAW yn parhau i ddilyn datblygiadau sy'n ymwneud ag ansawdd dŵr yng Nghymru, yn enwedig ar ollyngiadau carthion i gyrsiau dŵr Cymru. Mae hyn yn cynnwys camau gweithredu sy'n codi o adroddiad Pwyllgor CCEI y Senedd ar orlifoedd stormydd a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2022. 
 

Adolygiad IEPAW o adnoddau

Yn unol ag adroddiad Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd ar Weithredu Mesurau Interim Diogelu'r Amgylchedd Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal adolygiad o'r broses o ganfod a darparu adnoddau ar gyfer IEPAW. 

Ar ôl cwblhau'r adolygiad, mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi gwneud yr ymrwymiadau canlynol: 

  • Penodi Dirprwy IEPAW, 
  • Recriwtio staff dynodedig i ddarparu cymorth ysgrifenyddiaeth i IEPAW, a 
  • Bydd rhagor o arian ar gael i IEPAW sicrhau cymorth ac arbenigedd drafftio ychwanegol.

Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu'r adnodd ychwanegol hwn, mawr ei angen, yn cael ei werthfawrogi'n fawr gan IEPAW.

Diweddariadau diweddar